Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004, ISBN 0110909429. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 22(1) a (2)(d) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 2. Yn Rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[2] (dehongli), yn y diffiniad o "proffesiynolyn gofal iechyd", yn lle ", yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd" rhowch "neu'n seicotherapydd plant ". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 11 Mai 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau diwygio hyn yn dileu'r cyfeiriad at therapyddion lleferydd o'r diffiniad o "proffesiynolyn gofal iechyd" yn Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod therapyddion lleferydd bellach yn rhan o broffesiwn therapyddion lleferydd ac iaith, y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999 yn ymdrin ag ef fel proffesiwn sy'n cael ei reoleiddio drwy Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002 Rhif 254). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o "rheoliadau" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae "Gweinidog priodol" wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad o ran Cymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae "Cynulliad" wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2002/2935 (Cy.277), O.S. 2003/947 (Cy.128) ac O.S. 2003/1004 (Cy.144).back
ISBN 0 11090942 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 18 May 2004 |