xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliadau 12, 14 ac 42

ATODLEN 4Telerau Gwasanaeth

Corffori darpariaethau

1.—(1Mae unrhyw ddarpariaethau o’r canlynol sy’n effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr yn ffurfio rhan o’r telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)y Datganiad;

(c)y cyfarwyddydau ffioedd;

(d)cymaint o Ran 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(1) ag sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwilio i gwestiynau sy’n codi rhwng contractwyr a’u cleifion, ymchwiliadau eraill sydd i’w gwneud gan y pwyllgor disgyblu offthalmig (“y Pwyllgor”), a’r camau gweithredu y caiff y Pwyllgor eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau o’r fath, gan gynnwys cadw tâl yn ôl oddi wrth gontractwr pan fo’r telerau gwasanaeth wedi eu torri;

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor;

(iii)ymchwilio i achosion o ddyroddi gormod o dalebau optegol yn dilyn profion golwg;

(e)rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr).

(2Rhaid i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson y mae’r contractwr yn ei gyflogi i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn cydymffurfio â’r darpariaethau a restrir ym mharagraff (1)(a) i (e) i’r graddau y maent yn gymwys i’r personau hynny.

(3Yn y paragraff hwn, mae i “cyfarwyddydau ffioedd” yr ystyr a roddir yn rheoliad 32.

Dyletswydd i roi sbectol sylfaenol ar gael

2.—(1Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan—

(a)bo contractwr, yng nghwrs ei fusnes, yn cyflenwi sbectol at ddiben cywiro diffygion ar y golwg, a

(b)bo person yn cyflwyno i’r contractwr hwnnw daleb ar gyfer cyflenwi teclynnau optegol, sydd wedi ei dyroddi o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.

(2Ni chaiff contractwr dderbyn y daleb yn lle taliad mewn perthynas â sbectol ond os yw’r contractwr wedi rhoi ar gael i’r person o leiaf un sbectol sylfaenol (pa un a yw’r taliad mewn perthynas â’r sbectol sylfaenol honno neu mewn perthynas â sbectol arall).

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “sbectol sylfaenol” yw sbectol sy’n ffitio’r person yn briodol ac sydd—

(a)yn cyfateb i bresgripsiwn y person, a

(b)â gwerth sy’n hafal i wynebwerth y daleb neu’n llai nag wynebwerth y daleb.

(4Yn is-baragraff (3), mae i “wynebwerth” yr ystyr a roddir i “face value” yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.

Mangreoedd y mae gwasanaethau offthalmig sylfaenol i’w darparu ynddynt

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4, ni chaiff contractwr ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ond ym mangre gofrestredig y contractwr.

Darparu gwasanaethau symudol

4.—(1Ni chaiff contractwr sydd wedi gwneud trefniadau â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau symudol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw ond darparu’r gwasanaethau hynny yn unol ag is-baragraff (2).

(2Ni chaiff y contractwr ond darparu gwasanaethau symudol—

(a)os yw’r claf wedi gofyn i’r contractwr ddarparu’r gwasanaethau hynny iddo, neu pan na fo gan y claf y gallu i wneud cais o’r fath, os yw perthynas i’r claf hwnnw neu brif ofalwr iddo, neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol, wedi gwneud cais o’r fath,

(b)os yw amgylchiadau’r claf, sy’n ymwneud â’i salwch corfforol neu feddyliol neu ei anabledd corfforol neu feddyliol, yn ei gwneud yn amhosibl neu’n afresymol iddo gael gwasanaethau offthalmig sylfaenol mewn mangre gofrestredig, ac

(c)os yw’r contractwr wedi ei fodloni bod y claf yn gymwys i gael gwasanaethau symudol yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mangreoedd a chyfarpar

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (6) a pharagraff 18(4), rhaid i gontractwr ddarparu, fel y bo’n angenrheidiol, le priodol a digonol ar gyfer ystafell ymgynghori ac ystafell aros, a chyfarpar addas ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol y mae’r contractwr wedi ymgymryd â’u darparu.

(2Rhaid i gontractwr, sydd wedi gwneud trefniadau â’r Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau symudol, ddarparu cyfarpar addas ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny.

