xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 No. 442 (Cy. 100)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020

Gwnaed

am 10:00 a.m. ar 21 Ebrill 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

am 5:30 p.m. ar 21 Ebrill 2020

Yn dod i rym

22 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 78 o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1), adrannau 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2), ac adrannau 22(3) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(4).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, rhychwant a chymhwyso, a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Ebrill 2020.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

prif gyngor;

(b)

gweithrediaeth prif gyngor (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(c)

cyngor cymuned;

(d)

cyd-fwrdd ar gyfer ardal yng Nghymru, sy’n dal i fodoli yn rhinwedd adran 263(1) o Ddeddf 1972;

(e)

awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru, a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5);

(f)

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru, a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(6) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo;

(g)

awdurdod Parc Cenedlaethol;

(h)

cydbwyllgor o ddau neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g);

(i)

pwyllgor neu gydbwyllgor o unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (h);

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer ardal yng Nghymru, a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(7);

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(8);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad i’r graddau y mae’n cynnwys darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf Cynulliad;

ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

Rhyngweithio â rheolau sefydlog etc.

3.—(1Mae’r ddarpariaeth a wneir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys ni waeth am unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir yn y rheolau sefydlog, y trefniadau gweithrediaeth neu unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol.

(2I’r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill awdurdod lleol yn anghydnaws ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, nid yw’n cael unrhyw effaith tra bo’r ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Cyhoeddi’n electronig

4.  Os oes gan y corff y gosodir y gofyniad arno ei wefan ei hun, mae gofyniad a osodir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen yn electronig yn ofyniad i’w cyhoeddi ar y wefan honno.

RHAN 2Mynychu o bell

Mynychu o bell

5.—(1Nid yw adran 4 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(9) (mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021.

(2Caniateir i gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir cyn y dyddiad hwnnw gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r offer neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).

(3O ran cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall—

(a)at berson yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol neu’n bresennol mewn cyfarfod awdurdod lleol, mae’n cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mynychu’r cyfarfod drwy ddefnyddio’r dulliau hynny;

(b)nid yw’r lle y cynhelir cyfarfod awdurdod lleol i gael ei ddarllen fel pe bai’n gyfyngedig i un lleoliad corfforol.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu ar bwerau awdurdod lleol i wneud rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill ynghylch cyfarfodydd a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2).

(5Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.

RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfarfodydd

Pryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol penodol

6.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â phrif gyngor nad yw wedi cynnal cyfarfod blynyddol—

(a)ar neu ar ôl 1 Mawrth 2020, a

(b)cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod, ym mharagraff 1(2) (cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau), o flaen paragraff (b)(10)

(ab)in 2020, on such day in 2020 as the proper officer of the council may fix;.

7.  Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen fel pe bai “in 2020, the annual meeting is to be held on such day in 2020 as the proper officer of the council may determine,” wedi ei fewnosod, ym mharagraff 23(2)(11) (cyfarfodydd blynyddol cynghorau cymuned), ar ôl “take office,”.

8.  Mae paragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995(12) (cyfarfodydd blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—

(1A) But in 2020, the annual meeting is to be on such day in that year, and at such hour, as is fixed by the chair of the Authority after consulting the proper officer of the Authority.;

(b)“Other than in 2020,” wedi ei fewnosod yn is-baragraff (2), ar y dechrau.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd eraill

9.—(1Caniateir cynnal cyfarfod y mae’n ofynnol, yn rhinwedd deddfiad neu offeryn arall, i awdurdod lleol ei gynnal cyn 1 Mai 2021 ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw amser cyn 1 Mai 2021 y mae’r awdurdod lleol yn ei bennu (pa un a yw’n ddarostyngedig i unrhyw ofynion eraill ai peidio o ran pryd y mae rhaid ei gynnal).

(2Yn y rheoliad hwn, nid yw “cyfarfod” yn cynnwys cyfarfod blynyddol—

(a)prif gyngor;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol.

