xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Pan fo cais yn cael ei ganiatáu neu y gwneir penderfyniad i roi effaith i gynnig, yn llawn neu’n rhannol, rhaid i’r awdurdod cofrestru roi effaith i’r dyfarniad yn y gofrestr briodol drwy ychwanegu, dileu, cywiro neu fel arall fel y bo’n briodol.
(2) Rhaid i’r awdurdod cofrestru roi hysbysiad ysgrifenedig o’r dyfarniad i—
(a)y ceisydd, os gwnaed y dyfarniad ar gais;
(b)pob person a gyflwynodd sylwadau ynghylch y cais neu’r cynnig; ac
(c)pob person (ac eithrio’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (b)) a roddodd dystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad, pan fo enw a manylion cyswllt y person yn hysbys.
(3) Rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys—
(a)rhesymau dros y penderfyniad; a
(b)manylion unrhyw newidiadau a wnaed i’r gofrestr i roi effaith i’r penderfyniad.
(4) Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi’r penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw gais neu gynnig, a’r rhesymau drosto, ar ei wefan.