xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 353 (Cy. 80)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 2.45 p.m. ar 26 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mawrth 2020

Yn dod i rym

am 4.00 p.m. ar 26 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 4.00p.m. ar 26 Mawrth 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—

(i)bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2),

(ii)bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(3);

(b)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(c)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(d)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

[F1(da)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;]

(e)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol, gan gynnwys y cyflyrau a restrir yn Atodlen 2, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog.

[F2(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

DirymuLL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020(4) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(5) wedi eu dirymu.

(2Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd oddi tanynt cyn y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfnod yr argyfwng ac adolygu’r angen am gyfyngiadauLL+C

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “cyfnod yr argyfwng”—

(a)yn dechrau pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, a

(b)yn gorffen mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar y diwrnod ac ar yr adeg a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad (gweler paragraffau (3) a (4)).

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn [F316] Ebrill 2020.

(3Cyn gynted ag y bo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

[F4(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —

(a)busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;

(b)disgrifiad penodedig o bersonau;

(c)rhan benodedig o Gymru.

(4A) Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—

(a)ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

(b)ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu

(c)ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—

(i)ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu

(ii)ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.]

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

4.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cau unrhyw fangre, neu ran o’r fangre, lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno;

(b)peidio â gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre (ond os yw’r busnes yn gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, caiff barhau i wneud hynny yn ddarostyngedig i reoliad 6(1).

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw bwyd neu ddiod a werthir gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu neu ei gwerthu i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre.

(3At ddibenion paragraff (1), mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng, beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

(5Ond nid yw paragraff (4) yn atal y defnydd—

(a)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraffau 5, 6, 7, 8, 9, 10 neu 18 o Ran 2 [F5o Atodlen 1] i ddarlledu (heb gynulleidfa) berfformiad (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

[F6(b)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;]

(c)o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa, oriel neu lyfrgell, neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau archifau, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys F7... drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

[F8(5A) Mae paragraff (5B) yn gymwys—

(a)i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), (b) neu (c) o baragraff 2 o Atodlen 1, neu

(b)pan fo mangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio at ddiben a grybwyllir ym mharagraff (5).

(5B) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes neu ddarparu’r gwasanaeth, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(6Os yw busnes a restrir yn Atodlen 1 (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) neu (4) os yw’n cau busnes A i lawr.

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.LL+C

5.—(1I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.

(2Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(6) yn gymwys iddo.

[F9(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(a)na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(b)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.

(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

F10(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.]

[F11(3B) Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

(a)i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

(b)i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

(3C) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(4Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(5At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(7) yn gymwys iddo.

Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol eraill yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

6.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu am ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw personau ond yn cael mynediad i fangre’r busnes mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i fangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(2Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, nad yw wedi ei restru yn Rhan 4 o Atodlen 1, sy’n cynnig nwyddau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)peidio â chynnal y busnes hwnnw ac eithrio drwy wneud danfoniadau neu drwy ddarparu gwasanaethau fel arall mewn ymateb i archebion neu ymholiadau a geir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys archebion [F12neu ymholiadau] drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(b)cau unrhyw fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a);

(c)peidio â rhoi mynediad i unrhyw berson i’r fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a).

[F13(2A) Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(3Os yw busnes y mae paragraff (2) yn gymwys iddo (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2) os yw’n peidio â chynnal busnes A.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

[F14Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaithLL+C

6A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).

[F15(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—

(a)a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, neu

(b)y mae rheoliad 6(2A) yn gymwys iddi.]]

Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd [F16, mynwentydd] a chanolfannau cymunedol,LL+C

7.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fan addoli sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y man addoli ar gau, ac eithrio at ddefnydd a ganiateir gan baragraff (2).

(2Os [F17cymerir] pob [F18mesur] rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y man addoli [F19(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] , caniateir defnyddio’r man—

(a)ar gyfer angladdau,

(b)i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli neu angladd (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu), neu

(c)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bobl hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng).

(3Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer at y defnydd a ganiateir gan baragraff (4).

(4Os [F17cymerir] pob [F18mesur] rhesymol F20... i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn yr amlosgfa [F21(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] , caiff yr amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd am angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).

[F22(4ZA) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.]

[F23(4A) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob [F18mesur] rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn claddedigaeth sy’n digwydd yn y fynwent yn ystod cyfnod yr argyfwng (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).]