(3Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys, caiff contractwr, yn lle darparu’r lle a’r cyfarpar, fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1), neu gyfarpar fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (2), ymrwymo i drefniadau o’r math a ddisgrifir yn is-baragraff (5), ar yr amod bod yr amodau a nodir yn is-baragraff (6) wedi eu bodloni.

(4Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) yw, o ran contractwr a oedd wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol ar 31 Ionawr 2006—

(a)nad yw’n darparu, neu nad yw’n darparu mwyach, le a chyfarpar, fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1), neu gyfarpar fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (2), a

(b)nad yw wedi ei gyflogi, mewn perthynas â’r gwasanaethau offthalmig sylfaenol y mae’r contractwr wedi ymgymryd â’u darparu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, gan gontractwr arall.

(5Mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) yn drefniadau y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol y mae’r canlynol ar gael i’r contractwr odanynt ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol y mae’r contractwr wedi ymgymryd â’u darparu, sy’n caniatáu ar gyfer arolygu fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (7) neu (8)—

(a)lle angenrheidiol, priodol a digonol ar gyfer ystafell ymgynghori ac ystafell aros a chyfarpar addas, neu

(b)yn achos darparu gwasanaethau symudol, cyfarpar addas.

(6Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) yw bod y contractwr wedi bodloni’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)y gellir gorfodi’r trefniadau yn gyfreithiol a’u bod yn caniatáu ar gyfer arolygu fel sy’n ofynnol o dan is-baragraff (7) neu (8);

(b)bod y lle a’r cyfarpar neu, yn achos darparu gwasanaethau symudol, y cyfarpar, a ddarperir o dan y trefniadau yn ddigonol ac yn addas.

(7Yn ddarostyngedig i is-baragraff (8) a pharagraff 18(4), rhaid i gontractwr, ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ganiatáu mynediad ar bob adeg resymol, at ddibenion arolygu lle neu gyfarpar y contractwr, i swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru, neu i swyddog awdurdodedig neu aelod o’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(8Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru, rhaid i gontractwr sydd wedi gwneud trefniadau â’r Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau symudol—

(a)trefnu bod swyddog sy’n awdurdodedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru yn cael arolygu ar adeg resymol y cyfleusterau a’r cyfarpar y mae’r contractwr yn eu defnyddio;

(b)caniatáu i swyddog sy’n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw arolygu’r cyfleusterau a’r cyfarpar y mae’r contractwr yn eu defnyddio wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny.

(9Rhaid i gontractwr roi sylw i’r cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd a lunnir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 19(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020(3) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd) (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr y termau hynny yn adran 21 o’r Ddeddf honno).

Arddangos hysbysiadau

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i gontractwr arddangos yn amlwg ym mhob lle y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol—

(a)hysbysiad a thaflenni a ddarperir neu a gymeradwyir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n nodi bod gwasanaethau offthalmig sylfaenol ar gael ac sy’n nodi pa ddisgrifiadau o gleifion y contractwr y caniateir gwneud taliad iddynt o dan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997, a

(b)manylion y diwrnodau y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol arnynt yn y lle hwnnw, a rhwng pa oriau y mae wedi cytuno i ddarparu’r gwasanaethau hynny.

(2Pan fo gwasanaethau symudol yn cael eu darparu, nid yw’n ofynnol arddangos hysbysiad ond i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

Y Gymraeg

7.—(1Pan fo’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am y ffaith honno.

(2Rhaid i’r contractwr roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu unrhyw ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’w defnyddio gan gleifion ac aelodau eraill o’r cyhoedd.

(3Pan fo’r contractwr yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau offthalmig sylfaenol, rhaid i’r testun ar yr arwydd neu’r hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(4Caiff y contractwr ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion is-baragraff (3).

(5Rhaid i’r contractwr annog personau sy’n darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ac sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(6Rhaid i’r contractwr annog personau sy’n darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o’i hanes a’i rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol.

(7Rhaid i’r contractwr annog y rheini sy’n darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol i ganfod a chofnodi’r dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Yr amseroedd pan fo rhaid darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol

8.  Rhaid i’r contractwr ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ystod yr amseroedd y cytunwyd arnynt â’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Cofnodion

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 10, rhaid i gontractwr gadw cofnod priodol mewn cysylltiad â phob claf y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol iddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau 10 a 18(4), rhaid i gontractwr ddal gafael ar bob cofnod o’r fath am gyfnod o 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y cafodd y claf ei weld ddiwethaf neu hyd nes bod y claf yn troi’n 25 oed, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(3Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid i gontractwr ddangos y cofnodion hynny pan fydd yn ofynnol iddo wneud hynny gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru—

(a)i swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)o fewn cyfnod, heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau, a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru.

