xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10Trosglwyddiadau

PENNOD 3Trosglwyddiadau i mewn

Swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb

154.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb a gafwyd oddi wrth gynllun clwb arall.

(2Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb y mae hawl gan P i’w gyfrif yw—

(a)y swm a bennir yn y datganiad gwerth trosglwyddiad clwb; neu

(b)os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os nad yw wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.