Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 600 (Cy.62)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

5 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2),yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)

2.  Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006(3) yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£25.00”.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

5 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 er mwyn codi'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.

Y ffi a ragnodwyd yn wreiddiol yn Rheoliadau 2006 oedd £21. Newidwyd y ffi ddiwethaf ym Mehefin 2007, i £24 ac yn awr fe'i codir i £25.

(1)

1991 p.22. Back [1]

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2006/1532 (Cy.150). Cafodd y Rheoliadau hyn eu diwygio gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007(OS 2007/1713). Back [3]