xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 41

ATODLEN 7LL+CSwyddogaethau o dan adran 141 o Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 8 i 13, 18 nac 21 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

3.  Yn yr Atodlen hon, ac wrth gymhwyso rheoliadau eraill gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at—LL+C

(a)“y ceisydd” (“the applicant”) yn gyfeiriadau at—

(i)y ceisydd am ganiatâd cynllunio a benderfynwyd eisoes;

(ii)yr awdurdod cynllunio mwynau yn achos gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990;

(iii)y corff cychwyn mewn cysylltiad â gorchymyn adran 97 neu 102; neu

(iv)person y caniateir iddo wneud cais am ganiatâd cynllunio pe bai Gweinidogion Cymru yn arfer eu swyddogaethau o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990;

(b)“y cais” (“the application”) yn gyfeiriadau at—

(i)y cynnig i roi caniatâd cynllunio neu addasu caniatâd cynllunio;

(ii)y cynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(iii)y cais am ganiatâd cynllunio a fyddai’n ofynnol ar gyfer y datblygiad dan sylw yn dilyn unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

4.—(1Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru, wrth ystyried hysbysiad prynu—LL+C

(a)bod y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2, neu y byddai’n gais o’r fath; a

(b)mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw—

(i)ni fu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)bu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio neu cyn y’i haddaswyd i’r effaith nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)nad yw’r cais perthnasol yn dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r gofyniad am gadarnhau’r hysbysiad prynu yn ofyniad gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol, ac i’r graddau y mae’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau pan na wnaed unrhyw farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau eraill, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

5.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt—LL+C

(a)hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol (os nad yr awdurdod hwnnw yw’r ceisydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

6.—(1Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais perthnasol—LL+C

(a)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i roi caniatâd cynllunio;

(ii)i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;

(iii)i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; ac

(b)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn;

(ii)i ddiwygio’r fath orchymyn.

(2Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â darpariaethau erthygl 12(7A)(1) o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) fel pe bai’r datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno mewn perthynas â chais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 ac fel pe bai, yn erthygl 12(7A) o Orchymyn 2012, y cyfeiriadau at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at fwriad i weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio gan y cais, neu’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac yn annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy ddull cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon, o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad, gadarnhau yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru y darperir datganiad amgylcheddol.

(5Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (4), ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

7.  Pan—LL+C

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff 6(3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y mater ond drwy gadarnhau’r hysbysiad prynu neu wrthod cadarnhau’r hysbysiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

8.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger eu bron—LL+C

(a)yn ddigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad sy’n destun y gweithredu arfaethedig o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990, rhaid iddynt gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth wrth wneud eu penderfyniad;

(b)yn annigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad yn gofyn am wybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1); ac

mae rheoliadau 14 i 17 a 19 i 28 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais—

(i)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau yn achos—

(aa)cynnig i roi caniatâd cynllunio;

(bb)cynnig i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio; neu

(cc)cynnig i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; a

(ii)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn achos—

(aa)cynnig i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn; neu

(bb)cynnig i ddiwygio’r fath orchymyn; a

(iii)fel pe bai’r cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n penderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw pe bai cais o’r fath yn cael ei gyflwyno.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mewnosodir erthygl 12(7A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.