Methu mynychu cyfarfodydd

10.  Mae adran 85(13) o Ddeddf 1972 (gadael swydd yn sgil methu mynychu cyfarfodydd) i’w darllen mewn perthynas ag awdurdod lleol y mae’r adran honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) fel pe bai—

(a)“(3C) to (3D)” wedi ei osod yn lle “(3C) and (3D)” yn is-adran (3B);

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3C)—

(3CA) In relation to a member of a local authority in Wales, the period—

(a)beginning with the day on which the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 come into force, and

(b)ending with the first day after the day mentioned in paragraph (a) on which a meeting is held, attendance at which would be—

(i)attendance by the member at a meeting of the local authority for the purposes of subsection (1), or

(ii)if the member is a member of the executive of the local authority, attendance by the member at a meeting of the executive for the purposes of subsection (2A),

is to be disregarded.;

(c)“or (as the case may be) (3CA)” wedi ei fewnosod ar ôl “(3C)” ym mhob un o baragraffau (a) a (b) yn is-adran (3D).

Ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion prif gynghorau a chynghorau cymuned yn y cyfarfodydd blynyddol

11.—(1Mae Deddf 1972 i’w darllen yn ddarostyngedig i’r rheoliad hwn.

(2Mae adran 22(1) (cadeirydd) i’w darllen fel pe bai “; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office.” wedi ei fewnosod ar ôl “councillors”.

(3Mae adran 23 (ethol cadeirydd) i’w darllen fel pe bai—

(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the council decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “council”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—

(1A) A principal council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before the annual meeting held in 2021 (but not after 30 April 2021).

(4Mae adran 24(2) (is-gadeirydd) i’w darllen fel pe bai “the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”.

(5Mae adran 34 (cynghorau cymuned) i’w darllen fel pe bai—

(a)“; but if there is no election of a chair at the annual meeting of the council in 2020, the person holding office as chair immediately before the annual meeting of the council in 2020 may continue to hold office” wedi ei fewnosod yn is-adran (1), ar ôl “councillors”;

(b)“; but the community council may decide not to hold an election of a chair at the annual meeting held in 2020” wedi ei fewnosod yn is-adran (2), ar ôl “subsection (3) below”;

(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (2)—

(2A) A community council that did not elect a chair at its annual meeting held in 2020 may hold an election of a chair at any time before 1 May 2021.;

(d)“the next election of a chair held other than under section 88” wedi ei roi yn lle “the election of a chairman at the next annual meeting of the council”, yn is-adran (7).

Ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn y cyfarfodydd blynyddol

12.  Mae paragraff 5(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(14) (awdurdodau Parciau Cenedlaethol) i’w ddarllen fel pe bai “ending when the annual meeting of the authority which follows their election is held under paragraph 2(1) of Schedule 3 to the National Park Authorities (Wales) Order 1995 (S.I. 1995/2803)” wedi ei roi yn lle “not exceeding one year”.

Ethol cadeirydd y cyd-fwrdd gan Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe yn y cyfarfod blynyddol

13.  Mae erthygl 5 o Orchymyn Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe 1991(15) i’w darllen fel pe bai—

(a)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting; if there is no election at that meeting the person holding office as chair immediately before that meeting may hold office for more than one year” wedi ei fewnosod ym mharagraff (1), ar ôl “amongst the members”;

(b)“unless, in relation to the annual meeting held in 2020, the board decides not to hold an election of a chair at that meeting” wedi ei fewnosod ym mharagraff (2), ar ôl “board”.

Penodiadau ac etholiadau eraill y mae’n ofynnol eu cynnal mewn cyfarfodydd

14.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarfod perthnasol” (“relevant meeting”) yw cyfarfod awdurdod lleol sydd i’w gynnal cyn 1 Mai 2021;

ystyr “swydd berthnasol” (“relevant office”) yw swydd y penodir neu yr etholir person iddi mewn cyfarfod perthnasol, heblaw swyddi—

(a)

cadeirydd ac is-gadeirydd prif gyngor;

(b)

cadeirydd ac is-gadeirydd cyngor cymuned;

(c)

cadeirydd a dirprwy gadeirydd awdurdod Parc Cenedlaethol;

(d)

cadeirydd Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe.

(2Mae unrhyw ofyniad a osodir gan unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall i benodi neu ethol person i swydd berthnasol mewn cyfarfod perthnasol, heblaw gofyniad i lenwi lle gwag yn y swydd honno, i’w drin fel pŵer i benodi neu ethol person i’r swydd honno mewn unrhyw gyfarfod perthnasol.

(3Mae cyfnod swydd person sy’n dal swydd berthnasol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau tan yn union cyn i olynydd y person hwnnw ddod i’w swydd, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall, heblaw darpariaeth sy’n ymwneud â gadael y swydd cyn diwedd cyfnod y swydd.

