Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1098 (Cy. 278)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

Gwnaed

14 Tachwedd 2017

Yn dod i rym

1 Chwefror 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 6(2), 11(2), 11(3)(a)(iii), 11(3)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).

Yn unol ag adran 187(2)(e) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod lleol” (“local authority”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf;

mae i “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yr un ystyr ag yn adran 189 o’r Ddeddf;

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys partneriaeth, corff corfforaethol a chorff anghorfforedig;

ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni bai bod y cyd-destun yn nodi fel arall, yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth;

mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ymgeisydd” (“applicant”) yw naill ai—

(a)

y person sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth yn unol ag adran 6 o’r Ddeddf, neu

(b)

y person sy’n gwneud cais i amrywio cofrestriad yn unol ag adran 11 o’r Ddeddf.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran yn gyfeiriad at adran o’r Ddeddf, oni nodir fel arall.

RHAN 2Cais i Gofrestru fel Darparwr Gwasanaeth

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ymgeisydd

3.  Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig(2), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 6(1)(a) i (c), ddarparu i Weinidogion Cymru y canlynol—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;

(c)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono;

(d)mewn cysylltiad ag ymgeiswyr sy’n gwneud cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

4.  Rhaid i’r datganiad o ddiben y mae’n ofynnol ei ddarparu yn unol â rheoliad 3(b), (c) neu (d) gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2.

Ffurf y cais

5.  Rhaid i gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth fod ar ffurf cais ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddiben hysbysu ymgeiswyr am y weithdrefn ar gyfer cofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf.

RHAN 3Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth i amrywio cofrestriad – adran 11(1)(a)(i) a (ii)

6.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i) a, phan fo’n briodol, adran 11(3)(a)(ii), gynnwys y canlynol—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;

(c)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono;

(d)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

7.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(ii), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad â chais i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw;

(c)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli o fan nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw;

(d)mewn cysylltiad â chais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw.

8.  Rhaid i’r datganiad o ddiben y mae’n ofynnol ei ddarparu yn unol â rheoliad 6(b), (c) neu (d) neu yn unol â rheoliad 7(b), (c) neu (d) gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(a)(iii) a (iv)

9.—(1Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(iii) neu (iv), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)y rheswm dros wneud y cais;

(c)datganiad ynghylch sut y mae’r darparwr gwasanaeth yn bwriadu parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau a wneir o dan adran 27 hyd nes y bydd y gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu;

(d)manylion unrhyw hysbysiad a roddir ynghylch y cais arfaethedig i amrywio i—

(i)defnyddwyr y gwasanaeth;

(ii)yr awdurdod lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;

(iii)y Bwrdd Iechyd Lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;

(iv)unrhyw berson arall;

(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i amrywio’r cofrestriad lai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig, adroddiad ynghylch a yw’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi peidio â bod yn ariannol hyfyw neu’n debygol o beidio â bod yn ariannol hyfyw o fewn y 12 mis nesaf.

(2At ddiben y rheoliad hwn a rheoliad 10 ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” yw’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth yn gofyn amdano fel y dyddiad pan fo’r amrywiad y gwneir cais amdano i gymryd effaith.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(b)

10.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(b), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)y rheswm dros wneud y cais;

(c)manylion unrhyw newidiadau y mae’r darparwr gwasanaeth yn bwriadu eu gwneud mewn perthynas â’r gwasanaeth rheoleiddiedig o ganlyniad i’r cais i amrywio neu ddileu, gan gynnwys manylion ynghylch—

(i)unrhyw newidiadau strwythurol arfaethedig i unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig;

(ii)unrhyw staffio, cyfleusterau neu gyfarpar ychwanegol neu newidiadau o ran rheoli sy’n ofynnol i sicrhau bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu;

(d)unrhyw ddogfennaeth ategol y mae’r darparwr gwasanaeth yn ystyried y bydd yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru wrth wneud penderfyniad ynghylch pa un ai i gymeradwyo’r cais i amrywio neu ddileu amod.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(c)

11.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(c), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 23 i 28 a pharagraffau 38 i 49 o Atodlen 1.

Ffurf y cais

12.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth gael ei wneud ar ffurf cais ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddibenion hysbysu darparwyr gwasanaethau am y weithdrefn ar gyfer amrywio cofrestriad o dan Ran 1 o’r Ddeddf.

Terfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio ynddo pan na fo unigolyn cyfrifol dynodedig

13.  Y terfyn amser a ragnodir at ddibenion adran 11(2) yw 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad pan na fo unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

Huw Irranca-Davies

Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Tachwedd 2017

Rheoliadau 3, 6, 7 ac 11

ATODLEN 1Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru neu gan ddarparwr gwasanaeth sy’n gwneud cais i amrywio cofrestriad

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch yr ymgeisydd pan fo’r ymgeisydd yn unigolyn

1.  Enw llawn yr ymgeisydd, ei ddyddiad geni, cyfeiriad cartref, cyfeiriad post electronig a rhif ffôn.

2.  Manylion am gymwysterau a phrofiad proffesiynol neu dechnegol yr ymgeisydd i’r graddau bod cymwysterau a phrofiad o’r fath yn berthnasol i ddarparu’r gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig y mae’r ymgeisydd yn gwneud cais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â hwy.

3.  Manylion am hanes cyflogaeth yr ymgeisydd, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac unrhyw gyflogwyr blaenorol.

4.  Manylion am unrhyw fusnes y mae’r ymgeisydd yn ei gynnal neu wedi ei gynnal.

5.  Enw a chyfeiriad dau ganolwr—

(a)nad ydynt yn berthnasau i’r ymgeisydd;

(b)y mae’r ddau yn gallu darparu geirda ynghylch cymhwysedd yr ymgeisydd i ddarparu’r gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig y mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais i’w darparu; ac

(c)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r ymgeisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf oni bai nad yw’n ymarferol cael geirda o’r fath.

6.  Manylion ynghylch a yw’r ymgeisydd—

(a)wedi cael ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r gorchymyn methdalu;

(b)wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn secwestru nad yw wedi ei ddad-wneud;

(c)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 1986(3)); neu

(d)wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â’r compównd neu’r trefniant.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch yr ymgeisydd pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad

7.  Pan fo’r sefydliad yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)enw’r sefydliad;

(b)cyfeiriad swyddfa gofrestredig y sefydliad;

(c)os yw’n wahanol i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu os nad oes unrhyw swyddfa gofrestredig, cyfeiriad prif swyddfa’r sefydliad;

(d)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y sefydliad;

(e)os yw’r sefydliad yn gwmni, rhif y cwmni;

(f)os yw’r sefydliad yn elusen, rhif yr elusen;

(g)pan fo’r sefydliad yn gwmni ac yn is-gwmni i gwmni daliannol—

(i)enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni daliannol;

(ii)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y cwmni daliannol;

(iii)rhif cwmni’r cwmni daliannol;

(iv)os yw’r cwmni daliannol yn elusen, rhif elusen y cwmni daliannol;

(v)enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(vi)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(vii)rhif cwmni unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

(viii)os yw’r is-gwmni yn elusen, rhif elusen unrhyw is-gwmni i’r cwmni daliannol.

8.  Pan fo’r sefydliad yn awdurdod lleol—

(a)enw a chyfeiriad prif swyddfa’r awdurdod;

(b)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn yr awdurdod;

(c)manylion arweinydd y Cyngor a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

9.  Pan fo’r sefydliad yn Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)enw a chyfeiriad prif swyddfa’r Bwrdd;

(b)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y Bwrdd;

(c)manylion y cadeirydd a’r prif weithredwr.

10.  Pan fo’r sefydliad yn bartneriaeth—

(a)enw’r bartneriaeth;

(b)cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y bartneriaeth.

11.  Pan fo’r sefydliad yn gorff anghorfforedig—

(a)enw’r corff;

(b)cyfeiriad prif swyddfa’r corff;

(c)cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y corff.

12.  Ym mhob achos pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad, gwybodaeth am drefniadau llywodraethu’r sefydliad, gan gynnwys manylion unrhyw gyfrifoldebau’r sefydliad sydd wedi eu dirprwyo.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch pob ymgeisydd

13.  Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel darparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf.

14.  Manylion unrhyw gofrestriadau fel darparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf.

15.  Manylion unrhyw gais blaenorol i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(4).

16.  Manylion unrhyw gofrestriadau o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

17.  Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel darparwr gwasanaeth o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(5).

18.  Manylion unrhyw gofrestriadau fel darparwr gwasanaeth o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.

19.  Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel person sy’n darparu gwasanaeth gofal o dan Ran 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(6).

20.  Manylion unrhyw gofrestriadau fel person sy’n darparu gwasanaeth gofal o dan Ran 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

21.  Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(7).

22.  Manylion unrhyw gofrestriadau o dan Ran 3 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol

23.  Dyddiad geni, rhif ffôn, cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth a chyfeiriad post electronig pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol.

