xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol drefnu, mewn cysylltiad â’i ardal, ar gyfer darparu archwiliadau llygaid yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol weinyddu’r trefniadau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “archwiliad llygaid” yw archwiliad o’r llygad at ddiben gwneud diagnosis o gyflwr llygaid neu benderfynu ar driniaeth ar gyfer cyflwr llygaid, neu adolygu cyflwr presennol, sy’n cynnwys y profion a’r gweithdrefnau hynny a’r cyngor hwnnw sy’n briodol i’r arwyddion a’r symptomau sy’n ymgyflwyno yn y claf, ac i anghenion y claf hwnnw, a
(b)cyfeirir at y gwasanaethau sy’n ofynnol gan baragraff (1) fel “gwasanaethau archwilio llygaid”.
4. Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yw’r gwasanaethau y mae rhaid i gontractwr eu darparu o dan baragraff 23 (profion golwg) o’r telerau gwasanaeth, a
(b)ystyr “gwasanaethau offthalmig sylfaenol” yw, gyda’i gilydd—
(i)gwasanaethau offthalmig cyffredinol, a
(ii)gwasanaethau archwilio llygaid.