Aelodau dirprwyol pwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol

15.  Tan ddiwedd 30 Ebrill 2021, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(16) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn rheoliad 4A, paragraff (3)(b) wedi ei hepgor;

(b)yn Atodlen 2A(17), paragraff 2 (rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol) wedi ei hepgor.

Pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned

16.  Mae paragraff 29 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (1)—

(1) The manner of voting at meetings of a community council is to be decided by the council, but (if a vote is necessary on that question) the proper officer is to determine the manner of voting on that decision; if agreement cannot be reached, the proper officer is to determine the manner of voting on all other matters.

Hysbysiadau a gwysion

17.—(1Mae paragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd prif gynghorau) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), “of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically”, wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the council’s offices”;

(ii)ym mharagraff (a), “set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(iii)ym mharagraff (b), “authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;

(iv)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd paragraff (b),

must be sent to every member of the council by—

(a)sending it by post to the member’s place of residence, or

(b)sending it electronically.;

(b)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.

(2Mae paragraff 26(2)(18) o Atodlen 12 (cyfarfodydd cynghorau cymuned) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published electronically and fixed in some conspicuous place in the community”;

(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(b)ym mharagraff (b)—

(i)“authenticated by the proper officer of the council in such manner as the proper officer considers appropriate” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the council”;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau o “shall” hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw,

must be sent to every member of the council by—

(a)sending it by post to the member’s place of residence, or

(b)sending it electronically.

18.  Mae paragraff 6 o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (galw cyfarfodydd) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021 fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)(a)—

(i)“of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be published electronically” wedi ei roi yn lle “and place of the intended meeting shall be published at the principal offices of the Authority”;

(ii)“set out the names of those members” wedi ei roi yn lle “be signed by those members”;

(b)yn is-baragraff (2)(b)(19)

(i)“authenticated by the proper officer of the Authority in such manner as the proper officer considers appropriate, must be” wedi ei roi yn lle “signed by the proper officer of the Authority shall, subject to sub-paragraph (3) below, be left at or”;

(ii)“usual” wedi ei hepgor;

(iii)“or sent electronically to every member of the Authority,” wedi ei fewnosod ar ôl “member of the Authority”;

(c)is-baragraff (3) wedi ei hepgor.

RHAN 4Addasu gofynion ynglŷn â mynediad i’r cyhoedd

Mynediad i gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol ac at ddogfennau perthynol

19.  Mae’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn, heblaw rheoliad 22, yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Ebrill 2021.

20.—(1Mae adran 1 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960(20) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol y mae’r Ddeddf honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021 fel pe bai—

(a)is-adran (1)(21) wedi ei hepgor;

(b)yn is-adran (2)—

(i)“Where a meeting is open to the public, a body may, by resolution exclude the public from the meeting” wedi ei roi yn lle “A body may, by resolution, exclude the public from a meeting”;

(ii)y geiriau o “and where such a resolution” hyd at y diwedd wedi eu hepgor;

(c)yn is-adran (4)—

(i)“The following provisions apply in relation to a meeting of a body—” wedi ei roi yn lle’r geiriau o flaen paragraff (a);

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (a) a (b)—

(a)public notice of the time of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be given by publishing it electronically at least three clear days before the meeting or, if the meeting is convened at shorter notice, then as soon as reasonably practicable;

(b)the agenda for the meeting as supplied to members of the body must also be published electronically in advance of the meeting (but excluding, if thought fit, any relevant item), together with such further statements or particulars, if any, as are necessary to indicate the nature of the items included or, if thought fit in the case of any item, any reports or other documents supplied to members of the body in connection with the item;;

(iii)ym mharagraff (c), y geiriau o “and duly accredited” hyd at y diwedd wedi eu hepgor;

(d)y canlynol wedi ei roi o flaen is-adran (5)—

(4B) In subsection (4), “relevant item” means—

(a)where a meeting or part of a meeting is not likely to be open to the public by virtue of section 1(2), an item that would be considered while the meeting is not open to the public;

(b)where a meeting is not to be open to the public other than by virtue of section 1(2), an item which, in the opinion of the proper officer, would have been likely, had section 1(1), applied, to have been considered while the meeting was not open to the public by virtue of section 1(2).;

(e)yn is-adran (5), “Where a document is published under subsection (4), the publication thereby” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “publication thereby”;

(f)is-adran (7) wedi ei hepgor.

