xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

ATODLEN 2Darpariaethau trosiannol

RHAN 2Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

15.—(1Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 18 i 21 yn gymwys iddo yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ba un bynnag o’r diwrnodau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)dyddiad cau diogelwch taprog P; neu

(b)y diwrnod y mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu os yw’n ddiweddarach, yn peidio â bod yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu is-baragraff (4) yn gymwys.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P, cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P—

(a)cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT rywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelodau diogelwch taprog yn ystod y cyfnod diogelwch

16.—(1Y cyfnod diogelwch ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT yw’r cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT neu, os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch taprog yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

17.  Tra bo person (P) yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

18.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac

(c)os yw P—

(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu

(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun presennol

19.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

20.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Aelodau diogelwch taprog o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

21.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os byddai paragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon wedi bod yn gymwys oni bai am y ffaith na fyddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, y cyfeirir ato ym mharagraff 13(c) neu 14(c), yn ôl fel y digwydd, (“y cynllun sy’n trosglwyddo”) ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun sy’n trosglwyddo yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun sy’n trosglwyddo ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.