Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110908589. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), (3) a (4), 81(2) ac 81(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], ac ar ôl iddo ymgynghori fel sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chael ei fodloni bod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion a bennir am y tro mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Ionawr 2004. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Gorchymyn 2001" ("the 2001 Order") yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001[2]. Diwygio Cod Ymddygiad Enghreifftiol 3. - (1) Mae paragraff 15(ch) yn yr Atodlen i Orchymyn 2001 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn. (2) Mewnosoder y geiriau "lwfans neu bensiwn a wneir o dan" o flaen "Adran 18". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 28 Ionawr 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy Orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Mae cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol ond nid felly awdurdodau heddlu. Mae'n rhaid i God Ymddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf. Pennwyd yr egwyddorion hynny yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001. Rhagnodwyd Cod Ymddygiad Enghreifftiol i aelodau awdurdodau perthnasol gan Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ("Gorchymyn 2001") a wnaed o dan adran 50(2). Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn addasu'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yng Ngorchymyn 2001 drwy fewnosod testun ychwanegol ym mharagraff 15(ch). Effaith y diwygiad yw y gall aelodau o gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân sy'n ystyried eu sefyllfa o ran y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gymryd nad oes ganddynt "fuddiant personol" mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud â lwfans neu bensiwn ("allowance or pension") a wneir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Effaith ymarferol y diwygiad yw mai dim ond i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân y bydd diwygiad i'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn gymwys. Dim ond iddynt hwy ac nid i awdurdodau pethnasol eraill y mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai yn gymwys mewn cysylltiad a lwfansau neu bensiynau. Notes: [1] 2000 p.22.back [2] O.S. 2001/2289 (Cy. 177).back
ISBN 0 11090858 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 5 February 2004 |