Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) (Cymru) 2019

Eithriad i’r gwaharddiad ar gigydda

12.—(1Er gwaethaf y gwaharddiad ar gigydda anifail neu lwyth o anifeiliaid drwy hysbysiad a roddir yn unol â rheoliad 22(4), caniateir cigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid cyn i’r hysbysiad hwnnw gael ei dynnu’n ôl os bydd perchennog yr anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cydymffurfio â’r paragraffau a ganlyn yn y rheoliad hwn.

(2Rhaid rhoi hysbysiad ynglŷn â dyddiad a lle arfaethedig y cigydda i swyddog awdurdodedig cyn y dyddiad hwnnw.

(3Rhaid i’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, a farciwyd gan swyddog awdurdodedig, neu y parwyd iddynt gael eu marcio gan swyddog awdurdodedig, o dan reoliad 21(2)(c), fynd i’r lle cigydda gyda thystysgrif a ddyroddwyd gan swyddog awdurdodedig yn nodi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid a’r fferm wreiddiol.

(4Ar ôl cigydda, rhaid i unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o anifail o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid gael ei gadw mewn unrhyw le a modd a bennir gan swyddog awdurdodedig, wrth iddo fynd drwy unrhyw archwiliad y mae’n rhesymol i swyddog awdurdodedig ystyried ei fod yn angenrheidiol.

(5Pan fo’r archwiliad (y mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig roi ei ganlyniad i’r perchennog drwy hysbysiad ysgrifenedig) yn cadarnhau bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol, rhaid gwaredu’r cynnyrch anifeiliaid at ddiben heblaw ei fwyta gan bobl.