xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
185.—(1) Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).
(3) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i gyflogwr P;
(b)wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;
(c)yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a
(d)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
(4) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
(b)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
(5) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
(b)yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).
(7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 1995(1), ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno(2).
(8) Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
(9) Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a
(b)gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
(10) Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—
(a)pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu
(b)pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
(i)o dan orchymyn llys cymwys, neu
(ii)o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
Diwygiwyd adran 124(1) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 61; gan Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 8; gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 7(2), Atodlen 12, paragraffau 34, 43 a 69 ac Atodlen 13, Rhan 1; a chan O.S. 2005/2053, 2006/745 a 2014/560.
Diwygiwyd adran 91(5)(d) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 57. Gweler O.S. 1997/785 sy’n rhagnodi’r credydau trosglwyddo.