Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019

Arolygu anifeiliaid

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu cadw’n gaeth yn y fan lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; neu

(b)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu symud i fan arall, a’u cadw’n gaeth yno,

er mwyn i arolygiad gael ei gynnal.

(2Rhaid i arolygiad o dan baragraff (1) gael ei gynnal er mwyn darganfod—

(a)a oes unrhyw anifail yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod neu weddillion unrhyw sylwedd arall y mae gan y swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail yn cynnwys sylwedd diawdurdod neu sylwedd Tabl 1 yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf; neu

(b)a yw unrhyw gyfnod cadw’n ôl wedi dod i ben.

(3Pan nad yw ond yn ofynnol cadw’n gaeth anifail neu lwyth o anifeiliaid, rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid.

(4Pan fo’n ofynnol symud anifail neu lwyth o anifeiliaid a’u cadw’n gaeth mewn man arall rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid oni bai mai person arall yw perchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, pryd y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodedig gyflwyno’r hysbysiad i ba un bynnag ohonynt y mae’r swyddog yn ystyried sy’n briodol.