xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Mae unrhyw ddarpariaethau o’r canlynol sy’n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr yn ffurfio rhan o’r telerau gwasanaeth—
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)y Datganiad;
(c)y cyfarwyddydau ffioedd;
(d)cymaint o Ran 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(1) ag sy’n ymwneud â’r canlynol—
(i)ymchwilio i gwestiynau sy’n codi rhwng contractwyr a’u cleifion, ymchwiliadau eraill sydd i’w gwneud gan y pwyllgor disgyblu offthalmig (“y Pwyllgor”), a’r camau gweithredu y caiff y Pwyllgor eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o’r fath, gan gynnwys cadw tâl yn ôl oddi wrth gontractwr pan fo’r telerau gwasanaeth wedi eu torri;
(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor;
(iii)ymchwilio i achosion o ddyroddi gormod o dalebau optegol yn dilyn profion golwg;
(e)rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr).
(2) Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson y mae’r contractwr yn ei gyflogi i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn cydymffurfio â’r darpariaethau a restrir ym mharagraff (1)(a) i (e) i’r graddau y maent yn gymwys i’r personau hynny.
(3) Yn y paragraff hwn, mae i “cyfarwyddydau ffioedd” yr ystyr a roddir yn rheoliad 32.
O.S. 1992/664; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/703, O.S. 2002/2469 ac O.S. 2013/2042.
O.S. 1997/818, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/301.