xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliad 196

ATODLEN 2Darpariaethau trosiannol

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “aelod a ddiogelir” (“protected member”), mewn perthynas â chynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw aelod diogelwch llawn neu aelod diogelwch taprog o un o’r cynlluniau hynny;

ystyr “aelod a ddiogelir yn llawn” (“fully protected member”) o gynllun presennol neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yw person y mae eithriad yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, sef eithriad y mae adran 18(6) o Ddeddf 2013(1) (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo at ddibenion y cynllun hwnnw;

mae i “aelod actif o Gynllun 1992 neu o CPNDT” (“active member of the 1992 Scheme or the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;

mae i “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“active member of an existing public body pension scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 7;

mae i “aelod actif o gynllun presennol” (“active member of an existing scheme”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6;

mae i “aelod diogelwch llawn” (“full protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 9;

mae i “aelod diogelwch taprog” (“tapered protection member”), mewn perthynas â Chynllun 1992 neu CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 15;

ystyr “aelod trosiannol” (“transition member”) yw person—

(a)

sy’n aelod o Gynllun 1992 neu CPNDT yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw, neu sy’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, cyn y dyddiad trosiant, a

(b)

sy’n aelod o’r cynllun hwn yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy y person o dan y cynllun hwn;

mae i “cyfnod diogelwch” (“protection period”)—

(a)

yn achos aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 10, a

(b)

yn achos aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yr ystyr a roddir ym mharagraff 16;

mae i “cymwys i fod yn aelod actif o CPNDT” (“eligible to be an active member of the NFPS”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4;

ystyr “cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol” (“existing public body pension scheme”) yw cynllun pensiwn corff cyhoeddus y mae adran 31 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;

ystyr “dyddiad cau” (“closing date”)—

(a)

mewn perthynas â chynllun presennol, yw’r dyddiad y cyfeirir ato yn adran 18(4)(a) neu (b) o Ddeddf 2013, yn ôl fel y digwydd,

(b)

mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, yw’r dyddiad a benderfynir o dan adran 31(2) o Ddeddf 2013 gan y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw, ac

(c)

mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

(i)

os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu o CPNDT, y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, neu

(ii)

os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o un o’r cynlluniau hynny, dyddiad cau’r cynllun;

mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”), mewn perthynas ag aelod diogelwch taprog o gynllun presennol, yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

ystyr “dyddiad cau’r cynllun” (“scheme closing date”) yw 31 Mawrth 2015;

ystyr “dyddiad trosiant” (“transition date”), mewn perthynas ag aelod trosiannol, yw—

(a)

os yw’r aelod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer yr aelod hwnnw, a

(b)

os nad yw’r aelod yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu CPNDT, y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun, neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y peidiodd y person â bod yn aelod a ddiogelir o’r cynllun hwnnw;

ystyr “eithriad” (“exception”) yw—

(a)

mewn perthynas â chynllun presennol, eithriad o dan adran 18(5) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau cynllun ar gyfer y cynllun hwnnw,

(b)

mewn perthynas â chynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, eithriad o dan adran 31(4) o Ddeddf 2013 y darperir ar ei gyfer gan yr awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am y cynllun hwnnw.

Ystyr “parhad gwasanaeth”

2.—(1Mae gan aelod trosiannol (T) barhad gwasanaeth rhwng gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, a gwasanaeth pensiynadwy yn y cynllun hwn, onid oes bwlch yng ngwasanaeth T o fwy na phum mlynedd sy’n—

(a)dechrau ar neu cyn dyddiad trosiant T; a

(b)yn diweddu ar y diwrnod y daw T yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(2At ddibenion is-baragraff (1), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw T mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo T mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol, cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, cynllun o dan adran 1 o Ddeddf 2013 neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus newydd.

Ystyr “dyddiad cau diogelwch taprog”

3.—(1Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl Cynllun 1992 yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT yw’r dyddiad a ganfyddir drwy gymhwyso’r dyddiad perthnasol yng ngholofn 3 o’r tabl CPNDT yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, i’r dyddiad geni y cyfeirir ato yng ngholofn 1 a cholofn 2.

