Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 489 (Cy. 102)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017
Gwnaed
28 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mawrth 2017
Yn dod i rym
1 Awst 2017
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 iddi, adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac Atodlen 6 iddi, adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), a pharagraff 6 o’r Atodlen i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgareddau a Reoleiddir) (Diwygio) (Rhif 2) 2013/1881. Mae’r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2011 yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio o dan amgylchiadau a ragnodir.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) ac O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1660 (Cy. 159)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 iddi.