Trefniadau eraill ar gyfer cofnodion

10.—(1Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (2) yn gymwys, caiff contractwr, yn lle cadw’r cofnodion sy’n ofynnol o dan baragraff 9, gydymffurfio â’r amodau a nodir yn is-baragraff (3).

(2Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw, o ran contractwr—

(a)ei fod wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol ar 31 Ionawr 2006,

(b)nad yw’n cadw, neu nad yw’n cadw mwyach, gofnodion fel sy’n ofynnol o dan baragraff 9, ac

(c)nad yw wedi ei gyflogi, mewn perthynas â’r gwasanaethau offthalmig sylfaenol y mae’r contractwr yn eu darparu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, gan gontractwr arall.

(3Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw, o ran y contractwr—

(a)ei fod wedi gwneud trefniadau y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol—

(i)bod cofnod priodol yn cael ei gadw mewn cysylltiad â phob claf y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol iddo,

(ii)bod pob cofnod o’r fath yn cael ei gadw am gyfnod o 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y cafodd y claf ei weld ddiwethaf neu hyd nes bod y claf yn troi’n 25 oed, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a

(iii)bod rhaid, yn ystod y cyfnod hwnnw, ddangos cofnodion o’r fath fel y bo’n ofynnol o dan baragraff 9(3),

(b)ei fod wedi bodloni gofynion y Bwrdd Iechyd Lleol o ran cadw cofnodion ac y gellir gorfodi’r trefniadau yn gyfreithiol a’u bod yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofnodion hynny gael eu dangos, ac

(c)bod ganddo fynediad i’r cofnodion hynny ar bob adeg resymol.

Archwiliadau

11.—(1Rhaid i gontractwr—

(a)cwblhau, ym mhob blwyddyn ariannol, unrhyw archwiliadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr offthalmig, a

(b)cyflwyno’r archwiliadau hynny i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwr gwblhau mwy na thri archwiliad o’r fath mewn unrhyw flwyddyn ariannol.

(3Yr archwiliadau sy’n ofynnol gan is-baragraff (1) yw archwiliadau—

(a)sy’n ymwneud â gwasanaethau a ddarperir gan y contractwr, a

(b)sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” yn adran 206 o’r Ddeddf (dehongli).

Adrodd am y gweithlu

12.—(1Rhaid i gontractwr ddarparu unrhyw ddata am y gweithlu sy’n ofynnol, o bryd i’w gilydd, gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr offthalmig.

(2Nid oes dim yn y telerau gwasanaeth hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwr wneud unrhyw beth yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “data am y gweithlu” (“workforce data”) yw data sy’n ymwneud â’r rheini a gyflogir gan y contractwr;

mae i “deddfwriaeth diogelu data” yr ystyr a roddir i “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(4) (termau sy’n ymwneud â phrosesu data personol).

Cydweithredfa optometreg

13.—(1Rhaid i gontractwr—

(a)bod yn bresennol mewn o leiaf bedwar cyfarfod o’r gydweithredfa optometreg berthnasol ym mhob blwyddyn ariannol, a

(b)pleidleisio yn etholiad yr arweinydd optometreg ar gyfer y gydweithredfa optometreg berthnasol (ac unrhyw bleidlais ynghylch a ddylai’r person hwnnw barhau yn y swydd).

(2At ddibenion cydymffurfio â’r gofynion yn is-baragraff (1), caiff contractwr benodi unigolyn sy’n optometrydd, yn ymarferydd meddygol offthalmig neu’n optegydd cyflenwi i weithredu ar ran y contractwr.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “arweinydd optometreg” (“optometric lead”) yw’r person a etholir gan gydweithredfa optometreg i’w chynrychioli o fewn clwstwr gofal sylfaenol;

ystyr “clwstwr gofal sylfaenol” (“primary care cluster”) yw grŵp o ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi cytuno i gydweithio i gyflenwi gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws ardal ddaearyddol benodedig;

ystyr “cydweithredfa optometreg” (“optometry collaborative”) yw grŵp o gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol o fewn ardal ddaearyddol yr un clwstwr gofal sylfaenol;

ystyr “cydweithredfa optometreg berthnasol” (“relevant optometry collaborative”) yw’r gydweithredfa optometreg y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ei hardal.

