xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1Diogelwch ar gludiant i ddysgwyrLL+C

Diwygiadau Testunol

F1A. 14B ac cross-heading wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 2, 16(2)

14BRhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.]

[F214CRecordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;

(b)darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;

(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—

(a)corff perthnasol;

(b)person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.]

Diwygiadau Testunol

[F314DAsesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;

(b)ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;

(c)rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;

(d)rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau.]

Diwygiadau Testunol

[F414EHyfforddi gyrwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy'n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.

(2)Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.]

Diwygiadau Testunol

[F514FGoruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy'n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;

(b)darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy'n goruchwylio dysgwyr.]

Diwygiadau Testunol

[F614GCosbau sifilLL+C

Mae i Atodlen A1 effaith.]

Diwygiadau Testunol

[F714HAwdurdod gorfodiLL+C

(1)Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.

(3)Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,

(b)gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gymwys i'r awdurdod gorfodi, neu

(c)darparu i'r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.

(5)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—

(a)deddfiad pryd bynnag y'i pasiwyd neu y'i gwnaed,

(b)deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr is-ddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).]

Diwygiadau Testunol

[F814IPŵer mynediadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i—

(a)cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;

(b)cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).

(2)Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu

(b)y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.

(3)Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—

(a)cadw cerbyd yn gaeth;

(b)mynd i gerbyd neu fangre.

(4)Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.

(5)Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.]

Diwygiadau Testunol

[F914JPŵer arolyguLL+C

(1)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—

(a)arolygu'r cerbyd neu'r fangre;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o'r cerbyd neu'r fangre;

(c)arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu'r fangre neu sy'n gyfrifol am y dogfennau neu'r cofnodion hynny i'w dangos hwy, a

(b)o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i'w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(3)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu'r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—

(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu'r deunydd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.

(5)Mae person o fewn yr is-adran hon—

(a)os y person hwnnw yw'r person sy'n defnyddio'r cyfrifiadur neu a'i defnyddiodd neu'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu

(b)os yw'r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu'n ymwneud fel arall â'u gweithrediad.

(6)Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu'r adran hon.

(7)Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu'r adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]

Diwygiadau Testunol

[F1014KY pŵer i fynnu gwybodaethLL+C

(1)Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—

(a)sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a

(b)sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu'n hwylus i'w cael at ddibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.

(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)corff perthnasol;

(b)unrhyw berson sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i'w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.

(4)Nid yw'r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.

(5)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.]

Diwygiadau Testunol

[F1114LTramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaidLL+C

(1)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r corff corfforaethol, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun.

(2)Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun.]

Diwygiadau Testunol

[F1214MRheoliadau: ymgynghoriLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.]

Diwygiadau Testunol

[F1314NDehongli adrannau 14A i 14KLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.

(2)Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir.

(3)Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.

(4)Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.

(5)Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—

(a)trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(b)trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.]

Diwygiadau Testunol