xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 83 (Cy. 29)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Gwnaed

am 2.57 p.m. ar 27 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.45 p.m. ar 27 Ionawr 2022

Yn dod i rym

am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)o dan y pennawd “Cam 2”, hepgorer “a Cham 4”;

(ii)hepgorer—

Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau o dan do yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;

(b)pan fo’n ofynnol i bersonau aros o dan do i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.

Cam 4;

(b)hepgorer paragraff (1A);

(c)hepgorer paragraff (3)(ba);

(d)hepgorer paragraff (4A).

(3Hepgorer rheoliadau 16ZA ac 16ZB.

(4Yn rheoliad 16A(1), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)na all y person, am resymau meddygol—

(i)cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig, na

(ii)cymryd prawf cymhwysol.

(5Hepgorer Rhan 4B.

(6Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “mynediad iddynt” mewnosoder “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;

(b)hepgorer paragraff (3)(h).

(7Yn rheoliad 26, hepgorer “, 16ZA(1), 16ZB”.

(8Yn rheoliad 37, hepgorer paragraff (2).

(9Hepgorer rheoliad 42A.

(10Yn Atodlen 5, yng ngholofn 3 o’r tabl ym mharagraff 1, yn lle “Lefel Rhybudd 2” rhodder “Dim lefel rhybudd”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.57 p.m. ar 27 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru o 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:

Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu:

Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i’r darpariaethau a nodir uchod ac Atodlenni 1 i 4) o’r prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymwys, gan gynnwys gofynion ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd rheoleiddiedig i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mangreoedd. Mae’r gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do hefyd yn parhau i fod yn gymwys, ond mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i berson wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Er gwaethaf llacio’r rheolau ar bobl yn ymgynnull ac yn mynd i ddigwyddiadau, mae’r mesurau rhesymol (o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau) sy’n parhau i fod yn ofynnol mewn mangre reoleiddiedig yn golygu y gall fod angen i’r rheini sy’n gyfrifol am y fangre bennu terfynau ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull, ac ar gapasiti digwyddiadau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn newid cymhwystra i fod yn bresennol mewn mangreoedd penodol o dan reoliad 16A (a adwaenir yn gyffredin fel “pàs COVID”) i gynnwys personau sydd â thystiolaeth na allant, am resymau meddygol, gael eu brechu neu gymryd prawf cymhwysol am y coronafeirws.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.