Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2935 (Cy.277)

      Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090601 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2935 (Cy.277)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'u gwneud 27 Tachwedd 2002 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23(2)(a) ac (f), (5) a (9), 23A(3), 25(2) a (7), 26(1), (2), (5) a (6), 51(4), 59(2) i (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 2, paragraff 4(1)(a) o Atodlen 4, paragraff 7(1)(a) o Atodlen 5, a pharagraff 10(1)(a) a (2)(1) o Atodlen 6 iddi, ac adrannau 3(3), 12(2)(a), 16(1)(a) a (3), 22(1) a 118(6) o'r Ddeddf Safonau Gofal[2] ac yntau o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau eraill a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2000[3] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "cartref" ("home") yw - 

    ystyr "Deddf 1984" ("1984 Act") yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984[8];

    ystyr "Deddf 1989" ("1989 Act") yw Deddf Plant 1989;

    ystyr "Deddf 2000" ("2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;

    ystyr "Gorchymyn Cychwyn Rhif 8" ("the No. 8 Commencement Order") yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion a Chanlyniadol) 2002[9].

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
     2.  - (1) Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[10] caiff y diffiniad o "perthynas" ei ddiywgio yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.

    (2) Yn lle'r geiriau "(ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw" rhoddir "(ch) unrhyw unigolyn a gafodd ei letya am gyfnod hwy na 28 diwrnod rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed o dan drefniadau maethu a wnaed gyda'r person hwnnw, neu briod yr unigolyn hwnnw".

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
     3. Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[11] ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosodir y geiriau "heblaw pan fo'r ceisydd yn awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG,".

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
     4. Yn rheoliad 7(5)(c) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[12] yn lle'r gair "home" rhoddir "independent hospital or clinic".

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991
     5.  - (1) Caiff Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991[13]) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 1(2), 2(1), 5(1), 6, 10(2) a (3) ac 11, ac ym mharagraff 5 o Atodlen 4, yn lle'r geiriau "registered children's home" rhoddir y geiriau "private children's home" bob tro y digwydd.

    (3) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o "placement", yn lle "(b), (c), (d)" rhoddir "(aa)" ym mharagraff (a) a (b)[14].

    (4) Yn rheoliad 2(2) (cymhwyso'r rheoliadau) ar ôl y geiriau "voluntary organisation", rhoddir ", in a school which is a children's home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.".

    (5) Yn rheoliad 11 (mynediad gan warcheidwaid ad litem i gofnodion a'r gofrestr), ac yn y pennawd i'r rheoliad hwnnw, yn lle "guardian ad litem" rhoddir "officer of the service"[15].

    (6) Yn Atodlen 3 (ystyriaethau addysgol y mae awdurdodau cyfrifol i'w ystyried), ym mharagraff 4 - 

    (a) yn lle "Education Act 1981" rhoddir "Education Act 1996"[16]; a

    (b) yn lle "section 7" rhoddir "section 324".

Diwygio Rheoliadau Lleoli Plant â Rhieni a.y.y.b. 1991
     6.  - (1) Caiff Rheoliadau Lleoli Plant â Rhieni a.y.y.b 1991[17] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o "guardian ad litem".

    (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (manylion i'w cymryd i ystyriaeth) - 

    (a) yn is-baragraff (f), yn lle'r geiriau o "under" hyd at "Act" rhoddir "for child minding or day care"; a

    (b) yn lle is-baragraff (k) rhoddir - 

      " (k) details of any criminal offences of which he has been convicted, or in respect of which, at the time the caution was given, he admitted.".

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991
     7.  - (1) Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991[18]) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o "guardian ad litem".

    (3) Yn rheoliad 1(2) a 12, yn lle'r geiriau "registered children's homes" rhoddir "private children's homes" bob tro y diwgydd.

    (4) Yn rheoliad 13 (eithriadau i gymhwyso'r Rheoliadau), yn lle'r geiriau "on behalf of" hyd at ddiwedd y rheoliadau, rhoddir "by a local authority or a voluntary organisation in a school which is a children's home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.".

