xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYSYNIADAU ALLWEDDOL

PENNOD 2CYMHWYSTRA

ADRAN 5Trosglwyddo a throsi

Trosglwyddo statws

28.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig (yn yr Adran hon, yr “hen gwrs”) i gwrs dynodedig arall (yn yr Adran hon, y “cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—

(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler paragraff (2)), ac

(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

Y sail gyntaf

Mae’r myfyriwr cymwys yn peidio ag ymgymryd â’r hen gwrs ac yn ymgymryd â’r cwrs newydd yn yr un sefydliad.

Gan gynnwys—

(a)pan na fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs fel cwrs gradd cywasgedig, neu

(b)pan fo’r hen gwrs yn gwrs gradd cywasgedig, os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â’r un cwrs ar y sail nad yw’n gywasgedig.

Yr ail sail

Mae’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs newydd mewn sefydliad arall.

Y drydedd sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Y bedwaredd sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, mae’r myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg.

Y bumed sail

Ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), mae’r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.

Effaith trosglwyddiad – benthyciadau at ffioedd dysgu

29.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd, mae swm y benthyciad at ffioedd dysgu sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo, yn unol â Rhan 6, symiau’r benthyciad at ffioedd dysgu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)yr hen gwrs, a

(b)y cwrs newydd,

ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

Cam 2

Gostwng y symiau hyn yn ôl y gyfran honno y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol ar ôl rhoi sylw i—

(a)y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr angen i sicrhau nad yw unrhyw swm yn daladwy mewn cysylltiad â’r ddau gwrs ar gyfer yr un cyfnod.

Effaith trosglwyddiad –benthyciadau cynhaliaeth a grantiau

30.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr cymwys o dan reoliad 28 yn ystod blwyddyn academaidd.

(2Os yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad, rhaid i gyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gael ei ailasesu yn unol â’r rheoliad hwnnw.

(3Os nad yw rheoliad 31 yn gymwys i’r trosglwyddiad—

(a)caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd, ond

(b)os na wneir unrhyw ailasesiad, cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru wedi ei asesu fel y swm sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo’r trosglwyddiad yn digwydd ar ôl i Weinidogion Cymru asesu swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd mewn cysylltiad â’r hen gwrs ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y myfyriwr cymwys wneud cais mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs newydd am grant neu fenthyciad arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yr hen gwrs (oni bai bod y Rheoliadau hyn yn rhoi caniatâd penodol i wneud hynny).

(6Pan, yn union cyn y trosglwyddiad—

(a)oedd y myfyriwr cymwys yn gymwys i wneud cais am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn academaidd yr hen gwrs, a

(b)nad oedd y myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am yr uchafswm yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael,

nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad (pa un a yw ailasesiad yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 31 ai peidio).

(7Pan fo myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am grant myfyriwr anabl ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi, nid yw paragraff (5) yn rhwystro’r myfyriwr rhag gwneud cais pellach o’r fath—

(a)at ddiben nad yw’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano, neu

(b)am swm ychwanegol mewn cysylltiad â diben y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano.

Trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosi rhwng astudio rhan-amser ac astudio llawnamser

31.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan, mewn perthynas â throsglwyddiad o dan reoliad 28—

(a)bo’r hen gwrs yn gwrs llawnamser a bod y cwrs newydd yn gwrs rhan-amser, neu

(b)bo’r hen gwrs yn gwrs rhan-amser a bod y cwrs newydd yn gwrs llawnamser.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae cyfanswm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd i’w ailasesu gan Weinidogion Cymru fel a ganlyn—

Cam 1

Cyfrifo, yn unol â Rhannau 7 i 11, symiau unrhyw fenthyciad cynhaliaeth a grantiau a fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)yr hen gwrs, a

(b)y cwrs newydd,

ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

Cam 2

Gostwng y symiau hynny drwy eu lluosi â’r ffracsiwn priodol.

Cyfanswm y ddau swm a geir o dan Gam 2 yw cyfanswm y benthyciad cynhaliaeth a’r grantiau sy’n daladwy i’r myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd y mae’r trosglwyddiad yn digwydd ynddi.

(3Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r hen gwrs yw’r ffracsiwn pan—

(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd hyd at a chan gynnwys y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.

(4Yng Ngham 2 o baragraff (2), y ffracsiwn priodol mewn perthynas â’r cwrs newydd yw’r ffracsiwn pan—

(a)y rhifiadur yw nifer y diwrnodau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd ar ôl y diwrnod y mae’r trosglwyddiad yn digwydd arno, a

(b)yr enwadur yw cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd.

(5Er mwyn osgoi amheuaeth, pan fo dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd ar ôl dyddiad cychwyn y flwyddyn academaidd ar gyfer yr hen gwrs, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) at y flwyddyn academaidd yn gyfeiriadau at y flwyddyn academaidd ar gyfer y cwrs newydd.