(5Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio—

(a)pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bersonau hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng), a

(b)os [F17cymerir] pob [F18mesur] rhesymol F24... i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y fangre [F25(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] tra darperir y gwasanaethau hynny.

[F26(6) At ddiben y rheoliad hwn—

(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;

(b)mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd sy’n cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

[F27Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personauLL+C

7A.(1) Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad yn—

(a)rheoliad 4(1) fel y mae’n gymwys i ffreuturau yn y gweithle,

[F28(aa)rheoliad 4(5B),

(ab)rheoliad 5(3C),]

(b)rheoliad 6(1) [F29neu (2A)] ,

(c)rheoliad 6A(1), neu

(d)rheoliad 7(1), (3), (4A) neu (5),

roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y [F30mesurau] rhesymol sydd i’w cymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau.

(2) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).]

Cyfyngiadau ar symud a chynulliadau yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

8.—(1Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw [F31neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw] heb esgus rhesymol.

(2At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen—

[F32(a)i gael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(aa)i gael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 38 neu 39 o Atodlen 1 neu i adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;]

[F33(b)i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol), naill ai—

(i)ar ei ben ei hun,

(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu

(iii)gyda gofalwr y person;]

(c)i geisio cymorth meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu i gael mynediad at wasanaethau milfeddygol;

(d)i ddarparu gofal neu gymorth, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8), i berson hyglwyf, neu i ddarparu [F34cynhorthwy] brys [F35“i unrhyw berson];

(e)i roi gwaed;

(f)i deithio at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw weithio, neu ddarparu’r gwasanaethau hynny, o’r man lle y mae’n byw;

(g)i fynd i angladd—

[F36(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.]

[F37(ga)i ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;]

(h)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(i)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys—

(i)gofal plant neu gyfleusterau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i [F38blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto]);

(ii)gwasanaethau cymdeithasol;

(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);

(j)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, i barhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(k)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, i fynd i’w fan addoli;

(l)i symud tŷ pan [F39na fo modd gohirio’r symud];

(m)i osgoi anaf neu salwch neu i ddianc rhag risg o [F40niwed] .

(3At ddibenion paragraff (1), mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.

(5Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn man cyhoeddus o fwy na dau berson ac eithrio—

(a)pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd,

(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,

(c)i fynd i angladd, neu

(d)pan fo’n angenrheidiol—

(i)i hwyluso symud tŷ,

(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,

(iii)i ddarparu cynhorthwy brys [F41i unrhyw berson], neu

(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.

Diwygiadau Testunol

F36Rhl. 8(2)(g)(i)-(iii) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(g)(i)-(iv) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 6

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Gofyniad i gau llwybrau cyhoeddus a thir penodol a pheidio â mynd iddynt yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

9.—(1Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)ei gadw ar gau tan y cynharaf o’r canlynol—

(i)diwedd cyfnod yr argyfwng, neu

(ii)yr adeg pan yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —

(a)eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu

(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder a lledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(3Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad)(Cymru) 2020(9), mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw un ddefnyddio llwybr troed neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;

(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(i)awdurdod lleol,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac

(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr â “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(10);

(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “bridleway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(11);

(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(12);

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

10.—(1Caiff person perthnasol roi hysbysiad gwahardd i berson F42...—

(a)[F43os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau] bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 4, [F445(3C),] 6 [F45, 6A] neu 7, a

(b)[F46os yw’r person perthnasol yn ystyried] ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur rhoi’r hysbysiad gwahardd at ddiben atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

(2Pan fo [F47gan berson perthnasol sail resymol dros amau] bod person (“P”) yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1), caiff y person perthnasol—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(b)mynd â P i’r man hwnnw.

[F48(3) Caiff person perthnasol—

(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(a) neu (b), gyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(b).]

(4Pan fo P yn blentyn yng nghwmni unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn—

(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.

(5At [F49ddibenion y rheoliad hwn] , mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989).

(6Ni chaiff person ond arfer y pŵer ym mharagraff (2) neu (4) os yw’r person perthnasol yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad.

(7Pan fo [F50gan berson perthnasol sail resymol dros amau] bod tri neu ragor o bobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 8(5), caiff y person perthnasol—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

[F51(8) Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—

(a)i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu

(b)i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,

ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(8A) Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 8(5) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.

(8B) Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.]

