Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

39.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.