xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 514 (Cy. 121)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

15 Mai 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Mai 2020

Yn dod i rym

19 Mai 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62(11), 62R a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 62(1) a (2), 71(1), (2)(a) a (2A), a 333(7) o’r Ddeddf honno(2) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62(1) gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016(4)), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mai 2020.

Ymgynghori cyn ymgeisio: rhoi gwybodaeth ar gael

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl erthygl 2F mewnosoder—

Coronafeirws: addasu’r Rhan hon dros dro

2G.(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn yr erthygl hon pan fydd—

(a)pob un o’r hysbysiadau y mae erthyglau 2C(1)(a) a 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd eu rhoi mewn perthynas â chais arfaethedig yn cael eu rhoi ar ôl dechrau cyfnod yr argyfwng, a

(b)o leiaf un o’r hysbysiadau hynny yn cael ei roi cyn diwedd cyfnod yr argyfwng.

(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “cyfnod yr argyfwng” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

(3) Mae erthygl 2C(1) yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (b), “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan” wedi ei roi yn lle “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—

ac

(c)anfon copïau caled o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) at unrhyw berson sy’n gofyn amdanynt, pan ofynnir amdanynt o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

(4) Mae erthygl 2C yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—

(3A) Os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir ym mharagraff (1)(c), ni chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf yn unol â’r paragraff hwnnw.

(5) Mae erthygl 2C(5) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2C(1)(a) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

(6) Mae erthygl 2D(5)(a) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2D(2) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.

(7) Mae erthygl 2F(2) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (c)—

(ca)datganiad bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) o erthygl 2C(1) wedi ei rhoi ar gael yn unol â’r is-baragraff hwnnw;

(cb)datganiad yn nodi pa un a ofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir yn is-baragraff (c) o erthygl 2C(1) ac, os felly, datganiad bod y copïau caled wedi eu hanfon yn unol â’r is-baragraff hwnnw;.

(3Ar ôl Atodlen 1C mewnosoder Atodlen 1D a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Cyfnod i gynghorau cymuned wneud sylwadau ar geisiadau

3.  Yn erthygl 16 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo cyngor cymuned yn cael ei hysbysu am gais yn ystod cyfnod yr argyfwng, mae paragraffau (1) a (2)(c) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriadau at 21 o ddiwrnodau.

(5) Ym mharagraff (4), mae i “cyfnod yr argyfwng” yr ystyr a roddir gan erthygl 2G(2).

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: gwneud ceisiadau

4.  Yn erthygl 12 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(6), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys i gais a wneir yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a

(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Mai 2020

Erthygl 2(3)

ATODLENHysbysiad cyn-ymgeisio ar gyfer cyfnod yr argyfwng

Erthygl 2G

ATODLEN 1DCYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO: HYSBYSIAD I’W ROI YN YSTOD CYFNOD YR ARGYFWNG

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”). Mae’n mewnosod darpariaethau yn y Gorchmynion hynny sy’n addasu neu’n datgymhwyso gofynion penodol mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 19 Mai 2020 ac sy’n dod i ben ar 18 Medi 2020.

Mae erthygl 2 yn mewnosod erthygl 2G newydd yng Ngorchymyn 2012. Mae erthygl 2G yn addasu Rhan 1A o Orchymyn 2012, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr ymgynghoriad y mae rhaid ei gynnal cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr.

Mae’r erthygl 2G(3) newydd yn addasu erthygl 2C o Orchymyn 2012 fel bod gofyniad i roi’r dogfennau ar gael ar wefan ac ar ffurf copi caled ar gais wedi ei roi yn lle’r gofyniad i roi gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chais cynllunio arfaethedig ar gael yn lleol i’w harchwilio. Er mwyn adlewyrchu hynny, darperir ffurf addasedig o’r hysbysiad y mae rhaid ei osod ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef a’i anfon at berchnogion a meddianwyr tir cyffiniol. Mae’r un ffurf addasedig o’r hysbysiad i’w defnyddio i hysbysu ymgyngoreion cymunedol o dan erthygl 2D o Orchymyn 2012.

Mae’r erthygl 2G(4) newydd yn addasu erthygl 2C o Orchymyn 2012 i ddarparu, os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau, na chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf.

Mae’r erthygl 2G(7) newydd yn addasu erthygl 2F o Orchymyn 2012 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys cadarnhad bod y gofynion addasedig i roi gwybodaeth am y cais arfaethedig ar gael ar wefan ac i ddarparu copïau caled o’r wybodaeth honno pan ofynnir amdanynt wedi eu bodloni. Mae datganiad yn cadarnhau pa un a ofynnwyd am gopïau caled ai peidio i’w gynnwys hefyd.

Mae erthygl 3 yn gwneud newidiadau i erthygl 16 o Orchymyn 2012 er mwyn estyn yr amser sydd gan gynghorau cymuned i ymateb pan gânt eu hysbysu am gais cynllunio, o 14 o ddiwrnodau i 21 o ddiwrnodau.

Mae erthygl 4 yn datgymhwyso’r gofyniad yn erthygl 12 o Orchymyn 2016 i berson adneuo copi caled o gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol gyda Gweinidogion Cymru a’r Awdurdod Cynllunio Lleol pan wneir y cais gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 62(11) gan adran 17(3) o Ddeddf 2015 (gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) (y cyfeirir ati yn y troednodyn nesaf) sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu mewn perthynas â Chymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru). Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Amnewidiwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(3) o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Diwygiwyd adran 59(2) gan adran 1 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan adran 27 o Ddeddf 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Gweler adran 71(4) am ystyr “prescribed”. Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(5)

O.S. 2012/801 (Cy. 110), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/59 (Cy. 29) ac O.S. 2017/567 (Cy. 136); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2016/55 (Cy. 25), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.