Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2315 (Cy. 186 )

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Wedi'u gwnaed

06 Awst 2007

Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

06 Awst 2007

Yn dod i rym

07 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd(3) fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Rhif 2) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 7 Awst 2007.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu haseinio—

(a) drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(6), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.

(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygir o dro i dro.

Atal gweithgareddau sy'n ymwneud â'r lliw E128 Red 2G

3.—(1) Er gwaethaf darpariaethau Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(7), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd—

(a) Erthygl 1(1) (atal defnyddio lliw E 128 Red 2G mewn bwyd);

(b) Erthygl 1(2) (atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G); neu

(c) Erthygl 1(3) (atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G).

(2) Mae person yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Gorfodi

4.  Dyletswydd pob awdurdod iechyd bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

5.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(8), gyda'r addasiadau bod isadrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1)(b) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn isadran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market”;

(c) adran 32 (pwerau mynediad);

(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(9), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);

(e) adran 35(2) a (3)(10) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(11); ac

(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

6.  Dirymir Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007(12).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

07 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys i atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd (OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8).

2.  Yn rhinwedd Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/36/EC (OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1), mae'r lliw E 128 Red 2G wedi cael ei awdurdodi'n gyfreithiol ar gyfer ei ddefnyddio ym mhob Aelod-wladwriaeth. Rhoddwyd y Gyfarwyddeb honno ar waith gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd). Er hynny, mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 yn atal gydag effaith ar unwaith y defnydd o'r lliw E 128 Red 2G mewn bwyd a rhoi ar y farchnad a mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a) yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 (ynghylch atal defnyddio'r lliw E128 Red 2G mewn bwyd; atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G; ac atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G) yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));

(b) yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan reoliad 3(1) (rheoliad 3(2) );

(c) yn darparu ar gyfer eu gweithredu a'u gorfodi (rheoliad 4);

(ch) yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5); a

(d) yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2288 (Cy.178) (rheoliad 6).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi cael ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [1]

(2)

O.S. 2005/1971.Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiod hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]

(3)

OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8. Back [3]

(5)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [5]

(6)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Back [6]

(7)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn Back [7]

(8)

O.S. 1995/3124, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [8]

(9)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. Back [9]

(10)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279. Back [10]

(11)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16. Back [11]

(12)

O.S. 2007/2288 (Cy.178). Back [12]