xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Rhaid i bob rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni nad oes gan unrhyw berson, sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol, fuddiannau sy’n gwrthdaro(1).
(2) Rhaid i reolwr cynllun fodloni ei hunan o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau’r bwrdd pensiynau lleol fuddiannau sy’n gwrthdaro.
(3) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun, ddarparu i’r awdurdod hwnnw y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yr awdurdod at ddibenion paragraff (1).
(4) Rhaid i berson sydd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yw awdurdod hwnnw at ddibenion paragraff (2).
Gweler adran 5(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.