(9[F52Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol] symud unigolyn o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 9(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 9(1), a chaiff defnyddio grym rhesymol [F53, os yw’n angenrheidiol,] i wneud hynny.

(10Caiff person perthnasol gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir ar y person gan y rheoliad hwn neu reoliad 11.

(11At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)awdurdod lleol

(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,

at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13 (ond gweler paragraffau (12) ac (13)).

(12Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) gofyniad yn rheoliad 4, [F545(3C),] 6, [F556A,] 7 neu 9(4) yn unig.

(13Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4) (neu doriad honedig ohono).

(14Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 11 a 12, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Pŵer mynd i mewnLL+C

11.—(1Caiff person perthnasol fynd i fangre—

(a)os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff person perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol;

(b)cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn briodol.

(3Rhaid i berson perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r person perthnasol ac amlinellu y diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y person perthnasol iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Troseddau a chosbauLL+C

12.—(1Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 4, [F565(3C),] 6, [F576A,] 7, 8(5) neu 9(4), neu

(b)yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1),

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri cyfarwyddyd, neu’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiad neu hysbysiad gwahardd, a roddir gan berson perthnasol o dan reoliad 10 yn cyflawni trosedd.

(4Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(5Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(14) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)i gynnal iechyd y cyhoedd;

(b)i gynnal trefn gyhoeddus.

(6Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(8Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(9Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei dwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(10Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(15) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(16) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.

(11Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.

(12Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

13.—(1Caiff person perthnasol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i [F58] .

[F59(2A) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).]

(3[F60Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo] fod yr awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yn yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.

(4Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff 5(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)).

(7Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(8Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn, swm y gosb benodedig yw [F61ac nid yw paragraff (7) yn gymwys] .

(9Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(10Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (9), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(11Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol [F62

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a]

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(12Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

ErlynLL+C

14.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Dod i benLL+C

15.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.45 p.m. ar 26 Mawrth 2020

Rheoliadau 4 a 6

ATODLEN 1LL+CBusnesau sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau [F63penodol] neu gau

Diwygiadau Testunol

RHAN 1LL+C

1.  Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn gwestai neu glybiau aelodau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

2.—(1Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), ond heb gynnwys—LL+C

(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

(2Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

(b)[F64pan gymerir pob mesur] rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

3.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn gwestai neu glybiau aelodau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

4.  Tafarndai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+C

5.  Sinemâu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

6.  Theatrau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

7.  Clybiau nos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

8.  Neuaddau bingo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

9.  Neuaddau cyngerdd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

10.  Amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

11.  Casinos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

12.  Siopau betio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

13.  Salonau ewinedd, harddwch, gwallt a barbwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

14.  Parlyrau tylino.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

15.  Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

16.  Canolfannau sglefrio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

17.  Pyllau nofio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

18.  Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

19.  Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

20.  Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

21.  Meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

22.  Marchnadoedd awyr agored (ac eithrio [F65marchnadoedd da byw a] stondinau sy’n gwerthu bwyd).LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

23.  Ystafelloedd arddangos ceir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

24.  Tai arwerthiant [F66(ac eithrio arwerthiannau da byw)].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+C

25.  Safleoedd gwyliau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

26.  Safleoedd gwersylla.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

27.  Gwestai a llety gwely a brecwastLL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

28.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

RHAN 4LL+C

29.  Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed [F67oddi ar] y fangre (gan gynnwys sefydliadau a restrir yn Rhan 1 sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1), wedi peidio â gwerthu bwyd a diod i’w fwyta a’i hyfed yn y fangre).LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

30.  Siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol (yn cynnwys bragdai).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

31.  Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

32.  Siopau papurau newydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

33.  Siopau nwyddau i’r cartref, cyflenwadau adeiladu ac offer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

34.  Gorsafoedd petrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

35.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

36.  Siopau beiciau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

37.  Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

38.  Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr [F68, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

39.  Swyddfeydd post.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

40.  Trefnwyr angladdau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

41.  Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

42.  Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

43.  Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

[F6944.  Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

44A.  Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.]LL+C

45.  Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

46.  Meysydd parcio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

47.  Toiledau cyhoeddus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 1

ATODLEN 2LL+CCyflyrau Iechyd Isorweddol

1.  Clefydau anadlu cronig (hirdymor), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, emffysema neu froncitis.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

2.  Clefyd cronig y galon, megis methiant y galon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

3.  Clefyd cronig yr arennau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

4.  Clefyd cronig yr afu/iau, megis hepatitis.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

5.  Cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

6.  Diabetes.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

7.  Problemau â’r ddueg, megis clefyd y crymangelloedd neu os yw’r ddueg wedi ei thynnu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

8.  System imiwnedd wan, gan gynnwys o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledau steroidau neu gemotherapi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

9.  Bod dros bwysau yn ddifrifol, gyda mynegai màs y corff o 40 neu uwch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i achosion o heintio neu ledaenu heintiau neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a achosir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau’n disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020, a ddirymir gan reoliad 2, ac maent yn gwneud darpariaeth bellach.

