xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: meini prawf penodedig

Meysydd awyr

8.—(1Nid yw datblygiad mewn perthynas â maes awyr o fewn o fewn rheoliad 3(1)(e) ac eithrio pan y datblygiad yw—

(a)adeiladu maes awyr o fewn paragraff (2),

(b)addasu maes awyr o fewn paragraff (3), neu

(c)gwneud cynnydd, sydd o fewn paragraff (4), yn y defnydd a ganiateir o faes awyr.

(2Nid yw adeiladu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—

(a)gwasanaethau cludiant teithwyr awyr ar gyfer o leiaf un filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu

(b)gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau bob blwyddyn.

(3Nid yw addasu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir i’r addasiad gynyddu—

(a)nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, o un filiwn y flwyddyn, o leiaf, neu

(b)nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar eu cyfer, o 5,000 y flwyddyn, o leiaf.

(4Nid yw cynnydd yn y defnydd a ganiateir o faes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan fo’n gynnydd o—

(a)un filiwn y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, neu

(b)5,000 y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr iddynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “addasu”/“addasiad” (“alteration”) yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—

(a)

rhedfa yn y maes awyr,

(b)

adeilad yn y maes awyr, ac

(c)

mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr;

ystyr “awyren nwyddau” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—

(a)

wedi ei chynllunio i gludo nwyddau ond nid teithwyr, a

(b)

sy’n ymgymryd â chludo nwyddau ar delerau masnachol;

ystyr “gwasanaethau cludiant nwyddau awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr;

ystyr “gwasanaethau cludiant teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr drwy’r awyr;

mae “nwyddau” (“cargo”) yn cynnwys post;

ystyr “symudiad cludiant awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.