(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.
(2)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(3)Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—
(a)Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;
(b)Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;
(d)Gweinidogion Cymru;
(e)corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).
(4)Mae'r cyfeiriad yn is-adran (2) at atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn gyfeiriad at atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n deillio o dor-dyletswydd gofal neu sy'n gysylltiedig ag ef a'r ddyletswydd gofal honno yn ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu wrth ofalu am unrhyw glaf neu ei drin,—
(a)o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, neu
(b)o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
(5)At ddibenion is-adran (2), mae gwasanaethau yn wasanaethau cymwys os ydynt o unrhyw ddisgrifiad (gan gynnwys disgrifiad sy'n cynnwys darpariaeth y tu allan i Gymru) y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
(6)Yn is-adran (3)(e), nid yw'r cyfeiriad at berson sy'n darparu gwasanaethau yn cynnwys person sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract cyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)
I2A. 1 mewn grym ar 7.2.2011 gan O.S. 2011/211, ergl. 2, Atod.