Mae’r Rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill. Yn unol â rheoliad 3, mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys ar gyfer “cyfnod yr argyfwng”. Mae’r cyfnod hwn yn parhau hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn pennu bod y cyfyngiadau, neu unrhyw un cyfyngiad (neu ran o gyfyngiad), yn cael ei derfynu. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru barhau i adolygu’r angen am y cyfyngiadau bob 21 diwrnod.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol cau mangre, a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau, lle y gwerthir bwyd a diod yn y fangre. Caniateir parhau i werthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (ond rhaid gwneud hyn yn unol â rheoliad 6 (1)). Mae rheoliad 4 hefyd yn gwahardd, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol, cynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth sydd wedi ei restru yn Rhan 2 neu Ran 3 o Atodlen 1. Mae un eithriad yn caniatáu i rai mangreoedd busnes fod yn agored, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus brys.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau (gan gynnwys gwestai a thai byrddio). Mae’r rheoliad hwn yn darparu bod y gofyniad (yn rheoliad 4) i gau safleoedd gwyliau (safleoedd cartrefi symudol at ddefnydd gwyliau yn unig neu na ellir eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn) a safleoedd gwersylla, yn cynnwys rhwymedigaeth ar berchnogion y safleoedd hyn i wneud eu gorau glas i sicrhau fod pobl yn gadael yr eiddo. Mae rheoliad 5 hefyd yn nodi eithriadau i’r gofyniad (yn rheoliad 4) i gau gwestai a mathau tebyg o lety.

Mae rheoliad 6 yn gymwys i rai busnesau a gwasanaethau penodol a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 y caniateir iddynt barhau ond y mae’n rhaid iddynt wneud hynny yn ddarostyngedig i’r amodau a bennir.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch addoldai, amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol y mae’n rhaid iddynt gau yn ddarostyngedig i rai eithriadau penodol. Mae’r eithriadau yn cynnwys darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol i bobl ddigartref neu bobl sy’n agored i niwed ac, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus brys.

Mae rheoliad 8 yn gosod cyfyngiadau ar symud a chynulliadau. Mae hyn yn darparu na chaiff neb adael y man lle y mae’n byw ynddo heb esgus rhesymol (mae enghreifftiau o’r rhain wedi eu rhestru). Mae hefyd yn darparu na chaiff neb gymryd rhan mewn cynulliad o fwy na dau berson mewn man cyhoeddus ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 9 yn gosod gofyniad ar awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r darpariaethau hyn ond mae rhaid i’r cyrff y gosodir dyletswydd arnynt i gau llwybrau troed a thir gadw’r angen i gau o dan ystyriaeth.

Mae rheoliad 10 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a osodir gan y Rheoliadau, sy’n cynnwys pŵer mynediad y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 11. Mae rheoliad 12 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i’r gofynion (rhestredig) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Gellir cosbi’r drosedd honno drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 13 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiad cosb benodedig ac mae rheoliad 14 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 26 Medi 2020, ond nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd camau a gymerir o dan y Rheoliadau cyn iddynt ddod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i baratoi ynglŷn â chost a budd tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(6)

2013 dccc 6 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(7)

2013 dccc 6 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

(8)

2006 p. 47. Rhoddwyd is-baragraff (3B), ar y cyd ag is-baragraffau (1), (3) a (3A) i (3E), yn lle is-baragraffau (1) i (3) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(10)

1980 p. 66. Diwygiwyd adran 329 gan adran 1 o Ddeddf Llwybrau Beicio 1984 (p. 38) a pharagraff 21 o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p. 54).

(13)

2000 p. 37. Diwygiwyd adran 1(1) gan adran 302(2)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)

(14)

1984 p. 60. Amnewidwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15)