    (5) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfirfol i'w ystyried), ym mharagraff 4, yn lle "Deddf Addysg 1981" rhoddir "Deddf Addysg 1996".

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefn Cynyrchioliadau (Plant) 1991
     8. Caiff Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991[19] eu diwygio fel a ganlyn - 

    (a) yn rheoliad 11(2) (cais i sefydliadau gwirfoddol a chartrefi plant cofrestredig), yn lle'r geiriau "registered children's home" rhoddir "private children's home" bob tro y digwydd; a

    (b) yn rheoliad 11A (eithriadau i gymhwyso'r rheoliadau) yn lle'r geiriau sy'n dilyn "voluntary organisation" hyd at ddiwedd y rheoliad rhoddir ", in a school which is a children's home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.".

Diwygio Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991
     9. Caiff Rheoliadau Llochesau (Cartrefi Plant a Lleoliadau Maeth) 1991[20] eu diwygio fel a ganlyn - 

    (a) yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "home" ac yn rheoliad 4(2) yn lle'r geiriau "registered children's home" rhoddir "private children's home"; a

    (b) yn rheoliad 4(1) (tynnu tystysgrif yn ôl) yn is-baragraff (b), yn lle "Part II of the Children's Homes Regulations 1991" rhoddir "Parts III to V of the Children's Homes (Wales) Regulations 2002[21]".

Diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991
     10. Caiff Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991[22]) eu diwygio fel a ganlyn - 

    (a) yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "children's home", yn lle "registered" rhoddir "private";

    (b) yn rheoliad 5 (plant na fydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff (1), yn lle "section 53" hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhoddir "section 90 or 91 of the Powers of the Criminal Courts (Sentencing) Act 2000 (detention at Her Majesty's Pleasure or for specified period)[23]."; ac

    (c) yn rheoliad 7 (plant y bydd adran 25 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt ac yn cael effaith arnynt yn ddarostyngedig i addasiadau) - 

      (i) yn y naill a'r llall o baragraffau (1)(b) a (3)(b), yn lle "residential care homes, nursing homes or mental nursing homes" rhoddir "care homes or independent hospitals"; a

      (ii) ym mharagraff (3)(a) yn lle "residential care home, a nursing home or a mental nursing home" rhoddir "care home or an independent hospital".

Diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2) 1991
     11. Ym mharagraff (2) o reoliad 2 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2)[24], yn lle "residential care home, nursing home, or mental nursing home" rhoddir "care home or independent hospital".

Diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) Cymru) 2001
     12. Yn y diffiniad o "ysbyty" yn rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001[25] yn lle paragraff (b) rhoddir "(b) sefydliad cofrestredig o fewn ystyr adran 34(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[26])".

Darpariaeth trosiannol
     13.  - (1) Ni fydd unrhyw ddiwygiad a wnaed yn rheoliadau 5 i 12 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas, neu mewn cysylltiad, â chartref, y mae am y tro, unrhyw un o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) yn gymwys.

    (2) Y darpariaethau yw paragraffau (6) i (9) o erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
27]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud diwygiadau amrywiol i nifer o Reoliadau sy'n rheoli lleoli, gofal a llety plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 ('Deddf 1989'), ac i nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('Deddf 2000').

Caiff Rheoliadau Deddf 1989 eu diwygio o ganlyniad i weithredu Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas â chartrefi plant a chartrefi gofal. Gwneir hefyd amryw o fân ddiwygiadau a diwygiadau diweddaru eraill.

Caiff Rheoliadau Deddf 2000 eu diwygio er mwyn unioni mân wall drafftio, ac yn ogystal: (i) mewn perthynas â Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002, i eglurhau nad yw sefydliad yn gartref gofal at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 pan mai dim ond llety ynghyd â gofal i blant fu gynt yn blant maeth i'r person sy'n ei weithredu y mae'n eu darparu; a (ii) mewn perthynas â Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, i hepgor y gofyniad bod raid i awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG gyflenwi tystlythyr ariannol i gydfynd â chais i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae'r pwerau wedi eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru drwy rinwedd adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod mewn perthynas â Deddf Plant 1989 yn atodlen 1 iddi ac, mewn perthynas â'r pwcircer o dan adran 23A o Ddeddf 1989, gan adran 8(7) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35). Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 am y diffniad o "prescribed".back

