xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 709 (Cy. 179)

Anifeiliaid, Cymru

Atal Creulondeb

Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2021

Gwnaed

15 Mehefin 2021

Yn dod i rym

7 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 8(3) a (7) o Ddeddf Plâu 1954(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Amrywio) (Cymru) 2021 a daw i rym ar 7 Gorffennaf 2021.

Amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019

2.  Mae’r Atodlen i Orchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019(3) wedi ei hamrywio fel a ganlyn—

(a)yng nghofnodion Goodnature A18 Grey Squirrel Trap, Goodnature A18 Mink Trap, Goodnature A24 Pro a Goodnature A24 Rat and Stoat Trap, yng ngholofn 1 (y math o drap a’i wneuthuriad), yn lle “4-12 Cruickshank Street, Kilbirnie 6022, Wellington,” rhodder “8 Horner Street, Newtown, Wellington 6021,”;

(b)yn y cofnod ar gyfer Goodnature A24 Rat and Stoat Trap, yng ngholofn 2 (amodau), yn lle “a llygod” rhodder “, llygod a phathewod bwytadwy (Glis glis)(4)”;

(c)ar ôl y cofnod ar gyfer Nooski Mouse Trap mewnosoder y cofnod a ganlyn—

Perdix Spring Trap a weithgynhyrchir gan, neu o dan awdurdod, PERDIX Wildlife Solutions Ltd, Unit 1 Hatton Rock Business Park, Hatton Rock, Stratford-Upon-Avon, Warwickshire, CV37 0BX.

Ni chaniateir defnyddio’r trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod.

Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn addas at y diben.;

(d)yn y cofnod ar gyfer Tully Trap, yng ngholofn 2 (amodau), yn lle “a llygod mawr.” rhodder—

, llygod mawr a gwiwerod llwyd.

Pan gaiff y trap ei ddefnyddio ar gyfer gwiwerod llwyd, rhaid gosod arno fafflau ar gyfer gwiwerod llwyd a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd neu a adeiladwyd yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd. Rhaid defnyddio bafflau a osodwyd ar drap yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn amrywio Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2019 (O.S. 2019/18) (Cy. 7).

O dan adran 8 o Ddeddf Plâu 1954 (p. 68), mae’n drosedd i ddefnyddio neu i ymwybodol ganiatáu defnyddio unrhyw drap sbring ac eithrio trap sydd wedi ei gymeradwyo drwy orchymyn, ar anifeiliaid neu mewn amgylchiadau nad yw wedi ei gymeradwyo ar eu cyfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu math o drap sbring at y rhai sydd wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio yng Nghymru, sef Perdix Spring Trap (erthygl 2(c)).

Mae’n diweddaru cyfeiriad Goodnature Ltd sy’n gweithgynhyrchu trapiau ac yn ychwanegu at y rhywogaethau targed y caniateir defnyddio dau o’r trapiau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar eu cyfer:

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1954 p. 68. Diwygiwyd adran 8(7) gan adran 1(1) o Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1973 (p. 39) a Rhan 8 o Atodlen 1 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Gweinidog y Goron yn Neddf Plâu 1954, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 672/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Gweler y troednodyn ar gyfer Kania Trap 2000 yn yr Atodlen i O.S. 2019/18 (Cy. 7).