(2Mae adran 100 o Ddeddf 1972 (cyfarfodydd pwyllgorau) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol y mae’r adran honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021 fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) The Public Bodies (Admission to Meetings) Act 1960 (“the 1960 Act”) has effect in relation to meetings of committees of local authorities, subject to subsection (2).;

(b)is-adran (3) wedi ei hepgor.

21.—(1Mae Rhan 5A(22) o Ddeddf 1972 yn cael effaith fel y nodir yn y rheoliad hwn mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol y mae’r Rhan honno yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021.

(2Mae adran 100A i’w darllen fel pe bai—

(a)is-adran (1) wedi ei hepgor;

(b)ym mhob un o is-adrannau (2) a (4), “Where a meeting is open to the public,” wedi ei fewnosod ar y dechrau;

(c)yn is-adran (5), “the meeting is not to be open” wedi ei roi yn lle “this section does not require the meeting to be open”;

(d)yn is-adran (6)—

(i)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (a)—

(a)public notice of the time of the meeting and, if the meeting is to be open to the public, how to access the meeting, must be given by publishing it electronically at least three clear days before the meeting or, if the meeting is convened at shorter notice, then as soon as reasonably practicable;;

(ii)paragraff (c) wedi ei hepgor.

(3Mae adran 100B i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “published electronically” wedi ei roi yn lle “open to inspection by members of the public at the offices of the council”;

(b)yn is-adran (2), y canlynol wedi ei roi yn lle “items during which, in his opinion, the meeting is likely not to be open to the public”,

(a)if the meeting is to be open to the public, items during which, in the proper officer’s opinion, the meeting is likely not to be open to the public by virtue of section 100A(2) or (4), or

(b)if the meeting is not to be open to the public other than by virtue of section 100A(2) or (4), items during which, in the proper officer’s opinion, it is likely the meeting would not have been open to the public by virtue of section 100A(2) or (4), had section 100A(1) applied.;

(c)yn is-adran (3)—

(i)“published electronically” wedi ei roi yn lle “open to inspection”;

(ii)“so published” wedi ei roi yn lle “so open”;

(iii)ym mharagraff (a), “published electronically as soon as reasonably practicable” wedi ei roi yn lle “open to inspection from the time the meeting is convened”;

(iv)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b)—

(b)where an item is added to an agenda which has been published electronically, the item (or the revised agenda), and any report for the meeting relating to the item, must be published electronically when the item is added to the agenda;;

(v)“published electronically” wedi ei roi yn lle “open to inspection by the public”;

(d)yn is-adran (4)(a)—

(i)“published electronically in pursuance of subsection (1) above” wedi ei roi yn lle “open to inspection by members of the public in pursuance of subsection (1) above for”;

(ii)“as soon as reasonably practicable” wedi ei roi yn lle “from the time the meeting is convened”;

(e)yn is-adran (5)—

(i)“published electronically” wedi ei roi yn lle “open to inspection by the public”;

(ii)ym mharagraff (b), “, or would be likely, by virtue of section 100A(4)” wedi ei roi ar ôl “are likely”;

(f)is-adrannau (6) i (8) wedi eu hepgor.

(4Mae Rhan 5A i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 100C—

100C    Inspection of minutes and other documents after meetings

(1) Subsections (2) and (3) apply in relation to a meeting of a principal council held before the coming into force of the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020.

(2) Until the expiration of the period of six years beginning with the date of a meeting of a principal council to which this subsection applies, a copy of the following documents must, so far as reasonably practicable, be supplied on request to a member of the public—

(a)the minutes of the meeting, excluding so much of the minutes of proceedings during which the meeting was not open to the public as discloses exempt information,

(b)where applicable, a summary under subsection (2) of this section as it had effect immediately before the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 came into force,

(c)the agenda for the meeting, and

(d)so much of any report for the meeting as relates to any item during which the meeting was open to the public.

(3) A principal council may charge a reasonable fee for providing a document under subsection (2).

(4) Subsections (5) to (9) apply in relation to a meeting of a principal council held after the coming into force of the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020.