[2] 2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister". Ystyr "appropriate Minister" yw'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru: a.121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr "Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: adran 5(b) o Ddeddf 2000. Mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ystyr "appropriate Minister" yw'r Ysgrifennydd Gwladol: adran 121(1) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 ar gyfer y diffiniadau o "regulations" a "prescribed".back

[3] O dan adran 22(9) o Ddeddf 2000 bydd y Gweinidog priodol yn ymgynghori ag unrhyw berson y mae'n ei ystyried yn briodol cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 22, oni bai fod y rheoliadau yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac nad yw'r rheoliadau yn ei farn ef yn rhoi effaith i unrhyw newidiadau o bwys yn y ddarpariaeth a wnaed gan y rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan adran 22: gweler rheoliad 2.back

[4] Diddymwyd darpariaethau Rhan VIII o Ddeddf 1989 ynghylch cofrestru rhai cartrefi plant gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.back

[5] Diddymwyd darpariaethau adran 60 o Ddeddf 1989 sy'n ymwneud â chofrestru cartrefi plant gwirfoddol gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.back

[6] Mae erthygl 3(9) yn gymwys i rai cartrefi plant nad oeddent ar 1 Ebrill 2002 wedi'u cofrestru o dan Ran VIII o Ddeddf 1989, ond mewn perthynas â hwy, trwy rinwedd erthgyl 3(1) o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/139), yr oedd y person a oedd yn gweithredu'r cartref wedi'i ddiogleu rhag cyflawni'r drosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989 o weithredu cartref plant anghofrestredig. Deddfodd O.S. 2001/139 ddarpariaethau trosiannol mewn perthynas â chychwyn adran 40 o Ddeddf 2000, a oedd yn diwygio adran 63 o Ddeddf 1989 er mwyn gwaredu'r esemptiad o'r gofyniad i gofrestru o dan yr adran honno mewn perthynas â chartrefi plant sy'n lletya tri phlentyn neu lai.back

[7] Diddymwyd Deddf 1984 gan adran 117(2) o Ddeddf 2000, ac Atodlen 6 iddi, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn erthygl 3 o Orchymyn Cychwyn Rhif 8.back

[8] 1984 p.24.back

[9] O.S. 2002/920.back

[10] O.S. 2002/324.back

[11] O.S. 2002/919.back

[12] O.S. 2002/921.back

[13] O.S. 1991/890, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, O.S. 1995/2015 ac O.S. 1997/649.back

[14] Mae'r darpariaethau a amnewidiwyd yn gyfeiriadau at ddarpariaethau Deddf Plant 1989 a amnewidiwyd eu hunain gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a pharagraff 14(1), (3) ac(8) o Atodlen 4 iddi.back

[15] Mae Adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989 yn darparu bod i "officer of the service" yr un ystyr ag sydd yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43). Gweler adran 11(3) o'r Ddeddf honNo. back

[16] 1996 p.56.back

[17] O.S. 1991/893, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2015.back

[18] O.S. 1991/895, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, O.S. 1995/2015, ac O.S. 1997/649.back

[19] O.S. 1991/894, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069 ac O.S. 2001/2189.back

[20] O.S. 1991/1507.back

[21] O.S. 2002/327.back

[22] O.S. 1991/1505, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/2117, O.S. 1995/1398, O.S. 1996/692 ac O.S. 2000/694.back

[23] 2000 p.6.back

[24] O.S. 1991/2034, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/694.back

[25] O.S. 2001/2189.back

[26] 1983 p.20. Diwygir adran 34(1) gan adran 116 o Ddeddf Safonu Gofal 2000, a pharagraff 9(4) o Atodlen 4 iddi. Sefydliad cofrestredig yw sefydliad nad yw'n ysbyty at ddiebnion Rhan II o Ddeddf 1983, y mae person wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ef fel ysbyty annibynnol lle caiff triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) eu darparu i bersonau sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf 1983.back

[27] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090601 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 20 December 2002