Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
4 Awst 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Awst 2007
Yn dod i rym
31 Awst 2007
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac y maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;
ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(3);
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:
ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;
ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(4);
ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;
ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(5);
ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;
ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;
ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;
ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;
ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978(6) ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
(6) At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.
(7) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,
i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
3.—(1) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw ffi (ar sail caledi ariannol neu fel arall), ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
(2) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i unrhyw reol cymhwyster ar gyfer dyfarniad, ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
4.—(1) Bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) i godi ffioedd uwch yn achos person nad yw'n dod o fewn yr Atodlen, nag a godir yn achos person sydd yn dod o fewn yr Atodlen.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn dod o fewn yr Atodlen os yw'n dod o'i mewn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs.
(3) Y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r sefydliadau—
(a) sydd o fewn y sector addysg uwch, gan gynnwys coleg, ysgol neu neuadd sy'n rhan o sefydliad o'r fath;
(b) sydd o fewn y sector addysg bellach:
(c) sy'n ddarparwyr hyfforddiant ac yn cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf 2005;
(ch) sy'n darparu addysg bellach ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gwneud yn gyfreithlon codi ffi sydd yn anghyfreithlon oherwydd amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004(7)
5.—(1) Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962(8) neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—
(a) nad ydynt yn ystyried rheoliad 2(4);
(b) sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraff 5, neu
(c) sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynnal i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraffau 5 a 9.
6.—(1) Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion(9) o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
7.—(1) Bydd yn gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sydd i'w gwneud i fyfyrwyr a hyfforddir (ac eithrio ar gwrs sy'n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros oedran ysgol gan sefydliad y mae CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo i'r pwrpas a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
8.—(1) Bydd yn gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau (pa fodd bynnag y'u disgrifir) sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
9.—(1) Dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997(10);
(b) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(11);
(c) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006(12); ac
(ch) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006(13).
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 2006/1458 o 8 Mehefin 2006 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O. S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
Diwygiwyd 1983 p.40. Adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 3, paragraff 5; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (c. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 5 a Deddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen14, paragraff 9. Diwygiwyd Adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, adran 44 ac Atodlen 4. Back [2]
Sefydlwyd o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13). Back [3]
O.S. 2002 Rhif 1856 (Cy. 180). Back [5]
1978 p.30 Back [6]
1962 p.12. Diddymwyd Deddf Addysg 1962 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed i alluogi gwneud taliadau mewn cysylltiad â dyfarniadau a wnaed o dan y Ddeddf cyn ei diddymu a galluogi gwneud dyfarniadau mewn perthynas â chyrsiau a oedd yn dechrau cyn 1 Medi 1999 a rhai cyrsiau penodol a oedd yn dechrau ar ôl y dyddiad hwnnw. Back [8]
Sefydlwyd yr Asiantaeth Hyfforddiant Athrawon o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994, ac o dan adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 newidiwyd ei henw i Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion. O dan adran 78 o Ddeddf Addysg 2005, caiff yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion ddarparu cymorth ariannol i unrhyw berson y gwêl yn dda wrth hyrwyddo'i hamcanion. Back [9]
O.S. 1997/1972, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1965, O.S. 1999/229, O.S. 2000/2192, O.S. 2003/2945, O.S.2005/2114, O.S. 2006/483 ac O.S. 2006/1795. Back [10]
O.S. 2003/3280. Back [11]
O.S. 2006/483. Back [12]
O.S. 2006/1795 (Cy.190) Back [13]
Amended by correction slip on 01 September 2007