(5) As soon as reasonably practicable after a meeting of a principal council to which this subsection applies, and in any event before the end of the period of five working days beginning with the day on which the meeting is held, the council must publish electronically a note setting out—

(a)the names of the members who attended the meeting, and any apologies for absence;

(b)any declarations of interests;

(c)any decisions taken at the meeting, including the outcomes of any votes, but excluding anything relating to a decision taken when the meeting was not open to the public as discloses exempt information.

(6) The following documents are to be published electronically as soon as reasonably practicable after a meeting of a principal council to which this subsection applies—

(a)the minutes of the meeting, excluding so much of the minutes of proceedings during which the meeting was not open to the public as discloses exempt information;

(b)where applicable, a summary under subsection (9) below;

(c)the final agenda for the meeting (if not already published electronically under section 100B);

(d)so much of any report for the meeting as does not relate to an item during which the meeting was not open to the public (if not already published electronically under section 100B).

(7) Anything published electronically under this section or section 100B must remain accessible electronically by members of the public.

(8) In subsections (5)(c) and (6)(a) and (d), references to a period when, or during which, a meeting was not open to the public are, if the meeting was not open to the public other than by virtue of section 100A(2) or (4), references to a period when, or during which, in the proper officer’s opinion, it is likely the meeting would not have been open to the public by virtue of section 100A(2) or (4), had section 100A(1) applied.

(9) Where, in consequence of the exclusion of parts of the minutes which disclose exempt information, a document to be published under subsection (6)(a) does not provide members of the public with a reasonably fair and coherent record of the whole or part of the proceedings, the proper officer must make a written summary of the proceedings or the part, as the case may be, which provides such a record without disclosing the exempt information.

(5Mae Rhan 5A i’w darllen fel pe bai adran 100D wedi ei hepgor; ond rhaid i’r prif gyngor gadw’r papurau cefndir ar gyfer adroddiad ar gyfer cyfarfod (o fewn ystyr yr adran honno) am gyfnod o bedair blynedd o leiaf gan ddechrau ar ddyddiad y cyfarfod y maent yn ymwneud ag ef.

(6Yn adran 100E, mae is-adran (2) i’w darllen fel pe bai—

(a)“100C” wedi ei roi yn lle “100D”;

(b)ym mharagraff (a), “published electronically on the website of every constituent council” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “given by posting it” hyd at y diwedd;

(c)paragraffau (b) ac (c) wedi eu hepgor.

(7Mae adran 100F i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “so far as reasonably practicable be supplied on request to” wedi ei roi yn lle “be open to inspection by”;

(b)“supplied” wedi ei roi yn lle pob cyfeiriad arall at “open to inspection”.

(8Mae adran 100H i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “section 100G to be open to inspection is to be open to inspection at all reasonable hours and without payment” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “any provision of this Part” hyd at y diwedd;

(b)yn is-adran (2), “section 100G” wedi ei roi yn lle “any provision of this Part”;

(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3)—

(3A) Provisions in this Part which require the publication or supply of documents do not require or authorise the doing of any act which infringes the copyright in any work except that, where the owner of the copyright is a principal council, nothing done in pursuance of those provisions shall constitute an infringement of the copyright.;

(d)is-adran (4) wedi ei hepgor;

(e)yn is-adran (5), “is published electronically or supplied to a member of the public in accordance with this Part,” wedi ei roi yn lle paragraffau (a) a (b);

(f)yn is-adran (6), paragraffau (b), (c) ac (e) wedi eu hepgor;

(g)yn is-adran (7), “or otherwise access” wedi ei fewnosod ar ôl “inspect”.

(9Mae adran 100J(3) i’w darllen fel pe bai “, (cd), (d), (f)” wedi ei hepgor.

22.—(1Mae paragraff 41 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w darllen, mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (1), “or (2A)” wedi ei fewnosod ar ôl “sub-paragraph (2)”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—

(2A) Notwithstanding anything in any enactment or rule of law to the contrary, the minutes of the proceedings of a meeting of a local authority held after the Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020 come into force and before 1 May 2021 may be drawn up in a document, and that document must be authenticated by the person who presided at that meeting; and any minute purporting to be so authenticated must be received in evidence without further proof.;

(c)yn is-baragraff (3), “or authenticated” wedi ei fewnosod ar ôl “signed”.

(2Mae paragraff 44(2) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 i’w ddarllen, mewn perthynas ag unrhyw awdurdod lleol y mae’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad), fel pe bai “, or authenticated,” wedi ei fewnosod ar ôl “signed”.

