xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
6 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 178(4) i (6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person a chanddo hawlogaeth i gyflwyno sylwadau o dan adran 176 o’r Ddeddf(2).
2.—(1) Wrth wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy i blentyn neu berson ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson—
(a)sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(b)sy’n gyfrifol am reoli person sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(c)sy’n rheoli’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(d)y mae ganddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;
(e)sy’n ymwneud ag ystyried y sylwadau neu a all ymwneud â hynny ar ran yr awdurdod lleol.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson os yw’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu cael cynhorthwy oddi wrth y person hwnnw.
3. Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc yn bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod—
(a)darparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli(3) i’r plentyn neu’r person ifanc, a
(b)cynnig helpu’r plentyn neu’r person ifanc i gael eiriolwr.
4. Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r camau y mae wedi eu cymryd i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, yn benodol drwy gadw cofnod o bob achlysur pan fo eiriolwr yn darparu cynhorthwy o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
O dan adran 178(4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau i helpu plant a phobl ifanc sydd am gyflwyno sylwadau. Mae hyn yn gymwys i sylwadau gan blant a phobl ifanc ynghylch ystod o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau o bersonau na chânt, o dan drefniadau’r awdurdod lleol, ddarparu cynhorthwy i’r plentyn neu’r person ifanc.
Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc am gyflwyno sylwadau, mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli a rhoi cymorth i gael cynhorthwy eiriolwr.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fonitro ei gydymffurfedd â’r gofynion hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Nodir y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno sylwadau o dan adran 176 yn is-adran (2) o’r adran. Maent yn bersonau categori 2, 3, 4, 5 a 6 sy’n ymadael â gofal a phersonau o dan 25 oed a fyddai, pe baent o dan 21 oed, yn (i) personau ifanc categori 5, neu’n (ii) personau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).
Diffinnir “gwasanaethau eirioli” yn adran 181(2) o’r Ddeddf yn “wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.