Offerynnau Statudol
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
29 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ebrill 2008
Yn dod i rym
22 Mai 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) (Rhif 2) 2008. Deuant i rym ar 22 Mai 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” ym mharagraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) o ran tâl cosb neu atal cerbyd rhag symud neu symud cerbyd ymaith yw'r awdurdod gorfodi o ran y tramgwydd honedig y codwyd tâl neu yr ataliwyd y cerbyd rhag symud o ganlyniad iddo;
ystyr “awdurdodau gorfodi Cymru” (“the Welsh enforcement authorities”) yw'r awdurdodau gorfodi hynny sy'n awdurdodau lleol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;
mae i “dyfais a gymeradwyir” (“approved device”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 2 o Orchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008(3);
ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan reoliad 9 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
dehonglir “dyledus” (“outstanding”) o ran tâl cosb yn unol â pharagraffau (2) i (4);
mae i “hysbysiad o dâl cosb” (“penalty charge notice”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4 o Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
“hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb” (“regulation 6 penalty charge notice”) yw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
mae “perchennog” (“owner”) o ran cerbyd yn cynnwys unrhyw berson sydd i'w drin fel perchennog y cerbyd yn rhinwedd rheoliad 4;
ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(4);
ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008(5);
mae i “swyddog gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement officer” yn adran 76 o Ddeddf 2004;
ystyr “tâl cosb” (“penalty charge”) yw tâl cosb ynghylch tramgwydd parcio ac sy'n daladwy yn unol â rheoliad 3; ac
ystyr “tramgwydd croesfan i gerddwyr” (“pedestrian crossing contravention” ) yw tramgwydd parcio sy'n dramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (gwahardd cerbydau rhag stopio ar neu gerllaw croesfannau i gerddwyr).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn ddyledus o ran cerbyd—
(a) os na chafodd y tâl ei dalu ac nad yw'r awdurdod gorfodi y mae'r tâl yn daladwy iddo wedi hepgor taliad, p'un ai drwy ddiddymu'r hysbysiad o dâl cosb neu hysbysiad i'r perchennog neu fel arall;
(b) os perchennog y cerbyd pan oedd wedi'i atal rhag symud oedd hefyd yn berchennog y cerbyd pan osodwyd y tâl cosb; ac
(c) naill ai—
(i) os cafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglŷn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi'u bodloni; neu
(ii) os na chafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglŷn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (4) wedi'u bodloni.
(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i)—
(a) bod y tâl cosb wedi ei osod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan awdurdod gorfodi o ran tramgwydd parcio;
(b) bod y tâl cosb yn destun tystysgrif dâl a gyflwynwyd o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu na chafodd ei roi o'r neilltu yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau hynny.
(4) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii)—
(a) bod y tâl cosb yn ymwneud â cherbyd, a oedd pan ddaeth y tâl cosb yn daladwy—
(i) heb ei gofrestru o dan Ddeddf Tollau a Chofrestru Cerbydau 1994(6); neu
(ii) wedi ei gofrestru, ond heb gynnwys yn y manylion cofrestru enw a chyfeiriad cywir ceidwad y cerbyd;
(b) ar ôl cymryd pob cam rhesymol, nad oedd yr awdurdod gorfodi yr oedd y tâl cosb yn daladwy iddo yn gallu canfod enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd ac o ganlyniad nad oedd yn gallu cyflwyno hysbysiad i'r perchennog o dan reoliad 11 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb; ac
(c) bod y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daw'r tâl cosb yn daladwy wedi dod i ben.
2004 p.18. Diwygiwyd adran 79 gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13), Atodlen 1, paragraff 48 a diwygiwyd adran 81 gan O.S. 2006/1016. Yn rhinwedd adran 92, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn “awdurdod cenedlaethol priodol” o ran Cymru, at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan Ran 6. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2008/1215 (Cy.123). Back [3]
O.S. 2008/609. Back [4]
O.S. 2008/608. Back [5]