23.—(1Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(23) (“y Rheoliadau”) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir, neu benderfyniad gweithrediaeth a wneir, cyn diwedd 30 Ebrill 2021 fel y nodir yn y rheoliad hwn.

(2Mae’r Rheoliadau i’w darllen fel pe bai rheoliad 3 wedi ei hepgor.

(3Mae rheoliad 4 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)ym mhob un o baragraffau (2) a (3), “Pan fo cyfarfod yn agored i’r cyhoedd,” wedi ei fewnosod ar y dechrau;

(c)ym mharagraff (6)—

(i)yn is-baragraff (a) “ac, os bwriedir i unrhyw ran o’r cyfarfod fod yn agored i’r cyhoedd, sut i gael mynediad at y cyfarfod” wedi ei roi yn lle “a’r man cyfarfod”;

(ii)yn is-baragraff (a)(i), “gyhoeddi ar wefan” wedi ei roi yn lle “bostio ym mhrif swyddfeydd”;

(iii)yn is-baragraff (a)(ii), “gyhoeddi ar wefan yr awdurdod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol” wedi ei roi yn lle “bostio ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod adeg cynnull y cyfarfod”;

(iv)yn is-baragraff (b), paragraff (ii) a’r “a” sy’n dod o’i flaen wedi eu hepgor.

(4Mae rheoliad 5 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), “gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod” wedi ei roi yn lle “fod yn agored i aelodau o’r cyhoedd eu harchwilio ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod”;

(b)ym mharagraff (2), “cyhoeddi” wedi ei roi yn lle “darparu”;

(c)ym mharagraff (2), y canlynol wedi ei roi yn lle “ag eitemau nad yw’r cyfarfod, ym marn y swyddog priodol, yn debyg o fod yn agored i’r cyhoedd tra byddant yn cael eu trafod",

(a)os yw’r cyfarfod i fod yn agored i’r cyhoedd, ag eitemau pryd nad yw’r cyfarfod, ym marn y swyddog priodol, yn debyg o fod yn agored i’r cyhoedd yn rhinwedd rheoliad 4(2) neu (3), neu

(b)os nad yw’r cyfarfod i fod yn agored i’r cyhoedd heblaw yn rhinwedd rheoliad 4(2) neu (3), ag eitemau pryd nad yw’n debygol, ym marn y swyddog priodol, y buasai’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn rhinwedd rheoliad 4(2) neu (3), pe buasai rheoliad 3 yn gymwys.;

(d)ym mharagraff (3)—

(i)“baragraff (1) iddi gael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod” wedi ei roi yn lle “baragraff (1) iddi fod yn agored i’w harchwilio”;

(ii)“gael ei chyhoeddi felly” wedi ei roi yn lle “fod yn agored felly”;

(iii)yn is-baragraff (a), “cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol” wedi ei roi yn lle “o’r amser y mae’r cyfarfod yn cael ei gynnull”;

(iv)y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (b)—

(b)pan fydd eitem yn cael ei hychwanegu at agenda a gyhoeddwyd ar wefan yr awdurdod, rhaid i’r eitem (neu’r agenda diwygiedig), ac unrhyw adroddiad i’r cyfarfod sy’n ymwneud â’r eitem, gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod pan ychwanegir yr eitem at yr agenda;;

(v)“gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod” wedi ei roi yn lle “fod yn agored i’r cyhoedd eu harchwilio”;

(e)ym mharagraff (4)(a)(24)

(i)“wedi ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod” wedi ei roi yn lle “yn agored i aelodau o’r cyhoedd ei archwilio”;

(ii)ym mharagraff (i), “am” wedi ei hepgor;

(iii)ym mharagraff (ii), “cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol” wedi ei roi yn lle “o’r amser y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull”;

(f)ym mharagraff (5)—

(i)“wedi ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod” wedi ei roi yn lle “yn agored i’r cyhoedd ei archwilio”;

(ii)“, neu y byddent yn debygol o’u gwahardd o’i herwydd yn rhinwedd rheoliad 4(3)” wedi ei fewnosod ar ôl “yn ymwneud â hi”;

(g)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

(5Mae’r Rheoliadau i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 8—

Archwilio dogfennau yn dilyn penderfyniadau gweithrediaeth

8.(1) Mae paragraffau (2), (3) a (6) yn gymwys mewn perthynas â chyfarfodydd a gynhaliwyd, a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed (boed mewn cyfarfod neu beidio), cyn i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 ddod i rym.

