xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfarfodydd

Pryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol penodol

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â phrif gyngor nad yw wedi cynnal cyfarfod blynyddol—

(a)ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020, a

(b)cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod, ym mharagraff 1(2) (cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau), o flaen paragraff (b)(1)

(ab)in 2020, on such day in 2020 as the proper officer of the council may fix;.

(1)

Diwygiwyd paragraff 1(2)(b) gan adran 1(6) o Ddeddf Etholiadau 2001 (p. 7).