xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Ceisiadau pan ymddengys bod barn sgrinio yn ofynnol

8.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a

(c)nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn gais a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo rheoliad 6(4) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio.

Ceisiadau dilynol pan ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol yn flaenorol

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chydsyniad dilynol.

(3Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar y amgylchedd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1).

Ceisiadau dilynol pan na ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol ynghyd â hwy yn flaenorol

10.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo paragraff (5) o reoliad 6 yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau sy’n angenrheidiol i sicrhau hynny, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai cael y cais neu ei gofnodi yn rhywbeth y gofynnwyd amdano o dan reoliad 6(1).

Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

11.—(1Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(3Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—

(a)o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—

(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu

(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.

(5At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio mewn cysylltiad â’r datblygiad—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 o ddiwrnodau, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—

(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond

(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(1).

(7At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(8Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6).

(9Rhaid i berson sy’n gofyn am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol at Weinidogion Cymru gyda’r gofyniad—

(a)y gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad >6(1) a’r dogfennau a oedd yn dod gydag ef;

(b)unrhyw hysbysiad a wnaed o dan reoliad 6(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd gan y person hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(c)y cais;

(d)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;

(e)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;

(f)unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac

(g)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,

ac mae paragraffau (2) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i ofyniad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i ofyniad a wneir yn unol â rheoliad 6(8).

Cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

12.—(1Pan fo cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(2), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)bod y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac

(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu—

(a)yn achos ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2),

(b)yn achos ceisiadau dilynol, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6(3),

wneud cais am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(1).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod cais a atgyfeiriwyd atynt i’w benderfynu yn gais AEA ond nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn dod gyda’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (3) o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(6Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (3) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(7Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran y cais.

(8Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

13.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—

(a)y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2; a

(b)y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn rhywbeth y gofynnodd yr apelydd amdani yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch pa un a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

(3Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6(8).

(4Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau dilynol, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(8).

(5Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.

(7Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (5), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(8Os nad yw’r apelydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (7), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 o ddiwrnodau, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran yr apêl.

(9Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (5), a

(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

(1)

Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf 1991, adran 17(2); Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 43(2); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 121 ac Atodlen 12, paragraffau 1 ac 11 ac adran 123(1) a (3); Deddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 a 3, adran 197 ac Atodlen 11, paragraffau 1 a 2; Deddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), adran 1(2) ac Atodlen 1, paragraffau 1 ac 8; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 45; a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 3. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.