24.  Manylion am gymwysterau a phrofiad proffesiynol neu dechnegol pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol i’r graddau bod cymwysterau a phrofiad o’r fath yn berthnasol—

(a)i berfformiad a swyddogaethau’r unigolyn cyfrifol a roddir gan y rheoliadau o dan adran 28; a

(b)i’r gwasanaeth sydd i gael ei ddarparu yn y man y dynodir yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad ag ef.

25.  Manylion ynghylch a yw pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol—

(a)wedi cael ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r gorchymyn methdalu;

(b)wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn secwestru nad yw wedi ei ddad-wneud;

(c)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 1986(8)); neu

(d)wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â’r compównd neu’r trefniant.

26.  Manylion am hanes cyflogaeth pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac unrhyw gyflogwyr blaenorol.

27.  Manylion am unrhyw fusnes sy’n cael ei gynnal neu sydd wedi cael ei gynnal gan bob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol.

28.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol, enw a chyfeiriadau dau ganolwr—

(a)nad ydynt yn berthnasau i’r unigolyn;

(b)y mae’r ddau yn gallu darparu geirda ynghylch cymhwysedd yr unigolyn i gyflawni dyletswyddau unigolyn cyfrifol ar gyfer y man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef neu’r mannau y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn perthynas â hwy gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol; ac

(c)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r unigolyn am gyfnod o 3 mis o leiaf oni bai nad yw’n ymarferol cael geirda o’r fath.

Gwybodaeth am y gwasanaeth sydd i gael ei ddarparu

29.  Manylion y raddfa ffioedd y bwriedir iddynt fod yn daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.

30.  Yn achos gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth ym mhob man a bennir yn y cais.

31.  Yn achos gwasanaeth cymorth cartref, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.

Gwybodaeth am y llety y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo

32.  Pan fo’r ymgeisydd yn ceisio darparu gwasanaeth cartref gofal(9), gwasanaeth llety diogel(10) neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd(11)

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn arfaethedig y fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi;

(b)disgrifiad o’r fangre, gan gynnwys datganiad ynghylch a yw’r fangre wedi cael ei hadeiladu’n bwrpasol neu a yw wedi cael ei throsi neu y bwriedir iddi gael ei throsi i’w defnyddio fel y man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;

(c)tystiolaeth o’r canlynol—

(i)asesiad risg wedi ei gwblhau fel sy’n ofynnol o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(12);

(ii)cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu;

(iii)cofrestriad busnes bwyd;

(iv)caniatâd cynllunio;

(d)tystiolaeth o ymgynghori ag unrhyw gyrff rheoleiddiol neu gymeradwyaeth unrhyw gyrff o’r fath, pan fo ymgynghori neu gymeradwyaeth o’r fath yn ofynnol;

(e)manylion unrhyw fusnes arall sy’n cael ei ddarparu neu a fydd yn cael ei ddarparu yn yr un fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi;

(f)manylion a thystiolaeth ddogfennol o statws perchnogaeth yr adeilad gan gynnwys, os yw wedi ei lesio neu ei rentu, hyd unrhyw gyfnod hysbysu.

Gwybodaeth am y swyddfeydd y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohonynt

33.  Pan fo’r ymgeisydd yn ceisio darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth cymorth cartref, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y swyddfa neu’r swyddfeydd y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohoni neu ohonynt.

Y dogfennau y mae’n ofynnol i’r ymgeisydd eu darparu

34.  Pan fo’r ymgeisydd yn unigolyn—

(a)tystiolaeth o bwy yw’r person sydd i gynnwys ffotograff;

(b)tystiolaeth ddogfennol mewn cysylltiad ag unrhyw gymwysterau y mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion amdanynt ym mharagraff 2 o’r Atodlen hon;

(c)yn ddarostyngedig i is-baragraff (d), adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw’r ymgeisydd yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir ar ddarparwr gwasanaeth mewn rheoliadau o dan adran 27;

(d)pan na fo’r ymgeisydd yn gallu cael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), datganiad gan yr ymgeisydd ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl;

(e)pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(13), copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd â, phan fo’n gymwys, wybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf.

At ddibenion yr is-baragraff hwn ac at ddibenion paragraff 42, ystyr “gwybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf” yw’r wybodaeth a bennir yn adrannau 113BA a 113BB yn y drefn honno o Ddeddf yr Heddlu 1997;

(f)pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd ag, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(14) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

At ddibenion yr is-baragraff hwn ac at ddibenion paragraff 43, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw adran 30A o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 i rym.

35.  Pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, y ddau adroddiad blynyddol a chyfrifon diwethaf, os oes rhai.