(3Y dyddiad cau diogelwch taprog ar gyfer aelod diogelwch taprog o CPNDT y mae paragraff 9(5) neu 21 yn gymwys iddo yw dyddiad a benderfynir gan y rheolwr cynllun.

Ystyr “cymwys i fod yn aelod actif” o CPNDT

4.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad penodol os, ar y dyddiad hwnnw, nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 nac o dan CPNDT, a naill ai—

(a)bod P mewn gwasanaeth fel diffoddwr tân sy’n rhoi i P yr hawl i fod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT; neu

(b)bod P mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth pensiynadwy.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT”

5.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu CPNDT; neu

(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun presennol”

6.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun presennol(2) (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)mewn bwlch o ddim mwy na phum mlynedd yn ei wasanaeth.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun presennol nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Ystyr “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol”

7.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (P) yn aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar ddyddiad penodol os yw P, ar y dyddiad hwnnw—

(a)mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw; neu

(b)mewn bwlch yn ei wasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol nid yw P mewn bwlch yn ei wasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Cychwyn aelodaeth actif o’r cynllun hwn

8.—(1Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ac nad oes ganddo barhad gwasanaeth, yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn ar y diwrnod y mae’r person hwnnw’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun.

(2Mae person sy’n aelod trosiannol pan fo’n dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, a chanddo barhad gwasanaeth (T), yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn—

(a)os yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)os nad yw T mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar y dyddiad trosiant, ar y diwrnod y mae T yn dechrau mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn cyflogaeth gynllun ar ôl y dyddiad hwnnw.

RHAN 2Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT

9.—(1Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 12 i 14 yn gymwys yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd.

(2Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu o CPNDT, yn ôl fel y digwydd, pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ac yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT—

(a)rhywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5Os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT mewn amgylchiadau pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, mae P yn aelod diogelwch taprog o CPNDT pan fo P yn dychwelyd i’r gwasanaeth hwnnw.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailgychwyn mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(7At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelod diogelwch llawn yn ystod y cyfnod diogelwch

10.—(1Y cyfnod diogelwch ar gyfer person (P) sy’n aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, yw’r cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT (onid yw P yn aelod diogelwch taprog yn rhinwedd paragraff 9(5)).

(2Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, neu os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch llawn yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

11.  Tra bo person (P) yn aelod diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch llawn: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

12.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar 31 Mawrth 2012; ac

(c)os yw P—

(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992(3), ar neu cyn 1 Ebrill 2022; neu

(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac y byddai P, oni fydd farw, yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT(4), ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)os oedd P yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun presennol

13.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

Diogelwch llawn: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

14.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT a chynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Ebrill 2022.

RHAN 2Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

Aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT

15.—(1Mae person (P) y mae unrhyw un o’r paragraffau 18 i 21 yn gymwys iddo yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Mae P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ba un bynnag o’r diwrnodau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)dyddiad cau diogelwch taprog P; neu

(b)y diwrnod y mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan Gynllun 1992 neu os yw’n ddiweddarach, yn peidio â bod yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT, onid yw is-baragraff (3) neu is-baragraff (4) yn gymwys.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw P, cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol hwnnw pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os yw P—

(a)cyn dyddiad trosiant P, yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT rywfodd ac eithrio o wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol; a

(b)yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT ar ôl bwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraff (4)(b), ar ôl dyddiad cau’r cynllun, nid yw P mewn bwlch mewn gwasanaeth tra bo P mewn gwasanaeth cyhoeddus pensiynadwy.

Eithriad ar gyfer aelodau diogelwch taprog yn ystod y cyfnod diogelwch

16.—(1Y cyfnod diogelwch ar gyfer aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT yw’r cyfnod sydd—

(a)yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad cau’r cynllun; a

(b)yn dod i ben pan fo P yn peidio â bod yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT.

