xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Sgrinio

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinio

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(2Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cyflwyno datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu

(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cymhwyso’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar ddiben y datblygiad;

(b)os yw’r datblygiad yn brosiect, neu’n ffurfio rhan o brosiect, sydd â’r diben o ymateb i argyfyngau sifil yn unig, a bod Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar y diben hwnnw.

(5Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) neu (4)(b) rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(6Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;

(b)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a

(c)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.

(7Mewn achosion pan fabwysiedir datblygiad(1) o dan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu fesur a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu cynnwys mewn Deddf o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) eithrio’r datblygiad hwnnw rhag darpariaethau’r Gyfarwyddeb sy’n ymwneud ag ymgynghoriad cyhoeddus, ar yr amod y cyflawnir amcanion y Gyfarwyddeb.

(8Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn pa un a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried y canlynol wrth wneud y penderfyniad hwnnw—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y person sy’n bwriadu gwneud datblygiad;

(b)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; ac

(c)y fath meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad.

(9Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan y prif resymau dros ddod i’r casgliad hwnnw gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, gan gyfeirio at y meini prawf perthnasol a restrir yn Atodlen 3;

(b)os penderfynir nad yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan unrhyw nodweddion sy’n perthyn i’r datblygiad arfaethedig a’r mesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(10Rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd at y person sy’n bwriadu gwneud y datblygiad dan sylw, neu sydd wedi gwneud y datblygiad hwnnw.

(11Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—

(a)o’u hewyllys eu hunain; neu

(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.

(12Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiad penodol o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad yw’r naill na’r llall o is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” wedi eu bodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(13Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (11), rhaid iddynt—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt hwy o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am y datblygiad arfaethedig er mwyn hysbysu cyfarwyddyd sgrinio;

(b)cymryd i ystyriaeth wrth wneud y cyfarwyddyd hwnnw—

(i)yr wybodaeth a gesglir yn unol ag is-baragraff (a);

(ii)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; a

(iii)y fath rai o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad; ac

(c)dyroddi cyfarwyddyd sgrinio o fewn 90 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru wedi cael digon o wybodaeth i wneud cyfarwyddyd.

(14Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud ag amgylchiadau’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (13)(c), caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(15Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (14) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(16Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Achosion o ofyn am farnau sgrinio

6.—(1Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.

(2Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad y gwnaed cais dilynol mewn cysylltiad ag ef;

(c)yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae hyn yn ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd nas nodwyd yn flaenorol; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am y farn sgrinio, pan fo’r person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2) neu (3), gymryd i ystyriaeth y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb.

(5Os nad yw awdurdod y gofynnir iddo am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am ba bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arno.

(6Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau fel y cytunir yn ysgrifenedig â’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2) neu (3).

(7Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) anfon copi at y person a ofynodd amdani.

(8Pan fo awdurdod—

(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6); neu

(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;

caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

(9Caiff y person ofyn am farn sgrinio yn unol â pharagraff (8) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (5).

Achosion o ofyn am gyfarwyddydau sgrinio oddi wrth Weinidogion Cymru

7.—(1Rhaid i berson sy’n gofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 6(8) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—

(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 6(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;

(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 6(5) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n fwy na 90 o ddiwrnodau a all fod yn rhesymol ofynnol,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1).

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (7) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(9Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) at y person a ofynnodd amdano, yr apelydd (os nad hwy yw’r person a ofynnodd amdano) a’r awdurdod cynllunio perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(1)

Gweler Erthygl 2(5) o’r Gyfarwyddeb.