xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Amrywiol

Ffioedd

23.  Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.

Dirymiadau

24.—(1Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau 2010;

(b)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010(1);

(c)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010(2); a

(d)Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016(3).

(2Mae paragraff 142 o Atodlen 2 i Orchymyn yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Triniaethau (Dileu) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2013(4) wedi ei ddirymu.

Diwygiad canlyniadol

25.  Yn rheoliad 21(7)(b) o Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010(5), yn lle “regulation 15 or 16 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2010” rhodder “regulation 18 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2017”.

Darpariaethau trosiannol

26.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)mae awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(2) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(2) o’r Rheoliadau hyn;

(b)mae ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(9) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(9) o’r Rheoliadau hyn;

(c)mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (“hysbysiad presennol”) i’w gymryd i fod yn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn.

(2Caniateir gwneud apêl o dan reoliad 21(1) o’r Rheoliadau hyn yn erbyn hysbysiad presennol os nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 19(1) o Reoliadau 2010 wedi dod i ben ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3O ran awdurdod lleol sydd wedi—

(a)lleihau amlder samplu ar gyfer paramedr o dan baragraff 2(2) yn Rhan 1 o Atodlen 2 (monitro) i Reoliadau 2010, neu

(b)eithrio paramedr o waith monitro archwilio o dan baragraff 3(3) yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010,

rhaid iddo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, ddod ag unrhyw leihad neu eithriad o’r fath i ben, ac yn lle hynny rhaid iddo ddechrau monitro yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(4Caiff awdurdod lleol ddibynnu ar unrhyw ddata a gesglir yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym i gyfiawnhau unrhyw amrywiad o ran monitro o dan Ran 4 o Atodlen 2.

(5Mae Tabl 2 (nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi) yn Atodlen 4 yn parhau mewn grym hyd 23:59 ar 31 Rhagfyr 2019, a chaiff ei ddirymu at bob diben ar ôl hynny.