(2Yn ystod y cyfnod diogelwch—

(a)mae P yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan CPNDT neu, os yw P yn aelod actif o Gynllun 1992, yn gymwys i fod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw;

(b)nid yw adran 18(1) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw; ac

(c)mae buddion i’w darparu o dan Gynllun 1992 neu CPNDT, yn ôl fel y digwydd, i P neu mewn cysylltiad â P mewn perthynas â’r gwasanaeth pensiynadwy hwnnw.

Nid yw aelod diogelwch taprog yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn

17.  Tra bo person (P) yn aelod diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT, nid yw P yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â’r gyflogaeth gynllun honno.

Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun

18.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw is-baragraff neu is-baragraff (3) yn gymwys.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun;

(b)os oedd P, ar 31 Mawrth 2012, yn aelod actif o Gynllun 1992 neu’n aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif, o CPNDT; ac

(c)os yw P—

(d)(i) yn aelod actif o Gynllun 1992 ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992 yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026; neu

(e)(ii) yn aelod actif, neu’n gymwys i fod yn aelod actif o CPNDT, ac oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT), neu o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(b)os oedd P yn aelod actif o CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun; ac

(c)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun presennol

19.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun presennol ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Diogelwch taprog: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

20.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol (ac eithrio Cynllun 1992 neu CPNDT) neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol ar y dyddiad cau ar gyfer y cynllun hwnnw;

(b)os oedd P yn aelod actif o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol (“cynllun trosiannol P”) ar 31 Mawrth 2012;

(c)os yw P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, ddim mwy na phum mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol;

(d)os byddai P, ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT, wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun hwnnw ar y dyddiad hwnnw; ac

(e)oni fydd farw, bydd P yn cyrraedd oedran pensiwn arferol—

(i)o dan CPNDT yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gydag 2 Ebrill 2022 ac yn diweddu gyda 31 Mawrth 2026, a

(ii)o dan gynllun trosiannol P ar neu cyn 1 Medi 2025.

Aelodau diogelwch taprog o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol

21.  Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os byddai paragraff 13 neu 14 o’r Atodlen hon wedi bod yn gymwys oni bai am y ffaith na fyddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid yn llawn o’r cynllun presennol neu’r cynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol, y cyfeirir ato ym mharagraff 13(c) neu 14(c), yn ôl fel y digwydd, (“y cynllun sy’n trosglwyddo”) ar y dyddiad y mae P yn dechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT; a

(b)os byddai P wedi bod yn aelod a ddiogelid o’r cynllun sy’n trosglwyddo yn rhinwedd eithriad y mae adran 18(7)(a) a (b) o Ddeddf 2013 (neu’r adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 31(4) o’r Ddeddf honno) yn gymwys iddo, pe bai P wedi ailddechrau mewn gwasanaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun sy’n trosglwyddo ar y dyddiad y mae P yn dychwelyd i wasanaeth sy’n bensiynadwy o dan CPNDT.