Gwella ansawdd a llywodraethu

14.—(1Rhaid i gontractwr—

(a)cwblhau, ym mhob blwyddyn ariannol, hunanasesiad gwella ansawdd a llywodraethu, ar y ffurf sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr,

(b)cyflwyno’r hunanasesiad sydd wedi ei gwblhau i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, ac

(c)ymgymryd â hyfforddiant priodol, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mewn perthynas â gwella ansawdd a llywodraethu, a sicrhau bod cyflogeion perthnasol y contractwr yn ymgymryd â hyfforddiant o’r fath, fel sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr.

(2Nid yw’r gofyniad yn is-baragraff (1)(c) bod rhaid i’r contractwr ymgymryd â hyfforddiant yn gymwys i gontractwr sy’n optegydd corfforedig.

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “cyflogeion perthnasol”, mewn perthynas â chontractwr, yw cyflogeion o’r fath ddisgrifiad sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Datgan Euogfarnau etc.

15.—(1Wrth ddod yn ymwybodol o newid i’r wybodaeth a ddarparodd y contractwr yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 3 wrth wneud cais i gael ei gynnwys yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r contractwr hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r contractwr ddarparu’r holl awdurdod angenrheidiol er mwyn galluogi i gais gael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol i unrhyw gyflogwr (neu gyn-gyflogwr), unrhyw gorff trwyddedu, unrhyw gorff rheoleiddio neu unrhyw gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad a roddwyd gan y contractwr o dan is-baragraff (1).

(3Rhaid i gontractwr sydd wedi ei gynnwys yn rhestr offthalmig Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw dystysgrif cofnod troseddol manwl o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 mewn perthynas ag ef, os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol ar unrhyw adeg, am achos rhesymol, yn rhoi hysbysiad i’r contractwr i ddarparu tystysgrif o’r fath.

Ceisiadau i restrau eraill

16.  Rhaid i gontractwr sy’n ymarferydd meddygol offthalmig neu’n optometrydd roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr—

(a)os yw ef, neu gorff corfforedig y mae’n gyfarwyddwr iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr gofal sylfaenol neu restr gyfatebol, ac am ganlyniad unrhyw gais o’r fath;

(b)os daw’n gyfarwyddwr i gorff corfforedig sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw restr gofal sylfaenol, neu sy’n gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr o’r fath, ac am ganlyniad unrhyw gais o’r fath;

(c)yn achos optegydd corfforaethol, os yw unrhyw un neu ragor o’i gyfarwyddwyr yn gwneud cais i gael ei gynnwys neu eu cynnwys mewn rhestr gofal sylfaenol neu restr gyfatebol, ac am ganlyniad unrhyw gais o’r fath.

Dirprwyon

17.—(1Caiff contractwr drefnu i ddirprwy ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ar ran y contractwr.

(2Rhaid i unrhyw gontractwr sy’n gwneud trefniant ar gyfer darparu gwasanaethau yn rheolaidd gan ddirprwy hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol am y trefniant hwnnw.

(3Mae contractwr yn gyfrifol am holl weithredoedd ac anweithredoedd unrhyw berson sy’n gweithredu fel dirprwy iddo ac unrhyw gyflogai i’r person hwnnw.

(4Mae dirprwy sydd hefyd yn gontractwr yn gyfrifol ar y cyd i’r un graddau â’r contractwr y mae’r dirprwy yn dirprwyo ar ei ran.

Cyflogeion

18.—(1Caiff contractwr gyflogi—

(a)i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig, ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol;

(b)i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol i’r graddau y mae wedi ei gymhwyso i wneud hynny, ac o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol, fyfyriwr optometreg y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr atodol;

(c)i gynnal profion golwg, berson—

(i)sydd wedi ei awdurdodi i gynnal profion golwg gan reolau a wneir o dan adran 24(3) o Ddeddf Optegwyr 1989(5) (profion golwg), o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol offthalmig neu optometrydd y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol, ond

(ii)nad yw’n fyfyriwr optometreg;

(d)i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau archwilio llygaid i’r graddau y mae wedi ei achredu i wneud hynny, optegydd cyflenwi achrededig.