(2) Ar ôl cyfarfod corff penderfynu lle mae penderfyniad gweithrediaeth wedi ei wneud neu ar ôl i aelod unigol wneud penderfyniad gweithrediaeth, rhaid i’r swyddog priodol sicrhau y bydd copi—

(a)o unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig a baratowyd yn unol â rheoliad 6 neu 7; a

(b)o unrhyw adroddiad a ystyriwyd yn y cyfarfod neu, yn ôl fel y digwydd, a ystyriwyd gan yr aelod unigol, sef adroddiad sy’n berthnasol i benderfyniad sy’n cael ei gofnodi yn unol â rheoliad 6 neu 7 neu, pan nad oes ond rhan o’r adroddiad yn berthnasol i’r penderfyniad hwnnw, y rhan honno,

cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn cael ei ddarparu ar gais i aelod o’r cyhoedd.

(3) Caiff prif gyngor godi ffi resymol am ddarparu dogfen o dan baragraff (2).

(4) Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys mewn perthynas â chyfarfodydd a gynhaliwyd, a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed (boed mewn cyfarfod neu beidio), ar ôl i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 ddod i rym.

(5) Ar ôl cyfarfod corff penderfynu lle mae penderfyniad gweithrediaeth wedi ei wneud neu ar ôl i aelod unigol wneud penderfyniad gweithrediaeth, rhaid i’r swyddog priodol sicrhau y bydd copi—

(a)o unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig a baratowyd yn unol â rheoliad 6 neu 7; a

(b)o unrhyw adroddiad a ystyriwyd yn y cyfarfod neu, yn ôl fel y digwydd, a ystyriwyd gan yr aelod unigol, sef adroddiad sy’n berthnasol i benderfyniad sy’n cael ei gofnodi yn unol â rheoliad 6 neu 7 neu, pan nad oes ond rhan o’r adroddiad yn berthnasol i’r penderfyniad hwnnw, y rhan honno,

yn cael ei gyhoeddi, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ar wefan yr awdurdod lleol perthnasol.

(6) Rhaid peidio â chymryd bod unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi swyddog priodol i ddatgelu gwybodaeth esempt neu gyfrinachol neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo ei datgelu.

(6Mae’r Rheoliadau i’w darllen fel pe bai rheoliad 9 wedi ei hepgor.

(7Mae rheoliad 10 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)“i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gael ei darparu ar gais i unrhyw aelod o’r awdurdod lleol” wedi ei roi yn lle “fod yn agored i unrhyw aelod o’r awdurdod lleol ei harchwilio”;

(ii)“pan ddaw’r cyfarfod i ben” wedi ei hepgor;

(iii)“cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol” wedi ei roi yn lle “yn union”;

(b)“yn cael ei darparu” wedi ei roi yn lle “ar gael i’w harchwilio”, ym mhob lle y mae’n digwydd.

(8Mae rheoliad 13 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraffau (1) a (2) wedi eu hepgor;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)“Nid yw darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau gael eu cyhoeddi neu eu darparu” wedi ei roi yn lle “Nid yw paragraff (2)”;

(ii)“â’r darpariaethau hynny” wedi ei roi yn lle “â’r paragraff hwnnw”;

(c)ym mharagraff (4), “Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfen gael ei chyhoeddi ar wefan awdurdod neu ei darparu i aelodau o’r cyhoedd,” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Pan fydd unrhyw ddogfen” hyd at ddiwedd is-baragraff (b);

(d)ym mharagraff (5)—

(i)“yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ddarparu i aelod o’r cyhoedd ar gais” wedi ei roi yn lle “yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod ar gael i aelodau o’r cyhoedd ei archwilio”;

(ii)“rhaid ei ddarparu ar gais” wedi ei roi yn lle “rhaid trefnu iddo fod ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd”;

(e)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (5)—

(5A) Rhaid i unrhyw beth a gyhoeddir yn electronig o dan reoliad 8 gael ei gadw gan yr awdurdod lleol a rhaid iddo barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd.;

(f)ym mharagraff (6)—

(i)“y byddai rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod ar gael i aelodau o’r cyhoedd eu harchwilio, oni bai am reoliad 23(6) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, gael eu cadw gan yr awdurdod lleol” wedi ei roi yn lle “y mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod ar gael i aelodau o’r cyhoedd eu harchwilio gael eu cadw gan yr awdurdod lleol”;

(ii)“a bod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd” wedi ei hepgor.