36.  Mewn cysylltiad ag ymgeiswyr ac eithrio awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol—

(a)cynllun busnes;

(b)geirda oddi wrth fanc sy’n mynegi barn ar sefyllfa ariannol yr ymgeisydd;

(c)manylion am y llif arian rhagamcanol mewn cysylltiad â’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.

37.  Mewn cysylltiad â phob ymgeisydd, tystysgrif yswiriant mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all godi mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Y dogfennau sy’n ofynnol mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd yn unigolyn cyfrifol

38.  Tystiolaeth o bwy yw’r person sydd i gynnwys ffotograff.

39.  Tystiolaeth ddogfennol o’r holl gymwysterau y mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion amdanynt ym mharagraff 24 o’r Atodlen hon.

40.  Yn ddarostyngedig i baragraff 41 adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw’r unigolyn cyfrifol yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i gydymffurfio â’i ddyletswyddau mewn rheoliadau o dan adran 28.

41.  Pan na fo’r unigolyn cyfrifol yn gallu cael yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 40, datganiad gan yr unigolyn cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl.

42.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd â, phan fo’n gymwys, wybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf(15).

43.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd ag, ar ôl y diwrnod penodedig(16) a phan fo’n gymwys, yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

44.  Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol, datganiad wedi ei lofnodi gan bob un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff 45 i’r perwyl eu bod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’u bod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

45.  Y personau hynny yw—

(a)unrhyw berson sydd wedi ei benodi’n gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd o’r corff corfforaethol;

(b)unrhyw berson sydd wedi ei benodi’n ymddiriedolwr o’r corff corfforaethol.

46.  Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n awdurdod lleol, datganiad wedi ei lofnodi gan y person a ddisgrifir ym mharagraff 47 i’r perwyl ei fod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’i fod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

47.  Mae’r person naill ai—

(a)yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod, neu

(b)os y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yw’r unigolyn cyfrifol, prif weithredwr yr awdurdod.

48.  Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n gorff anghorfforedig, datganiad wedi ei lofnodi gan bob un o’r personau hynny sy’n ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff i’r perwyl eu bod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’u bod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

49.  Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n bartneriaeth, datganiad wedi ei lofnodi gan bob partner i’r perwyl ei fod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’i fod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

Rheoliadau 4 ac 8

ATODLEN 2Yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben

Mae’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben fel a ganlyn—

(a)enw’r ymgeisydd;

(b)pan fo’r ymgeisydd yn unigolyn, cyfeiriad yr unigolyn ar gyfer gohebiaeth;

(c)pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad, cyfeiriad prif swyddfa neu swyddfa gofrestredig y sefydliad;

(d)yn achos gwasanaeth cartref gofal, enw a chyfeiriad y man y darperir y gwasanaeth ynddo;

(e)yn achos gwasanaeth cymorth cartref—

(i)enw’r gwasanaeth;

(ii)yr ardal y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi;

(iii)cyfeiriadau’r swyddfa neu’r swyddfeydd y darperir y gwasanaeth ohoni neu ohonynt;

(iv)cyfeiriadau unrhyw swyddfa arall neu unrhyw swyddfeydd eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth;

(f)enw’r unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;

(g)datganiad o ystod anghenion yr unigolion y mae’r gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ar eu cyfer sydd i gynnwys ystod oedran, nifer a rhyw unigolion o’r fath;

(h)sut y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu i ddiwallu anghenion unigolion a’u cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol, fel sy’n ofynnol gan reoliadau o dan adran 27 a chan ystyried yr ystod o anghenion a nodir yn y datganiad o ddiben (gweler paragraff (g));

(i)manylion strwythur rheoli a staffio arfaethedig y gwasanaeth;

(j)manylion y fangre, y cyfleusterau a’r cyfarpar a fydd ar gael i unigolion yn unol â gofynion y rheoliadau a wneir o dan adran 27 a chan ystyried yr ystod o anghenion a nodir yn y datganiad o ddiben (gweler paragraff (g));

(k)yn achos gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, disgrifiad o’r ardal y mae’r gwasanaeth wedi ei leoli ynddi, a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau cymunedol sydd ar gael yno;

(l)manylion y trefniadau a wneir i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol yr unigolion;

(m)manylion y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori ag unigolion ynghylch gweithredu’r gwasanaeth rheoleiddiedig;

(n)manylion ynghylch sut y bydd y darparwr yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg;

(o)manylion unrhyw ofal iechyd (gan gynnwys nyrsio) neu therapi sydd i gael ei ddarparu yn y fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 6 ac 11 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae adran 6(1) o’r Ddeddf yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae “gwasanaeth rheoleiddiedig” wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf fel gwasanaeth cartref gofal; gwasanaeth llety diogel; gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; gwasanaeth mabwysiadu; gwasanaeth maethu; gwasanaeth lleoli oedolion; gwasanaeth eirioli neu wasanaeth cymorth cartref.

