Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Diwygio'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

Diwygio rheoliad 4A o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

5.  Yn rheoliad 4A(8)(b) (sy'n ymwneud â chais am gael ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr gan gyflawnwr sydd eisoes wedi'i restru ar restr cyflawnwyr corff gofal sylfaenol), organisation), yn lle “2 months” rhodder “3 months”.

Diwygio rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

6.  Yn rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr (tynnu dros dro oddi ar restr)—

(a) ar ddechrau paragraff (9), mewnosoder “Except as provided in paragraph (9A),”, a

(b) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(9A) For the purpose of an application by a performer who is suspended under these Regulations to be included in another performers list, he or she is to be treated as still included in the list from which he or she is suspended, notwithstanding that suspension..

Diwygio rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

7.  Yn rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr—

(a) ym mharagraff (1), yn lle “(2) and (3), rhodder “(2) to (3)”;

(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—

(2A) A medical practitioner who falls within paragraph (2B) may perform primary medical services in the area of a Local Health Board, but only in so far as the performance of those services constitutes part of a programme of post-registration supervised clinical practice approved by the Board (“a post-registration programme”).

(2B) A medical practitioner falls within this paragraph if he or she—

(a) is not a GP Registrar;

(b) is undertaking a post-registration programme;

(c) has notified the Local Health Board that he or she will be undertaking part or all of a post-registration programme in its area at least 24 hours before commencing any part of that programme taking place in the Local Health Board’s area; and

(d) has, with that notification, provided the Local Health Board with evidence sufficient for it to satisfy itself that he or she is undergoing a post-registration programme.; ac

(c) ym mharagraff (3) yn lle “2 months”, rhodder “3 months”.

Diwygio rheoliad 23A o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

8.  Yn rheoliad 23A(4)(b) (sy'n ymwneud â chais am gael ei gynnwys mewn rhestr cyflawnwyr meddygol gan ymarferydd cyffredinol sydd eisoes wedi'i restru ar restr cyflawnwyr meddygol corff gofal sylfaenol), yn lle “2 months” rhodder “3 months”.

Diwygio rheoliad 29 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr

9.  Yn rheoliad 29(2) (sy'n ymwneud â'r rhestr cyflawnwyr deintyddol), yn lle “two months” rhodder “three months”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol sy'n ymwneud â gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cyflawnwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol yn cael eu cynnwys mewn rhestr cyflawnwyr a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2004 (“y Rheoliadau Contractau GMC”). Yn benodol, mae:

(a) yn gwneud diwygiadau i'r cyfeiriadau at “incapable adults”, ac at y rhai y caniateir iddynt weithredu ar eu rhan, er mwyn adlewyrchu'r termau a ddefnyddir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005;

(b) yn gwneud diwygiadau i'r darpariaethau sy'n ymwneud â system llywodraethu clinigol y contractiwr er mwyn darparu bod rhaid i systemau o'r fath gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn perthynas â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir; ac

(c) yn gwneud mân newidiadau i'r cyfyngiadau ar y rhai sy'n gymwys i gontractio i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ac i'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyflwyno hysbysiadau adfer a hysbysiadau torcyfraith.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr”). Yn benodol:

  • mae rheoliadau 4A, 22, 23A a 29 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'u diwygio i estyn o ddeufis i dri mis y cyfnod pryd y caiff cyflawnwr ddarparu gwasanaethau meddygol neu ddeintyddol sylfaenol ac yntau heb fod ar restr cyflawnwyr.

  • mae rheoliad 13 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'i ddiwygio er mwyn ei gwneud yn glir bod cyflawnwr y mae ei enw wedi'i dynnu dros dro oddi ar restr yn dal i gael ei drin fel petai wedi'i gynnwys yn y rhestr honno mewn perthynas ag unrhyw gais y caiff y cyflawnwr ei wneud i gael ei gynnwys mewn rhestr arall; ac

  • mae rheoliad 22 o'r Rheoliadau Rhestri Cyflawnwyr wedi'i ddiwygio er mwyn caniatáu i feddyg, sy'n ymgymryd â'r rhan ôl-gofrestru o'r rhaglen sylfaen i feddygon sydd newydd gymhwyso, gyflawni gwasanaethau meddygol syflaenol ac yntau heb fod yn ymarferydd cyffredinol na'i enw wedi'i gynnwys ar restr, ond dim ond i'r graddau y mae cyflawni'r gwasanaethau meddygol sylfaenol yn rhan o'r rhaglen honno.