(2Rhaid i gontractwr sy’n cyflogi ymarferydd meddygol offthalmig, optometrydd, myfyriwr optometreg neu optegydd cyflenwi achrededig yn rheolaidd, hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â hynny.

(3Mae contractwr yn gyfrifol am holl weithredoedd ac anweithredoedd ei gyflogeion.

(4Mae cyflogai i’r contractwr sydd hefyd yn gontractwr yn gyfrifol ar y cyd ond dim ond, yn achos paragraffau 5(1) a (7) a 9(2), i’r graddau nad yw’r cyflogai wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gofynion y darpariaethau hynny wedi eu bodloni.

(5Yn y paragraff hwn—

mae “cyflogai” (“employee”) yn cynnwys cyfarwyddwr yn achos corff corfforedig, a rhaid dehongli “cyflogi” (“employ”) yn unol â hynny;

ystyr “optegydd cyflenwi achrededig” (“accredited dispensing optician”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gofrestru fel optegydd cyflenwi yn y gofrestr a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr) gyda chofnod am arbenigedd mewn lensys cyffwrdd,

(b)

sydd wedi ei achredu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ymgymryd ag elfennau o’r gwasanaeth archwilio llygaid, ac

(c)

sydd wedi darparu tystiolaeth o (b) i’r contractwr.

Y weithdrefn bryderon

19.—(1Rhaid i gontractwr gael yn eu lle drefniadau sy’n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(6) (“Rheoliadau 2011”), ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon.

(2Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 20 at “pryder” yn gyfeiriadau at bryder a hysbysir yn unol â Rheoliadau 2011.

Cydweithredu ag ymchwiliadau

20.—(1Rhaid i gontractwr gydweithredu ag unrhyw ymchwiliad i gŵyn neu bryder mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darpariaeth y contractwr o wasanaethau offthalmig sylfaenol a gynhelir gan “corff perthnasol”, sy’n cynnwys—

(a)y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2Mae’r cydweithredu sy’n ofynnol gan is-baragraff (1) yn cynnwys—

(a)ateb cwestiynau a ofynnir yn rhesymol i’r contractwr gan gorff perthnasol;

(b)darparu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r gŵyn neu’r pryder sy’n ofynnol yn rhesymol gan gorff perthnasol;

(c)bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod i ystyried y gŵyn neu’r pryder (os caiff ei gynnal mewn lle sy’n rhesymol hygyrch ac ar adeg resymol, ac os oes hysbysiad dyladwy wedi ei roi), os yw presenoldeb y contractwr yn ofynnol yn rhesymol gan gorff perthnasol.

Cwynion a wneir yn erbyn ymarferwyr meddygol offthalmig a phryderon a hysbysir ynghylch ymarferwyr meddygol offthalmig

21.—(1Pan fo contractwr sydd, oherwydd ei fod yn ymarferydd meddygol offthalmig, hefyd yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan gontract GMC ar gyfer unrhyw berson y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol ar ei gyfer, mae’r weithdrefn gwyno neu’r weithdrefn ar gyfer hysbysu am bryderon a sefydlir ac a weinyddir yn unol â thelerau’r contract GMC hwnnw yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darpariaeth y contractwr o wasanaethau offthalmig sylfaenol fel y mae’n gymwys mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau o dan y contract GMC.

(2Mae unrhyw ofyniad o ran cydweithredu ag ymchwiliadau i gwynion neu bryderon gan gyrff eraill a osodir ar gontractwr GMC o dan delerau contract y contractwr sy’n rhoi effaith i baragraff 102 o Atodlen 3 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023(7) hefyd yn gymwys mewn perthynas â chwynion neu bryderon ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1).

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “contract GMC” yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol) a rhaid dehongli “contractwr GMC” yn unol â hynny.

Hawliadau am daliadau

22.—(1Rhaid i unrhyw hawliad gan gontractwr am ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol o dan y Rheoliadau hyn gael ei wneud drwy gwblhau ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol a’i hanfon i’r Bwrdd Iechyd Lleol y darparwyd y gwasanaethau offthalmig sylfaenol yn ei ardal o fewn 3 mis gan ddechrau â dyddiad cwblhau darparu’r gwasanaethau hynny.

