Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008

Darpariaeth Y pwnc
Adran 31 yn llawn Rheoli mangreoedd ysgolion
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu— Diddymu
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 40, Atodlen 13

RHAN 3 Darpariaethau trosiannol ac arbed

1.  Er bod adran 38 yn dod i rym, nid yw'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad o dan adran 38(3) yn gymwys o ran unrhyw flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd 2008 i 2009.

2.  Er bod adran 218(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(3) yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 136(a)).

3.  Er bod adran 218(1)(e) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael ei diddymu, mae rheoliadau 4, 5 a 7 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 ac Atodlen 1 iddynt(4) yn parhau mewn grym (a gallant gael eu diwygio neu eu dirymu gan reoliadau a wneir o dan adran 203(3)).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ionawr 2008 ac ar 31 Mawrth 2008 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae cychwyn gweddill adran 18 yn diddymu pwerau amrywiol ar gyfer gwneud grantiau (a ddisodlwyd gan adran 14 a gychwynnwyd ar 31 Mawrth 2003).

  • Mae adran 26 yn galluogi Gweinidogion Cymru (y mae swyddogaethau wedi'u breinio ynddynt bellach yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006) i wneud rheoliadau sy'n caniatau i gyrff llywodraethu ysgolion gydweithredu.

  • Mae adran 31 yn ymwneud â rheoli mangreoedd ysgolion ac fe'i dygir i rym at bwrpas gwneud rheoliadau.

  • Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru i roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol osgoi anfon gormodedd o ddeunyddiau at ysgolion a gosod gormodedd o feichiau gweinyddol. Bydd yn rhaid iddynt baratoi adroddiad o ran pob blwyddyn academaidd ar y dogfennau a anfonir at yr holl gyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion yng Nghymru.

  • Mae adrannau 57 i 59 ac Atodlen 6 yn galluogi awdurdod addysg lleol, os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig neu os yw corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio gydag hysbysiad rhybudd, i benodi corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig (a ffurfiwyd o aelodau gweithredol interim) i ddisodli corff llywodraethu presennol ysgol. Galluogir Gweinidogion Cymru hefyd i benodi corff llywodraethu o'r fath os bydd yn ofynnol i ysgol wella'n arwyddocaol neu os bydd yn ofynnol cael mesurau arbennig.

  • Mae cychwyn gweddill adran 146 yn diddymu'r cyfan o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.

  • Darpariaethau eraill sydd o ganlyniad i gychwyn adrannau 18 a 146, ac hefyd darpariaethau sy'n gymwys i Loegr yn unig ac sydd eisoes wedi'u dwyn i rym gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond fe'u cynhwysir yn unig er mwyn sicrhau bod Deddf Addysg 2002 yn cychwyn yn llawn.

Caiff y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2008 yr effaith a ganlyn—

  • Mae adran 31 (a gychwynir yn llawn) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynglyn â rheoli mangreoedd ysgolion.

  • Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 (a gychwynir yn rhannol) yn cynnwys diddymiadau canlyniadol.

Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Darpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adrannau 14 i 17 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran (19)(6) (yn rhannol) 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 19 (1) i (7) (yn llawn) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adran 20(1) i (3), (5) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adrannau 21 a 22 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adran 23 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adrannau 27 a 28 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 29 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 30 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adran 32 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adrannau 33 a 34 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adran 35 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Adran 36 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Adran 37 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Adran 39(1) (yn rhannol) 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.178)
Adran 39 (yn llawn) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adran 40 (yn rhannol) 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol) 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Adran 41 4 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
Adran 42 4 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
Adran 43 1 Tachwedd 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 46 1 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
Adran 49 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 50 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
Adran 51 (yn rhannol) 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
Adran 52 (yn rhannol) 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn llawn) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adran 53 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Adrannau 54 i 56 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 64 1 Awst 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 72 1 Awst 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adran 75 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 98 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 103 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 107 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 109 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 118 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 119 1 Hydref 2002 2002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5) 1 Hydref 2002 2002/2439
Adran 120(2) 1 Awst 2003 2003/1667
Adran 121 1 Hydref 2002 2002/2439
Adrannau 122 i 129 1 Awst 2003 2003/1667
Adran 130 (yn rhannol) 1 Hydref 2002 2002/2439
(yn llawn) 1 Awst 2003 2003/1667
Adran 131 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 133 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 135 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 140 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 141 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 144 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 145 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 31 Mai 2006 2006/1336 (Cy.129)
Adran 149 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 150 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 154 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
Adran 155 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adran 156 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
Adrannau 157 i 174 1 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
Adran 176 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Adran 177 1 Awst 2004 2004/912 (Cy.95)
Adran 178(1) a (4) 1 Awst 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 180 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 185 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 1 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 194 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
(yn llawn) 1 Medi 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 196 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Adran 197 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 198 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
Adran 199 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 200 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 203 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adran 206 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Adrannau 207 a 208 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 1 Awst 2003 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol) 1 Medi 2003 2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol) 4 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 1 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol) 1 Awst 2004 2004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
(yn rhannol) 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 1 (yn llawn) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
Atodlen 2 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
gweddill y paragraffau 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
Paragraff 12(1), (3) i (5) 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
Atodlen 5 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 9 1 Awst 2004 2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 11 1 Hydref 2002 2002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 3(1), (5) (yn rhannol), 4(2) a 5 31 Mai 2006 2006/1336 (Cy.129)
Paragraff 12(1) a (2) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 1 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 1 Medi 2003 2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol) 1 Hydref 2002 2002/2439
(yn rhannol) 19 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 1 Awst 2003 2003/1667
(yn rhannol) 1 Medi 2003 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol) 4 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 1 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol) 1 Awst 2004 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
(yn rhannol) 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)
Atodlen 22 (yn rhannol) 1 Hydref 2002 2002/2439
(yn rhannol) 9 Rhagfyr 2002 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2003 2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol) 1 Awst 2003 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol) 1 Medi 2003 2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol) 4 Rhagfyr 2003 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 1 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 9 Ionawr 2004 2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol) 1 Awst 2004 2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol) 1 Medi 2004 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol) 31 Hydref 2005 2005/2910 (Cy.207)
(yn rhannol) 1 Ebrill 2006 2006/879 (Cy.84)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/571 ac O.S. 2005/2570), O.S. 2003/2071, O.S. 2004/1318 ac O.S. 2006/2895.

(3)

O.S. 2002/1663 (Cy. 158). Back [3]

(4)

O.S. 1989/351. Back [4]