Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 2112 (Cy.170)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

23 Gorffennaf 2007

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaeshol

24 Gorffennaf 2007

Yn dod i rym

1 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 129(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Medi 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dynodiad

2.  Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ac yntau'n sefydliad addysg o'r math a ddisgrifir yn is-adran (2) o adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn sefydliad at ddiben yr adran honno.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru

23 Gorffennaf 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin gan y Gorchymyn hwn at ddibenion adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae hyn yn golygu ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth o gyllid a weinyddir gan gyngor cyllido addysg uwch a'i fod i'w drin fel sefydliad o fewn y sector addysg uwch at ddibenion y Deddfau Addysg.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (OS 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]