(2O ran unrhyw hawliad o’r fath—

(a)caniateir iddo gael ei gyflwyno’n electronig neu ar bapur, a

(b)rhaid iddo fod—

(i)wedi ei lofnodi gan yr optometrydd neu’r ymarferydd meddygol offthalmig y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr gyfunol ac a ddarparodd y gwasanaethau offthalmig sylfaenol neu a gynorthwyodd i ddarparu’r gwasanaethau hynny y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hwy (“yr ymarferydd”), a

(ii)mewn achos pan na fo’r ymarferydd yn rhestr offthalmig y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, wedi ei gydlofnodi ar ran y contractwr gan berson (a gaiff fod y contractwr) sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan y contractwr i gydlofnodi, y mae’r contractwr wedi hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn flaenorol ei fod wedi ei awdurdodi felly.

(3Yn achos hawliad a lofnodir o dan is-baragraff (2)(b)(i), rhaid i’r ymarferydd ddarparu, ynghyd â’i lofnod, ei rif cofrestru proffesiynol gyda’r rhagddodiad a’r ôl-ddodiad a roddwyd i’r rhif hwnnw yn y rhestr gyfunol y mae enw’r ymarferydd cymwysedig wedi ei gynnwys ynddi.

(4Yn achos hawliad a gydlofnodir o dan is-baragraff (2)(b)(ii), rhaid i’r person sydd wedi ei awdurdodi i gydlofnodi ddarparu, gyda chydlofnod y person hwnnw, rif cofrestru proffesiynol y contractwr.

(5Mae llofnodwr neu gydlofnodwr i lofnodi unrhyw hawliad electronig neu hawliad ar bapur mewn inc digidol neu mewn inc, yn llawysgrifen y llofnodwr neu’r cydlofnodwr ei hun ac nid drwy gyfrwng stamp na delwedd sydd wedi ei hatgynhyrchu, gydag—

(a)blaenlythrennau neu enw cyntaf y llofnodwr neu’r cydlofnodwr, a

(b)cyfenw’r llofnodwr neu’r cydlofnodwr.

(6Ac eithrio fel y’i darperir yn y Rheoliadau hyn, yn y Datganiad neu yn is-baragraff (7), ni chaiff contractwr fynnu na derbyn taliad o unrhyw ffi nac unrhyw dâl arall gan unrhyw glaf nac unrhyw bersonau eraill mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol.

(7Mae gan gontractwr hawlogaeth i fynnu ac i adennill gan glaf, neu gan berson a chanddo ofal am glaf, swm mewn cysylltiad â cholli amser y gellid bod wedi ennill tâl amdano sy’n deillio o fethiant y claf hwnnw i gadw apwyntiad.

(8Ni chaiff contractwr fynnu na derbyn taliad o unrhyw ffi nac unrhyw dâl arall gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag unrhyw eitem gwasanaeth—

(a)nad yw wedi ei ddarparu o dan wasanaethau offthalmig sylfaenol, neu

(b)y mae hawliad arall eisoes wedi ei gyflwyno ar ei gyfer i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

Profion golwg

23.—(1Pan fo contractwr wedi derbyn cais i gynnal prawf golwg o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r contractwr—

(a)cynnal prawf golwg ar y claf i benderfynu a oes angen i’r claf wisgo neu ddefnyddio teclyn optegol,

(b)wrth wneud hynny, gyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar y contractwr gan adran 26 o Ddeddf Optegwyr 1989(8) (dyletswyddau sydd i’w cyflawni wrth gynnal profion golwg) neu mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno, ac

(c)darparu cyngor iechyd llygaid perthnasol i’r claf.

(2O ran presgripsiwn am sbectol a ddyroddir yn dilyn prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol—

(a)rhaid iddo gael ei gwblhau drwy’r dull a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, a

(b)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion o ran ei ffurf a bennir yn y Datganiad at ddibenion talu mewn cysylltiad â’r prawf golwg.

(3Pan fo contractwr yn darparu prawf golwg fel rhan o wasanaethau symudol, rhaid i’r contractwr gofnodi’r rheswm a roddir gan y claf, neu ar ei ran, pam y mae arno angen gwasanaethau symudol, ar y ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol.

