xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 7

ATODLEN 4Semen moch: Ffioedd

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1964 a Rheoliadau 1992

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod)16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126

Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial

Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen31 am bob baedd

Profi baedd yn rheolaidd

Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial23 am bob baedd

Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial

Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial27
Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth)25
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial17