Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 9

ATODLEN 2 Y cofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r rhai yn Rhan D o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Ychwanegion

EC No Name Food Maximum level (mg/kg)
* When combinations of gallates, TBHQ, BHA and BHT are used, the individual levels must be reduced proportionally
E 310 Propyl gallate Fats and oils for the professional manufacture of heat-treated foods 200* (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
E 311 Octyl gallate Frying oil and frying fat, excluding olive pomace oil 100* (BHT), both expressed on fat
E 312 Dodecyl gallate
E 319 Tertiary-butyl hydroquinone (TBHQ) Lard; — fish oil beef, poultry and sheep fat
E 320 Butylated hydroxyanisole (BHA) Cake mixes; cereal-based snack foods; milk powder for vending machines 200 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination) expressed on fat
E 321 Butylated hydroxytoluene (BHT) Dehydrated soups and broths; sauces; dehydrated meat; processed nuts; pre-cooked cereals
Seasonings and condiments 200 (gallates and BHA, individually or in combination) expressed on fat
Dehydrated potatoes 25 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
Chewing gum; food supplements 400 (gallates, TBHQ, BHT and BHA, individually or in combination)
Essential oils 1,000 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
Flavourings other than essential oils 100*(gallates, individually or in combination)
200*(TBHQ and BHA, individually or in combination)
E 315 Erythorbic acid Cured meat products and preserved meat products 500 expressed as erythorbic acid
E 316 Sodium erythorbate Preserved and semi-preserved fish products; Frozen and deep-frozen fish with red skin 1,500 expressed as erythorbic acid
E 586 4-Hexylresorcinol Fresh, frozen and deep-frozen crustaceans 2 as residues in crustacean meat

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (OS 1995/3187 fel y'i diwygiwyd) (“y Rheoliadau Ychwanegion”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu—

(a) Cyfarwyddeb 2006/52/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion a Chyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L204, 26.7.2006, t. 10), fel y cywirwyd Cyfarwyddeb 2006/52/EC gan Gorigendwm (OJ Rhif L78, 17.3.2007, t. 32); a

(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/129/EC sy'n diwygio a chywiro Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol ynghylch purdeb ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion (OJ Rhif L346, 9.12.2006, t. 15).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (OS 1995/3123 fel y'u diwygiwyd) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb 2006/52/EC a grybwyllwyd uchod a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/128/EC sy'n diwygio ac yn cywiro Cyfarwyddeb 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol o ran purdeb ynghylch melysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd.

3.  Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ychwanegion drwy—

(a) diwygio diffiniadau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau Ychwanegion, gan gynnwys diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 3);

(b) gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion bwyd neu fwyd a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 15 Awst 2008 os byddai'r marchnata hwnnw wedi bod yn gyfreithlon o dan y Rheoliadau Ychwanegion cyn iddynt gael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

(c) pennu ychwanegion penodol na chaniateir eu defnyddio i weithgynhyrchu cwpanau jeli (rheoliad 5(a));

(ch) ychwanegu sylwedd newydd at yr ychwanegion a ganiateir ac a restrir yn Atodlen 1, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6, 7 nac 8 (rheoliad 5(b));

(d) newid terfynau penodol, tynnu sylweddau penodol o'r tabl o gadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol yn Rhan A o Atodlen 2 ac ychwanegu sylweddau eraill at y rhestr honno (rheoliad 6);

(dd) diwygio'r cofnodion ynglŷn â chramenogion a seffalopodau, diwygio'r cyfeiriadau at fwydydd i fabanod a phlant bach ac ychwanegu dau gofnod newydd at Ran B o Atodlen 2, sy'n ymdrin â sylffwr diocsid a sylffidau (rheoliad 7);

(e) rhoi Rhan C newydd yn lle'r hen Ran C o Atodlen 2 sy'n ymwneud â photasiwm nitraid a nitrad a sodiwm nitraid a nitrad (rheoliad 8 ac Atodlen 1);

(f) rhoi Rhan D newydd yn lle'r hen Ran D o Atodlen 2 sy'n ymwneud â defnyddio gwrthocsidyddion penodol (rheoliad 9 ac Atodlen 2);

(ff) ychwanegu sylweddau penodol a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer rhai sylweddau a ganiateir eisoes yn Atodlen 3, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir, ac sy'n diwygio ymadroddion penodol sydd wedi'u diffinio ac a ddefnyddir yn yr Atodlen honno (rheoliad 10);

(g) ychwanegu dau sylwedd a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer un a ganiateir eisoes yn Atodlen 4 sy'n ymwneud â chariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir (rheoliad 11);

(ng) diwygio Atodlen 7, ynghylch bwydydd y caniateir defnyddio nifer cyfyngedig o ychwanegion ynddynt, drwy ychwanegu bwydydd penodol ac ychwanegu un ychwanegyn at y rhai a ganiateir mewn un bwyd neilltuol (rheoliad 12); ac

(h) diwygio ymadrodd a ddiffiniwyd ar gyfer dosbarth bwydydd lle mae'n ymddangos yn Atodlen 8, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach, ac ychwanegu sylwedd a ganiateir at yr Atodlen honno (rheoliad 13).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995 drwy—

(a) diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 14(2)); a

(b) ychwanegu sylwedd at Atodlen 1, sy'n ymwneud â melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt neu arnynt (rheoliad 14(3)).

5.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.