(4Rhaid i gontractwr gadw cofnod o’r cyngor iechyd llygaid a ddarperir i glaf o dan y paragraff hwn.

(5At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “cyngor iechyd llygaid perthnasol”, mewn perthynas â chlaf, yw—

(a)cyngor ynghylch unrhyw risgiau i iechyd llygaid neu olwg y mae’n ymddangos i’r contractwr eu bod yn berthnasol i’r claf hwnnw,

(b)cyngor ynghylch sut i liniaru unrhyw risgiau a nodir i iechyd ei lygaid neu i’w olwg,

(c)argymhellion ar gyfer rheoli cyflwr llygaid y claf neu iechyd ei lygaid neu ei olwg, a

(d)unrhyw gyngor arall, at ddiben gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y claf o unrhyw faterion iechyd sy’n gysylltiedig â chyflwr llygaid, iechyd llygaid neu olwg y claf, y mae’n ymddangos i’r contractwr ei fod yn berthnasol i amgylchiadau personol y claf.

Archwiliadau llygaid

24.—(1Rhaid i gontractwr ddarparu archwiliad llygaid i berson o dan yr amgylchiadau yn is-baragraff (2).

(2Yr amgylchiadau yw bod ymarferydd cymwysedig yn ystyried ei bod yn briodol yn glinigol i ddarparu archwiliad llygaid i berson—

(a)oherwydd canfyddiadau clinigol sydd wedi dod i’r amlwg wrth ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu yn ystod prawf golwg a ddarperir ac eithrio o dan y Ddeddf, i’r person hwnnw,

(b)yn dilyn argymhelliad gan broffesiynolyn gofal iechyd y dylai’r person gael archwiliad gan ymarferydd cymwysedig,

(c)oherwydd bod gan y person broblem llygaid acíwt, neu y gall fod ganddo broblem llygaid acíwt, neu

(d)at ddiben adolygu iechyd llygaid y person yn dilyn—

(i)triniaeth mewn ysbyty offthalmig, neu

(ii)archwiliad llygaid blaenorol o dan is-baragraff (c).

(3Pan fo contractwr yn darparu archwiliad llygaid fel rhan o wasanaethau symudol, rhaid i’r contractwr gofnodi’r rheswm a roddir gan y claf, neu ar ei ran, pam y mae arno angen gwasanaethau symudol, ar y ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol.

(4At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” yw person sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(9) (yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol).

Gwrthod darparu gwasanaethau

25.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan—

(i)bo person yn gwneud cais am brawf golwg, a

(ii)bo’r contractwr wedi ei fodloni bod y person yn gymwys i gael prawf golwg yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu

(b)pan fo un o’r amgylchiadau ym mharagraff 24(2) yn gymwys mewn perthynas â pherson.

(2Ni chaiff y contractwr wrthod darparu’r gwasanaeth perthnasol i’r person hwnnw ond os oes ganddo seiliau rhesymol dros wneud hynny.

(3At ddibenion paragraff (2), ni chaiff seiliau rhesymol ymwneud ag oedran, cyflwr offthalmig na chyflwr meddygol cysylltiedig y person.

Atgyfeiriadau

26.—(1Pan fo contractwr, neu ymarferydd cymwysedig sy’n cynorthwyo’r contractwr i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol, o’r farn, o ran claf sydd wedi cael prawf golwg yn unol â pharagraff 23 neu archwiliad llygaid yn unol â pharagraff 24 o’r Atodlen hon—

(a)ei fod yn dangos, yn ystod yr archwiliad, arwyddion o anaf, clefyd neu annormaledd yn y llygad neu yn rhywle arall, a all fod angen triniaeth feddygol, neu

(b)nad yw ei olwg yn debygol o gyrraedd safon foddhaol er gwaethaf rhoi lensys cywiro iddo,

rhaid i’r contractwr, os yw’n briodol, a chyda chydsyniad y claf, gymryd y camau a nodir yn is-baragraff (2).

(2Y camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)yn y lle cyntaf, atgyfeiriad at optometrydd a chanddo gymwysterau sy’n briodol i anghenion y claf;

(b)os yw’r contractwr yn ystyried na fyddai atgyfeiriad o’r math a bennir ym mharagraff (a) yn diwallu anghenion y claf, atgyfeiriad i ysbyty offthalmig.

