Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
14 Mai 2008
Yn dod i rym
6 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 6 Mehefin 2008.
2.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “milfeddyg”.
(3) Yn lle paragraff (3) o erthygl 14, rhodder—
“(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan drwydded benodol gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)). Mae'n dileu diffiniad diangen ac yn egluro'r math o drwydded y cyfeirir ato yn erthygl 14(3) o'r Gorchymyn hwnnw.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1981 p. 22. Cafodd swyddogaethau o dan Ddeddf 1981 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [2]