Offerynnau Statudol 2001 Rhif 607 (Cy.30)

      Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001


      © Crown Copyright 2001

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001, ISBN 0-11-090222-X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2001 Rhif 607 (Cy.30)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 27 Chwefror2001 
  Yn dod i rym Dydd Gwyl Dewi 1af Mawrth 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 1996[1] sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2]; ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety
    
2. Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.

Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed
    
3.  - (1) Person Sydd

    (a) yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a

    (b) a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu

    (c) sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.

    (2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr "yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu" yw:

    (a) yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

    (b) yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;

    (c) yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;

        (ch) yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf - 

      (i) gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu

      (ii) mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu

    (d) yn cael ei faethu'n breifat.

Person 16 neu 17 oed
    
4. Person sy'n 16 neu'n 17 oed.

Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref
    
5. Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.

Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog
    
6.  - (1) Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.

    (2) Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd "lluoedd arfog rheolaidd y Goron" yr ystyr a roddir i "regular armed forces of the Crown" yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.

Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa
    
7.  - (1) Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.

    (2) Ystyr "carcharor" yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996"), mae ar yr awdurdodau tai lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer y rhai sy'n ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, ac arnynt angen blaenoriaethol.

Mae adran 189 o Ddeddf 1996 yn nodi disgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol ac mae hefyd yn rhoi p er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu rhagor o ddisgrifiadau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu rhagor o ddisgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol:

    - person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed (erthygl 3)

    - person 16 neu 17 oed (erthygl 4)

    - person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref (erthygl 5)

    - person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog (erthygl 6)

    - cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa (erthygl 7).


Notes:

[1] 1996 p.52back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090222-X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2001
Prepared 8 June 2001