(3Pan fo contractwr yn gwneud atgyfeiriad yn unol â’r paragraff hwn, rhaid i’r contractwr—

(a)rhoi gwybod ar unwaith i ymarferydd cyffredinol y claf am yr atgyfeiriad a darparu manylion am y rheswm dros yr atgyfeiriad, a

(b)rhoi datganiad ysgrifenedig ar unwaith i’r claf sy’n cadarnhau bod yr atgyfeiriad wedi ei wneud, gyda manylion yr atgyfeiriad.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “ymarferydd cyffredinol” yw ymarferydd meddygol sydd wedi ei gofrestru fel ymarferydd cyffredinol.

(5Rhaid i atgyfeiriad a wneir gan gontractwr yn unol â’r paragraff hwn gael ei wneud yn electronig pan fo’r dulliau o wneud atgyfeiriadau electronig ar gael i’r contractwr.

Defnyddio enw sydd wedi ei anghymhwyso

27.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff contractwr ddefnyddio, mewn unrhyw fodd, enw neu ran o enw unrhyw berson, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad ag unrhyw eiriau neu lythrennau eraill, nac enw neu ran o enw a ddefnyddir gan unrhyw berson, cyhyd ag y bo’r person hwnnw wedi ei anghymhwyso gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf rhag cael ei gynnwys mewn unrhyw restr gyfunol yn rhinwedd y Ddeddf neu’r Rheoliadau hyn.

(2Nid oes dim yn is-baragraff (1) sy’n atal—

(a)contractwr nad yw’n gorff corfforedig rhag defnyddio enw’r contractwr ei hun, neu

(b)contractwr sy’n gorff corfforedig rhag defnyddio’r enw y mae wedi ei gofrestru odano yn y gofrestr a gynhelir o dan Ddeddf Optegwyr 1989.

Hyfforddiant

28.—(1Rhaid i gontractwr sicrhau bod y personau a bennir yn is-baragraff (2) yn ymgymryd â hyfforddiant, fel sy’n ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr wedi ei gynnwys yn ei restr, ac o ran yr hyfforddiant hwnnw—

(a)rhaid iddo gynnwys hyfforddiant blynyddol at ddiben cynnal a diweddaru sgiliau proffesiynol a gwybodaeth broffesiynol yr unigolyn mewn perthynas â’r gwasanaethau y mae’r person hwnnw yn eu cyflawni, yn cynorthwyo i’w cyflawni neu yn eu cefnogi;

(b)caiff gynnwys hyfforddiant ad-hoc arall neu hyfforddiant untro at y diben hwnnw.

(2Y personau yw—

(a)y contractwr, ac eithrio pan fo’r contractwr yn optegydd corfforedig;

(b)y rheini a gyflogir gan y contractwr o dan baragraff 18(1) i gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol;

(c)eraill a gyflogir gan y contractwr sy’n cefnogi’r personau a restrir yn (b) i gyflawni gwasanaethau o’r fath.

(3Ni chaiff contractwr gyflogi na chymryd ymlaen fel arall ymarferydd cymwysedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau offthalmig sylfaenol oni bai bod y contractwr wedi ei fodloni bod yr ymarferydd cymwysedig yn meddu ar y profiad clinigol a’r hyfforddiant angenrheidiol i’w alluogi i gyflawni’n briodol y gwasanaethau y bydd yn ofynnol iddo eu cyflawni.

Cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau

29.  Rhaid i gontractwr—

(a)cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, a

(b)rhoi sylw i’r holl ganllawiau perthnasol a ddyroddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru.

(1)

O.S. 1992/664; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/703, O.S. 2002/2469 ac O.S. 2013/2042.

(2)

O.S. 1997/818, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/301.

(4)

2018 p. 12; diwygiwyd y diffiniad yn adran 3 gan O.S. 2019/419.

(5)

Diwygiwyd adran 24 gan O.S. 2005/848.

(6)

O.S. 2011/704; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2023/274 (Cy. 41) ac O.S. 2023/281 (Cy. 42).

(8)

Diwygiwyd adran 26 gan O.S. 2005/848, erthygl 19.