NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol cyntaf ar gyfer treth trafodiadau tir, a gyflwynir gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”).
Mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau trethadwy y mae’r dyddiad y mae’r trafodiadau hynny’n cael effaith ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Mae bandiau treth a chyfraddau treth canrannol ar wahân yn gymwys i:
Trafodiadau eiddo preswyl (Tabl 1);
Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch (Tabl 2);
Trafodiadau eiddo amhreswyl (Tabl 3); a
Cydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent (ac sydd felly ond yn berthnasol yn achos lesoedd) (Tabl 4).
Mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol ag adrannau 27 a 28 o’r Ddeddf TTT ac eithrio pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar ffurf rhent. Yn yr achosion hynny, mae’r dreth i’w chyfrifo yn unol â Rhan 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.
Yn rhinwedd adran 24(8) o’r Ddeddf TTT, mae trafodiadau sy’n cynnwys cymysgedd o eiddo preswyl ac eiddo amhreswyl i’w trin fel trafodiadau eiddo amhreswyl (ac mae’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol yn Nhabl 3 yn gymwys).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.