- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig(1), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 6(1)(a) i (c), ddarparu i Weinidogion Cymru y canlynol—
(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;
(b)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;
(c)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono;
(d)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.
4. Rhaid i’r datganiad o ddiben y mae’n ofynnol ei ddarparu yn unol â rheoliad 3(b), (c) neu (d) gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2.
5. Rhaid i gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth fod ar ffurf cais ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddiben hysbysu ymgeiswyr am y weithdrefn ar gyfer cofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf.
Gweler adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi i gael y diffiniad o “gwasanaeth rheoleiddiedig”.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys