Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004, ISBN 0110910095. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 141 ac 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 3. Yn y Rheoliadau hyn -
Dirymiadau
(b) cyflwyno gwersi i blant; (c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant; (ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant; (d) gweithgaredd sy'n cynorthwyo neu'n cefnogi addysgu; (dd) goruchwylio, cynorthwyo a chefnogi plentyn; (e) gweithgaredd gweinyddol neu drefniadol sy'n cefnogi wrth ddarparu addysg; ac (f) gweithgaredd sy'n atodol i ddarparu addysg.
(2) Ym mharagraff (1)(b), mae "cyflwyno" yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.
(b) rhaid i'r cyflogwr ystyried y cyfryw dystiolaeth a sylwadau ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddo, gan gynnwys tystiolaeth feddygol sy'n ymwneud â'r person ac a roddwyd i'r cyflogwr yn gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld, a hynny yn nhyb y person a roddodd y dystiolaeth; (c) gall y cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i'r person gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol ac a benodwyd gan y cyflogwr; (ch) rhaid iddo drefnu archwiliad felly os yw'r person dan sylw yn gofyn amdano; ac (d) os nad yw'r person yn ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da, neu os yw'n gwrthod neu'n methu â rhyddhau'r wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall i'r ymarferydd meddygol y caiff ef ofyn amdani yn rhesymol, caiff y cyflogwr ddod i'r casgliad nad oes gan y person dan sylw y gynneddf gorfforol neu'r iechyd angenrheidiol, os yw'r dystiolaeth a gwybodaeth arall sydd ar gael i'r cyflogwr yn cyfiawnhau hynny, a hynny er gwaethaf y ffaith y byddai fel arall wedi bod yn ddymunol cael tystiolaeth feddygol bellach.
(2) Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch), caiff y cyflogwr neu'r person gyflwyno i'r ymarferydd meddygol penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi, at ddibenion adran 141 o Ddeddf Addysg 2002, y gweithgareddau y caiff person eu gwneud dim ond os oes ganddo'r gynneddf gorfforol neu'r iechyd i'w gwneud. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i berson sy'n darparu addysg mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu fan arall o dan gontract gydag AALI (neu gyda pherson sy'n arfer swyddogaethau ar ran AALl). Maent hefyd yn gymwys pan fo person yn gweithio o dan gontract i AALl neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach i wneud gwaith ar wahân i ddarparu addysg ond sy'n dod â'r person i gyswllt â phlant yn gyson. Mae'r gweithgareddau a ragnodwyd fel a ganlyn: -
(b) cyflwyno gwersi i blant; (c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant; (ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant; (d) gweithgaredd sy'n cynorthwyo neu'n cefnogi addysgu; (dd) goruchwylio, cynorthwyo a chefnogi plentyn; (e) gweithgaredd gweinyddol neu drefniadol sy'n cefnogi wrth ddarparu addysg; ac (f) gweithgaredd sy'n atodol i ddarparu addysg.
Dylid trin person sy'n derbyn pensiwn ymddeol ar sail afiechyd fel pe na bai ganddo'r gynneddf gorfforol na'r iechyd i wneud y pedwar gweithgaredd cyntaf a restrir uchod, sy'n weithgareddau addysgu. Er hynny, os oes gan y person y gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud, gall wneud pedwar gweithgaredd olaf y rhestr. Nid yw'r cyfyngiad ar y sawl sy'n derbyn pensiwn ymddeol oherwydd afiechyd yn gymwys i berson a oedd â hawl i'r fath bensiwn cyn 1 Ebrill 1997 ac sy'n gweithio'n rhan-amser. Notes: [1] 2002 p.32. Gweler adran 212 am yr ystyron sydd i "prescribed" a "regulations".back [2] O.S. 1999/2817 (Cy.18), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12), 2003/2458 (Cy.240), ac fel y dirymwyd rhan fawr ohono gan O.S. 2004/1729 (Cy.173) a 2004/1744 (Cy.183).back [4] O.S. 1997/3001 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2255, 1999/607, 2000/665, 2000/2431, 2000/3028, 2001/871 a 2002/3058.back
ISBN 0 11091009 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 October 2004 |