(9Mae’r Rheoliadau i’w darllen fel pe bai rheoliad 14 wedi ei hepgor.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 10:00 a.m. ar 21 Ebrill 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol, cyhoeddi dogfennau penodol awdurdodau lleol a mynediad at y dogfennau hynny.

Mae Rhan 1 yn nodi materion rhagarweiniol ac yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, gan gynnwys diffinio “awdurdod lleol” at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhyngweithiad y Rheoliadau hyn â rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth ac unrhyw reolau eraill sydd gan awdurdod lleol. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’n rhaid i awdurdod sydd â’i wefan ei hun gydymffurfio â gofynion yn y Rheoliadau hyn i gyhoeddi hysbysiadau neu ddogfennau yn electronig.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth i alluogi cyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhelir cyn 1 Mai 2021 i gael eu cynnal drwy gael eu mynychu o bell.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol. Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bryd y caniateir cynnal cyfarfodydd blynyddol prif gynghorau, cynghorau cymuned ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn 2020. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n sicrhau na chyfyngir ar awdurdod lleol wrth benderfynu pa bryd y caniateir i gyfarfodydd (ac eithrio’r cyfarfodydd blynyddol y mae rheoliadau 6 i 8 yn ymdrin â hwy) gael eu cynnal cyn 1 Mai 2021. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch methiant i fynychu cyfarfodydd. Mae rheoliadau 11 i 13 yn gwneud darpariaeth ynghylch ethol cadeiryddion, is-gadeiryddion a dirprwy gadeiryddion (yn ôl y digwydd) yng nghyfarfodydd blynyddol prif gynghorau, cynghorau cymuned, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2020. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phenodiadau eraill a wneir yng nghyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhelir cyn 1 Mai 2021. Mae rheoliad 15 yn galluogi rheolau sefydlog awdurdod cynllunio lleol i ddarparu ar gyfer dirprwyo aelodau o bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dull pleidleisio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned. Mae rheoliadau 17 a 18 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau cyfarfodydd prif gynghorau, cynghorau cymuned ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol a gynhelir cyn 1 Mai 2021, a gwysion i’r aelodau i fynychu’r cyfarfodydd hynny.

Mae Rhan 4 yn gwneud addasiadau i’r gofynion ynglŷn â mynediad y cyhoedd mewn perthynas â chyfarfodydd penodol awdurdod lleol, penderfyniadau gweithrediaeth prif gynghorau, a hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd neu’r penderfyniadau hynny. Mae rheoliad 20 yn addasu darpariaethau yn Neddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67) ac mae rheoliad 21 yn addasu darpariaethau yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud â mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd ac at hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd. Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth ynghylch paratoi cofnodion cyfarfod o dan Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae rheoliad 23 yn addasu darpariaethau yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290) (Cy. 178) mewn perthynas â mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd gweithrediaethau prif gynghorau ac at hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd a’r penderfyniadau gweithrediaeth hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

1989 p. 42. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 20 a 190 o Ddeddf 1989, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Rhoddodd paragraff 28 o Atodlen 3 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales” yn adran 22.

(9)

2011 mccc 4. Diwygiwyd adran 4 gan adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).

(10)

Diwygiwyd paragraff 1(2)(b) gan adran 1(6) o Ddeddf Etholiadau 2001 (p. 7).

(11)

Diwygiwyd paragraff 23(2) gan erthygl 4 o Orchymyn Deddf Etholiadau 2001 (Darpariaethau Atodol) 2001 (O.S. 2001/1630).

(12)

O.S. 1995/2803. Ceir diwygiadau i Atodlen 3 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(13)

Mewnosodwyd is-adrannau (3B), (3C) a (3D) gan adran 31 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4).

(17)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan reoliad 2(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/460 (Cy. 98)).

(18)

Diwygiwyd paragraff 26(2) gan adran 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).

(19)

Diwygiwyd paragraff 6(2)(b) gan baragraff 52 o Atodlen 4 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)).

(21)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 (p. 43) ac Atodlen 2 iddi.

(22)

Mewnosodwyd Rhan 5A gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 (p. 43).

(24)

Amnewidwyd paragraff (4) gan reoliad 2(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/1385 (Cy. 135)).