xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Prif dermau

1Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

(2)Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw “trefniadau teithio” ac maent yn cynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;

(c)talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(d)talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.

(3)Ystyr “dysgwyr” yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae “mannau perthnasol” fel a ganlyn—

(a)ysgolion a gynhelir;

(b)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(c)ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);

(d)ysgolion arbennig nas cynhelir;

(e)unedau cyfeirio disgyblion;

(f)mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996;

(g)mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);

(h)sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

(i)mannau lle y darperir addysg feithrin—

(i)gan awdurdod lleol, neu

(ii)gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);

(j)mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.