Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 3611 (Cy.318) (C.157)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007

Gwnaed

20 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 11 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2007.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4.—(1) Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 2 Ionawr 2008.

(2) Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 31 Mawrth 2008.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

5.  Mae Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn (Darpariaethau trosiannol ac arbed) yn gymwys.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Rhagfyr 2007

Erthyglau 4 a 5

YR ATODLEN

RHAN 1 Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 2 Ionawr 2008

Darpariaeth Y pwnc
Adran 18(1) Diddymu pwerau gwneud grantiau
Adran 26 Cydweithredu rhwng ysgolion
Adran 31 at bwrpas gwneud rheoliadau Rheoli mangreoedd ysgolion
Adran 38 Gohebu ag ysgolion
Adrannau 57 i 59 Aelodau gweithredol interim
Adran 75 yn llawn Ad-drefnu ysgol
Adran 146 yn llawn Diddymu adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988
Adran 151(1) Swyddogaethau gofal plant
Adran 152 yn llawn Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd
Adran 178(2) Hyfforddiant ac addysg yn y gweithle
Adran 187 Parthau camau addysg
Adran 215 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlenni 21 a 22 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau
Atodlen 6 Aelodau gweithredol interim
Atodlen 10 yn llawn Ad-drefnu ysgol
Atodlen 13, paragraff 4 Gwarchod plant a gofal dydd
Atodlen 15 Parthau camau addysg
Atodlen 21, paragraffau 3, 5, 6, 7, 10, 15, 55, 69, 71, 79, 80, 82, 84, 90, 111, 115 (5)(b), 124(1) a (2), 126(3) yn llawn Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Yn Rhan 3 o Atodlen 22, diddymu— Diddymu
Deddf Addysg 1967
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, yn Atodlen 2, paragraff 4.
Deddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, adran 1(6).
Deddf Addysg 1986, adran 1(1)(b) a'r gair “and” yn union o'i blaen; adrannau 2 i 4.
Deddf Diwygio Addysg 1988, adrannau 160, 210, 211, 218 (yn llawn).
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, adran 98(2)(c)(ii).
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn adran 37, is-adran (1)(b) a'r gair “or” yn union o'i blaen ac is-adrannau (8)(a) a (9), yn Atodlen 8, paragraffau 46, 47, 49, 83.
Deddf Addysg 1994, yn Atodlen 2, paragraff 8(4).
Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996.
Deddf Addysg 1996, yn adran 318, yn is-adran (3A) paragraff (b) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 484, yn is-adran (2) y geiriau “England and” ac is-adran (6), adrannau 486 i 488, adran 491, yn adran 509A(5)(b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” yn union o'i blaen, yn adran 545(2)(a), y geiriau “or section 218(7) of the Education Reform Act 1988”, yn adran 548(8), ym mharagraff (b), is-baragraff (ii) a'r gair “or” o flaen yr is-baragraff hwnnw, yn adran 578, y cofnodion ynghylch Deddf Addysg 1967 a Deddf Addysg Feithrin ac Ysgolion a Gynhelir â Grant 1996, yn Atodlen 37, paragraff 13, paragraffau 76 a 131.
Deddf Addysg 1997, adran 49 (yn llawn), yn Atodlen 7, paragraffau 8, 14, 27, 28.
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 10, 11, 13, 18, yn Atodlen 3, paragraff 5.
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 3, 10(3) a (7), yn adran 11, yn is-adran (2) y geiriau o “and” hyd at y diwedd, ac is-adran (3), yn Atodlen 4, paragraff 5(4)(e), yn Atodlen 26, ym mharagraff 1, is-baragraff (1)(c) a'r gair “or” o'i flaen, yn Atodlen 30, paragraffau 14, 17, 56, ym mharagraff 74 is-baragraffau (2) a (3) ac yn is-baragraff (4) paragraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, paragraffau 85 i 90.
Deddf Dysgu a Medrau 2000, yn Atodlen 9, paragraffau 18, 58, ym mharagraff 59, is-baragraff (7)(b) ac (c) a pharagraff 91.
(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]