xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
am 3.05 p.m. ar 14 Awst 2020
Gosodwyd gerbon Senedd Cymru
am 5.50 p.m. ar 14 Awst 2020
Yn dod I rym
am 4.00 a.m ar 15 Awst 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).
2.—(1) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—
“Aruba”
“Ffrainc”
“Yr Iseldiroedd”
“Malta”
“Monaco”.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—
“Ynysoedd Turks a Caicos”.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 15 Awst 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
4.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—
“(m)Twrnamaint Golff Agored Iwerddon Dubai Duty Free (Cylchdaith Golff Ewrop);
(n)Twrnamaint Golff Agored Gogledd Iwerddon (Cylchdaith Her Ewrop a gefnogir gan yr R&A).”
(3) Yn lle paragraff 8 rhodder—
“8. Rygbi’r Gynghrair—
(a)Gornestau Super League Betfred;
(b)Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair.”
(4) Ar y diwedd mewnosoder—
“14. Bocsio—
(a)Matchroom Fight Camp – Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;
(b)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;
(b)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r Byd.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.05 p.m. ar 14 Awst 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor Aruba, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Malta Monaco ac Ynysoedd Turks a Caicos o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 4 yn ychwanegu digwyddiadau a gornestau eraill at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.