Mae adran 6(1)(d) o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwybodaeth ychwanegol y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru. Mae rheoliadau 3 a 4 yn pennu’r wybodaeth ychwanegol sydd i gael ei darparu gan ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 ynghyd â datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2. Rhaid i ddatganiad o ddiben gael ei ddarparu ar gyfer pob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i’r cais i gofrestru fod ar y ffurf ragnodedig. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gais gael ei wneud ar ffurf cais ar-lein, a gyrchir ar dudalennau perthnasol gwefan Llywodraeth Cymru.

Mae adran 11(1) o’r Ddeddf yn nodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i ddarparwr gwasanaeth wneud cais i amrywio cofrestriad. Mae adran 11(3) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i amrywio cofrestriad. Mae adran 11(3)(a)(iii) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwybodaeth arall y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i amrywio cofrestriad. Mae rheoliadau 6 i 9 yn pennu’r wybodaeth sydd i gael ei darparu mewn cais i amrywio cofrestriad.

Mae rheoliadau 6, 7 ac 8 yn nodi’r wybodaeth bellach sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais i amrywio a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) a (ii) o’r Ddeddf – hynny yw pan fo darparwr naill ai yn dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig nad yw’r darparwr eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu pan fo darparwr yn dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw. Mae’r wybodaeth bellach sy’n ofynnol yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 ynghyd â datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2. Rhaid i ddatganiad o ddiben gael ei ddarparu ar gyfer pob man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig i gael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

Mae rheoliad 9 yn nodi’r wybodaeth bellach sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais i amrywio a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(iii) o’r Ddeddf – hynny yw pan fo darparwr gwasanaeth yn dymuno peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mwyach.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r wybodaeth bellach sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais i amrywio a wneir yn unol ag adran 11(1)(b) o’r Ddeddf – hynny yw pan fo darparwr gwasanaeth yn dymuno i amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu 13(1) o’r Ddeddf gael ei amrywio neu ei ddileu.

Mae rheoliad 11 yn nodi’r wybodaeth bellach sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais i amrywio a wneir yn unol ag adran 11(1)(c) o’r Ddeddf – hynny yw pan fo darparwr gwasanaeth yn dymuno dynodi unigolyn cyfrifol gwahanol mewn cysylltiad â man neu y mae’n ofynnol iddo ddynodi unigolyn cyfrifol oherwydd nad oes unigolyn o’r fath wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Yr wybodaeth bellach sy’n ofynnol yw’r wybodaeth a restrir ym mharagraffau 23 i 28 a pharagraffau 38 i 49 o Atodlen 1.

Mae adran 11(3)(b) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i gais i amrywio cofrestriad fod ar y ffurf ragnodedig. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gais i amrywio fod ar ffurf cais ar-lein, a gyrchir ar dudalennau perthnasol gwefan Llywodraeth Cymru.

Mae adran 11(2) o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ragnodi mewn rheoliadau derfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio cofrestriad darparwr ynddo o dan amgylchiadau pan na fo unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 13 yn rhagnodi’r terfyn amser hwnnw fel 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad pan na fo unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 2 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi i gael y diffiniad o “gwasanaeth rheoleiddiedig”.

(9)

Gweler adran 2(1)(a) o’r Ddeddf a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi i gael y diffiniad o “gwasanaeth cartref gofal”.

(10)

Gweler adran 2(1)(b) o’r Ddeddf a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi i gael y diffiniad o “gwasanaeth llety diogel”.

(11)

Gweler adran 2(1)(c) o’r Ddeddf a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi i gael y diffiniad o “gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd”.

(12)

O.S. 2005/1541, y mae diwygiadau iddo nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

2006 p. 47. Mae adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol i gael eu disodli gan adrannau newydd 30A a 30B o ganlyniad i’r amnewidiadau a wneir gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9). Mae adran 72(1) i gael ei chychwyn ar ddiwrnod i’w bennu.

(15)

Gweler paragraff 34(e) o’r Atodlen hon am ystyr “gwybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion”.

(16)

Gweler paragraff 34(f) o’r Atodlen hon am ystyr “y diwrnod penodedig”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill