Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090044 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46 a 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 24 Mawrth 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[3]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. - (1) Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 9, ar ôl paragraff (4) mewnosodir y paragraff canlynol:
(3) Yn rheoliad 22, yn lle "80 canran" gosodir "75 canran".
(1) In relation to the financial years beginning on 1st April 2000, 1st April 2001 and 1st April 2002, expenditure which the authority estimate they will incur in respect of those financial years in meeting increases in the level of teacher salary costs, as compared with the level of such costs for the financial year beginning on 1st April 1999, being increases arising in consequence of -
(b) he employment of advanced skills teachers.
(2) In sub-paragraph (1) -
(b) "advanced skills teacher" means a teacher who has been certified by an assessor appointed by the Secretary of State for Education and Employment as eligible for the appointment to that post and who has been so appointed.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 gydag effaith o 24 Mawrth 2000 ymlaen. Maent yn caniatáu awdurdodau lleol ddosbarthu cyllid ychwanegol sy'n codi yn sgil ailstrwythuro tâl athrawon i'r ysgolion mewn ymateb i'r angen yn yr ysgolion unigol, a hynny am gyfnod trosiannol o hyd at dair blynedd; neu ymgorffori ffactor sy'n gysylltiedig â'r cyllid ychwanegol yn fformwlâu dosbarthu yr Awdurdodau Addysg Lleol o 2000-01 ymlaen. Ceir tri diwygiad, fel a ganlyn: 1. Diwygir Rheoliad 9 fel y bydd unrhyw ymgynghori ag ysgolion ynghylch newidiadau i'r fformwla ddosbarthu mewn perthynas ag arian ar gyfer ailstrwythuro tâl athrawon neu â chyflogi athrawon uwch-fedrau ar 30 Tachwedd 1999 neu wedyn yn bodloni'r gofynion ynghylch ymgynghori a nodwyd yn y rheoliad hwnnw (rheoliad 2(2)). 2. Diwygir rheoliad 22 er mwyn lleihau'r canran o gyfrannau cyllideb ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n rhaid eu pennu ar sail ffactorau sy'n cyfeirio at ddisgyblion o 80% i 75% (rheoliad 2(3)); a 3. Mewnosodir paragraff newydd yn Atodlen 2 er mwyn caniatáu, am y blynyddoedd ariannol 2000-01, 2001-02 a 2002-03, i awdurdodau addysg lleol ddidynnu'r ddarpariaeth ar gyfer cost y canlynol o'r gyllideb ysgolion lleol a'i chadw yn ganolog -
(b) cyflogi athrawon uwch-fedrau.
Notes: [1] 1998 p.31. Am ystyr "prescribed" and "regulations" gweler adran 142(1).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [5] 1991 p.49. Diwygiwyd adran 2 gan baragraff 161 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 p.35 (sef diwygiadau sy'n parhau mewn grym yn rhinwedd paragraff 161 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996, p.56) a pharagraff 26 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
ISBN 0 11 090044 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 12 May 2000 |