RHAN 3Cynllun 1992

Dyddiad geni oDyddiad geni iDyddiad y daw diogelwch i ben
02/04/196701/05/196731/03/2022
02/05/196701/06/196706/02/2022
02/06/196701/07/196714/12/2021
02/07/196701/08/196723/10/2021
02/08/196701/09/196729/08/2021
02/09/196701/10/196706/07/2021
02/10/196701/11/196715/05/2021
02/11/196701/12/196721/03/2021
02/12/196701/01/196828/01/2021
02/01/196801/02/196805/12/2020
02/02/196801/03/196811/10/2020
02/03/196801/04/196822/08/2020
02/04/196801/05/196828/06/2020
02/05/196801/06/196807/05/2020
02/06/196801/07/196814/03/2020
02/07/196801/08/196821/01/2020
02/08/196801/09/196828/11/2019
02/09/196801/10/196805/10/2019
02/10/196801/11/196813/08/2019
02/11/196801/12/196820/06/2019
02/12/196801/01/196928/04/2019
02/01/196901/02/196905/03/2019
02/02/196901/03/196910/01/2019
02/03/196901/04/196922/11/2018
02/04/196901/05/196929/09/2018
02/05/196901/06/196907/08/2018
02/06/196901/07/196914/06/2018
02/07/196901/08/196922/04/2018
02/08/196901/09/196927/02/2018
02/09/196901/10/196904/01/2018
02/10/196901/11/196912/11/2017
02/11/196901/12/196919/09/2017
02/12/196901/01/197029/07/2017
02/01/197001/02/197004/06/2017
02/02/197001/03/197011/04/2017
02/03/197001/04/197021/02/2017
02/04/197001/05/197029/12/2016
02/05/197001/06/197006/11/2016
02/06/197001/07/197013/09/2016
02/07/197001/08/197023/07/2016
02/08/197001/09/197029/05/2016
02/09/197001/10/197005/04/2016
02/10/197001/11/197013/02/2016
02/11/197001/12/197020/12/2015
02/12/197001/01/197129/10/2015
02/01/197101/02/197105/09/2015
02/02/197101/03/197112/07/2015
02/03/197101/04/197124/05/2015

CPNDT

Dyddiad geni oDyddiad geni iDyddiad y daw diogelwch i ben
02/04/196201/05/196231/03/2022
02/05/196201/06/196206/02/2022
02/06/196201/07/196214/12/2021
02/07/196201/08/196223/10/2021
02/08/196201/09/196229/08/2021
02/09/196201/10/196206/07/2021
02/10/196201/11/196215/05/2021
02/11/196201/12/196221/03/2021
02/12/196201/01/196328/01/2021
02/01/196301/02/196305/12/2020
02/02/196301/03/196311/10/2020
02/03/196301/04/196323/08/2020
02/04/196301/05/196330/06/2020
02/05/196301/06/196309/05/2020
02/06/196301/07/196315/03/2020
02/07/196301/08/196323/01/2020
02/08/196301/09/196330/11/2019
02/09/196301/10/196306/10/2019
02/10/196301/11/196315/08/2019
02/11/196301/12/196322/06/2019
02/12/196301/01/196430/04/2019
02/01/196401/02/196407/03/2019
02/02/196401/03/196412/01/2019
02/03/196401/04/196422/11/2018
02/04/196401/05/196429/09/2018
02/05/196401/06/196407/08/2018
02/06/196401/07/196414/06/2018
02/07/196401/08/196422/04/2018
02/08/196401/09/196427/02/2018
02/09/196401/10/196404/01/2018
02/10/196401/11/196412/11/2017
02/11/196401/12/196419/09/2017
02/12/196401/01/196529/07/2017
02/01/196501/02/196504/06/2017
02/02/196501/03/196511/04/2017
02/03/196501/04/196521/02/2017
02/04/196501/05/196529/12/2016
02/05/196501/06/196506/11/2016
02/06/196501/07/196513/09/2016
02/07/196501/08/196523/07/2016
02/08/196501/09/196529/05/2016
02/09/196501/10/196505/04/2016
02/10/196501/11/196513/02/2016
02/11/196501/12/196520/12/2015
02/12/196501/01/196629/10/2015
02/01/196601/02/196605/09/2015
02/02/196601/03/196612/07/2015
02/03/196601/04/196624/05/2015
(1)

Diwygiwyd adran 18(6) gan adran 52(3) o Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19).

(2)

Gweler adran 18(2) o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “existing scheme”.

(3)

S.I. 1992/129: mae rheol A13 yn darparu mai’r oedran pensiwn arferol yw 55 ac mae rheol B1 yn galluogi diffoddwyr tân rheolaidd dros 50 oed i ymddeol unwaith y gallant gyfrif o leiaf 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy. Amnewidiwyd rheol A13 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2006/1672. Amnewidiwyd rheol B1 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru gan O.S. 2005/566 a 2014/3242.

(4)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110): mae rheol 3(1) o Ran 2 yn darparu mai oedran ymddeol arferol aelodau sy’n ddiffoddwyr tân yw 60.